Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn cynnig gwobrau ar gyfer 2 gomisiwn ar raddfa fach a 3 chomisiwn ar raddfa fawr, fel rhan o raglen Cymru Fenis 10.
Mae’r comisiwniau yn agored i artistaid sy’n:
- Hunan datgan yn anabl, Byddar neu niwrowahanol
- Yn byw yng Nghymru
- Sydd â phrofiad proffesiynol o dair mlynedd yn y sector celfyddydau
- Ddim mewn addysg ffurfiol amser llawn amser ar hyn o bryd
Mae’r comisiynau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a chynhyrchu prosiect/gwaith celf newydd. Gall hyn fod yn syniad rydych chi eisiau ei ddatblygu, gwaith newydd rydych chi am ei greu neu am ei rannu ledled y byd. Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yma i’ch cefnogi gyda rhwydweithio rhyngwladol.
Bydd gweithdai Zoom i gyfranogwr darganfod mwy am y comisiwn:
- Dydd Mercher 7ain Medi, 4.00pm (Captioning)
- Dydd Llun 12ain Medi, 4.30pm (Captioning a BSL)
Mae cymorth mynediad ar gael ar gais.
Dyddiad cau: 28/09/2022