Mae rownd nesaf y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol nawr ar agor. Dyddiad cau'r rownd yma yw Dydd Mercher 7 Gorffennaf 2021, 5:00yh GMT

 

Am y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol 

Diben y gronfa 

  • Cefnogi’r broses o ddatblygu syniadau, cydweithio a rhwydweithiau rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a phartneriaid rhyngwladol. 
  • Rhannu profiadau a sgiliau drwy’r celfyddydau mewn cyd-destun byd-eang. 
  • Codi proffil Cymru a’i chysylltiadau drwy’r celfyddydau yn fyd-eang. 

Yn sgil y cyfyngiadau a’r ansicrwydd presennol sy’n gysylltiedig â theithio yn rhyngwladol, bydd y gronfa yn bennaf yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu perthnasau rhyngwladol, cydweithrediadau a rhwydweithiau trwy’r defnydd o blatfformau ac adnoddau digidol am nawr. 

Gellir cynnwys teithio corfforol ochr yn ochr â gweithgareddau digidol, ond dylai fod gennych gynlluniau wrth gefn rhag ofn na fydd hyn yn bosibl.

Gallwch ffeindio mwy o wybodaeth a'r ffurflen cais yma.