Mae gwahoddiad i weithwyr creadigol ac artistiaid yng Nghymru a Ffrainc wneud cais am grant i Gronfa Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc. Yn rhan allweddol o raglen Blwyddyn Cymru yn Ffrainc 2023 Llywodraeth Cymru, mae’r gronfa o £100,000 yn agored i geisiadau gan artistiaid a sefydliadau creadigol yn y ddwy wlad i weithio gyda’i gilydd.

Mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg gan y British Council mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru. Nod y gronfa yw sbarduno cysylltiadau newydd ac adnewyddu cysylltiadau sy’n bodoli’n barod rhwng Cymru a Ffrainc drwy gefnogi cydweithrediadau sy’n meithrin cysylltiadau hirdymor ymysg artistiaid, ymarferwyr creadigol a sefydliadau celfyddydol a diwylliannol.

Mae Blwyddyn Cymru yn Ffrainc yn bwrw golau ar ddiwylliant, iaith a hunaniaeth Cymru, a bydd y Gronfa Ddiwylliannol newydd hon yn rhoi cefnogaeth i weithwyr creadigol fanteisio’n llawn ar ddigwyddiadau mawr a byd-eang - gan gynnwys Cwpan Rygbi’r Byd a Gemau Olympaidd yr Haf ym Mharis. Bydd Blwyddyn Cymru yn Ffrainc yn rhedeg tan fis Mawrth 2024.

Mae’r gronfa’n agored i geisiadau gan unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ym meysydd diwylliant, creadigrwydd a llesiant. Mae cronfa Cymru yn Ffrainc ar agor nawr, ac y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am BST, 30 Mehefin 2023. Rhaid i geisiadau fod gan bartneriaeth rhwng o leiaf un sefydliad neu unigolyn yng Nghymru ac un yn Ffrainc. Rheolir y broses ymgeisio gan British Council ac mae canllawiau a rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan yma. Ceir penderfyniadau ar geisiadau erbyn dydd Gwener 7 Gorffennaf 2023.

Wrth gyhoeddi'r gronfa yn swyddogol, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

"Mae ail-fuddsoddi yn y berthynas rhwng Cymru a Ffrainc i adeiladu’r cysylltiadau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd cryfaf bosibl yn ganolog i’r hyn yr ydym yn gobeithio ei gyflawni drwy Flwyddyn Cymru yn Ffrainc. Rwy’n falch iawn i gyhoeddi agor y gronfa hon, a fydd yn hwyluso datblygiad rhwydweithiau artistig a diwylliannol Cymreig yn Ffrainc ac amlygu diwylliant, treftadaeth ac iaith Cymru i gynulleidfaoedd newydd a datblygu enw a chydnabyddiaeth i Gymru ar lwyfan y byd.

Mae perthynas rhwng Cymru a Ffrainc wedi bodoli ers canrifoedd, ac mae’r cysylltiadau diwylliannol hyn yn rhan bwysig o ail-greu’r berthynas honno yn ein byd ni heddiw. Maen nhw’n ein helpu i weithio gyda’n gilydd ar yr heriau sy’n gyffredin i drigolion ein dwy wlad."

 

Mae Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, yn falch iawn bod artistiaid o Gymru’n rhan o flwyddyn gyffrous Cymru yn Ffrainc. Ychwanegodd:

"Mae’n gyfle i fwrw golau ar ddiwylliant ac ieithoedd amrywiol ac unigryw Cymru, ac i gydweithio’n greadigol ar gaeau rygbi, mewn digwyddiadau arddangos neu mewn canolfannau cymunedol lleol yn Lyon, Nantes neu Marseilles a thu hwnt. Yng Nghymru, mae’r celfyddydau’n chwarae rhan bwysig o ran hybu ein llesiant, a llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch i gyd-ariannu rhaglen sy’n adeiladu ar lwyddiant sioeau arddangos a mentrau cydweithio diweddar rhwng Cymru a Ffrainc. Roedd perfformiad hanner amser gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn y Stade de France yn ystod y gêm rhwng Cymru a Ffrainc ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad a rhaglen ddysgu a chydweithio Theatr Hijinx gyda l’Oiseau-Mouche yn ddwy enghraifft o hyn."

 

Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:

"Mae blwyddyn Cymru yn Ffrainc wedi cynhyrchu gwaith creadigol gwych yn barod, ac mae’n fendigedig i weld mentrau cydweithio newydd yn ffurfio o Gannes i Gaerdydd, o Baris i Brestatyn. Mae’r gronfa newydd hon yn cynnig cyfle gwych i weithwyr creadigol o Gymru a Ffrainc i gysylltu, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddilyn deiliaid y grantiau a’r effaith dw i’n sicr y bydd eu mentrau cydweithio rhyfeddol yn ei gael."