Mae Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl yn golygu cyd-fuddsoddiad gan Creative Scotland, Arts Council England, Arts Council Northern Ireland a Chyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.  

Yn ystod y cyfnod peilot hwn, bydd grantiau rhwng £1,000 a £5,000 ar gael o gyllideb gwerth £100,000 i gyd, a hynny ar gyfer gweithgareddau wyneb yn wyneb, gweithgareddau digidol, neu weithgareddau sy’n cyfuno’r ddau ddull o weithio. Gall y rhain gynnwys cyfnewidfeydd, cyfnodau preswyl, datblygu partneriaethau, cyd-greu a rhwydweithio, a rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n arbrofi â modelau arloesol ar gyfer cydweithio yn rhyngwladol.  Bydd angen i geisiadau gynnwys partneriaid sydd wedi’u lleoli yn o leiaf ddwy o bedair cenedl y DU, ynghyd ag o leiaf un partner rhyngwladol.

Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl - Amserlen

  • Y gronfa’n agor – Dydd Iau 21 Hydref 2021 
  • Dyddiad cau – Dydd Iau11 Tachwedd 2021
  • Penderfyniadau – Dydd Llun 13 Rhagfyr 2021 
  • Cyhoeddi enwau’r rheini sydd i dderbyn arian – Dydd Iau 20 Ionawr 2022
  • Prosiectau’n dechrau– rhwng 10 Ionawr 2022 a 31 Mawrth 2022 
  • Prosiectau wedi’u cwblhau – erbyn 31 Mawrth 2023
     

 

Creative Scotland sy’n rheoli’r broses ymgeisio ar ran cynghorau celfyddydau’r pedair cenedl. Ar ran y bartneriaeth, meddai Joan Parr, Cyfarwyddwr Dros Dro’r Celfyddydau ac Ymgysylltu yn Creative Scotland:

"Mae modd i gelfyddyd a diwylliant ffynnu drwy gyfnewid a chydweithio rhyngwladol. Bydd artistiaid ac ymarferwyr creadigol yn cael ysbrydoliaeth, cyfleoedd i dyfu, a chyfleoedd i ddatblygu’u hymarfer drwy rannu syniadau ac arbrofi â ffyrdd newydd o weithio. Byddan nhw hefyd yn gallu cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

“Mae COVID-19, y ffaith bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r argyfwng hinsawdd sy’n gwaethygu i gyd wedi effeithio ar y sector. Drwy gydweithio â’r asiantaethau a’r cynghorau celfyddydau eraill, gallwn ni ymateb yn fwy effeithiol wrth helpu’r bobl hynny sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i gysylltu â’u cymheiriaid rhyngwladol.” 

 

Mae cyhoeddiad heddiw yn un o gyfres o gynlluniau sy’n golygu cydweithio rhwng asiantaethau a chynghorau celfyddydau pedair cenedl y DU. Yn eu plith mae’r cynllun peilot, Gwybodfan Celf y DU, sy’n rhoi cyngor i bobl am faterion ymarferol ym maes symudedd artistiaid, dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ynghyd ag edrych ar ffyrdd cefnogol a mwy cynaliadwy o greu mentrau dwyochrog gyda nifer o wledydd Ewrop, fel y Fonds SozioKultur yn yr Almaen.

 

Ychwanegodd Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

"Mae pob cenedl yn y DU yn wahanol ac yn amrywiol yn ddiwylliannol, yn artistig, ac yn ieithyddol. Mae gennyn ni i gyd yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban ein diwylliannau ein hunain, yn ogystal â’r dreftadaeth rydyn ni’n ei rhannu.  Mae gweithio yn rhyngwladol yn golygu cydweithio a rhannu cyfrifoldeb byd-eang. Wrth i’n hartistiaid a’n cwmnïau creadigol barhau i weithio yn rhyngwladol, rhaid i’n gofodau ni’n hunain barhau i groesawu artistiaid rhyngwladol sy’n gweithio yn y DU a gyda’r DU.

Ar ôl i’r DU adael yr UE, ac yn sgil colli mynediad i rwydweithiau diwylliannol amlochrog hanfodol, mae’n bwysig bod pedwar cyngor celfyddydau’r DU yn cydweithio’n llwyddiannus wrth inni geisio meithrin ymddiriedaeth yn rhyngwladol, cryfhau cysylltiadau, a chefnogi artistiaid i gydweithio ar draws ffiniau. Ymhlith pryderon a blaenoriaethau cyffredin, niferus y pedair cenedl, mae symudedd rhyngwladol a chysylltiadau ystyrlon i artistiaid ledled y DU; mynediad i wyliau a lleoliadau yn y pedair cenedl i artistiaid rhyngwladol; rhoi llwyfan i gynnyrch artistig amrywiol yn y DU a thramor; a dyfodol teithio rhyngwladol yn sgil yr argyfwng hinsawdd.