Yn 2018 fe deithiodd tîm o artistiaid digidol o Gymru i Montreal yng Nghanada i gynhyrchu a chyflwyno perfformiad ymdrochol byw unigryw – cydblethiad o ddawns gyfoes, ffilmiau 360º a cherddoriaeth fyw. Datblygwyd ‘Liminality’ gan 4Pi Productions mewn partneriaeth gyda’r Society of Arts and Technology (SAT). Cafodd ei ddangos am y tro cyntaf mewn canolfan dan ei sang ym Montreal ym mis Mawrth 2018, ac yna cafodd ei gyflwyno fel un o ddetholiadau swyddogol FIFA (International Festival of Films and Art) rhwng 13-31 Mawrth 2018.

Ym mis Ebrill eleni, rydyn ni’n cyflwyno première Ewropeaidd ‘Liminality’ yn ein Dôm CULTVR unigryw. Mae hwn yn ofod perfformio 12m a grewyd yn arbennig i gyflwyno’r gwaith arloesol yma am y tro cyntaf erioed yn y Deyrnas Gyfunol, ac yn benodol, yma yng Nghymru. Mae gan ein Dôm CULTVR dros 225 metr sgwâr o sgriniau taflunio ymdrochol, system sain amgylchol ambisonig a system oleuo ymdrochol. Yn ogystal â ‘Liminality’ byddwn hefyd yn cyflwyno, ‘Juniper’ - gwaith newydd sbon a gomisiynwyd ar gyfer Gŵyl Diffusion 2019 ac a grewyd ar y cyd gyda Slowly Rolling Camera. Byddwn yn codi’r dôm yn Ystafell Ymarfer 3 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a hwn fydd y gofod taflunio ymdrochol mwyaf o’i fath a welwyd yng Nghymru erioed.

Mae camu i mewn i ‘Liminality’ yn brofiad hudolus ac unigryw sy’n tanio’r synhwyrau a chyffwrdd â’r ysbrydol. Mae hwn yn gynhyrchiad sy’n gwthio ffiniau dulliau adrodd straeon traws-gyfrwng a phosibiliadau creadigol y gofod ymdrochol. Dyma’r pedwerydd digwyddiad dawns 360º a gynhyrchwyd ar gyfer y dôm gan stiwdio traws-gyfrwng 4Pi Productions o Gaerdydd; a dyma’r tro cyntaf i’r cyfarwyddwyr creadigol Matt Wright a Janire Nájera droi un o’u ffilmiau ymdrochol yn berfformiad byw.

“Bu datblygu’r Dôm Dawns ar gyfer perfformiadau byw yn un o amcanion ein partneriaeth greadigol ers tro, ac rydyn ni’n falch iawn o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni. Wrth gyflwyno dau o’n gweithiau mwyaf llwyddiannus, ‘Liminality’ a ‘Liminality Live’, ynghyd â chynhyrchiad newydd sbon, ‘Juniper’, rydyn ni’n gwireddu’n breuddwyd – sef cyflwyno’r gorau sydd gan gelf ymdrochol i’w gynnig, yma yng Nghymru. Mae’n fwy arbennig fyth am ein bod ni’n gwneud hyn dan do gofod ymdrochol y gwnaethom ni ei gynllunio ein hunain. Gyda golwg ar y dyfodol, ein gobaith mawr yw sefydlu hwn yn ganolfan barhaol yma yng Nghaerdydd.” - Matt Wright, cyfarwyddwr 4Pi Productions.

Dechreuodd ‘Liminality’ fel rhan o raglen ddiwylliannol rhwng y Deyrnas Gyfunol ac India a sefydlwyd gyda chefnogaeth British Council Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Bu 4Pi Productions a’r coreograffwyr o Gymru, Kim Noble a Hugh Stainer, yn cydweithio am dros flwyddyn ar y prosiect. Fe fuon nhw’n ffilmio gweithiau dawns yng Nghymru ac India gyda thri o ddawnswyr o India gan archwilio ac adlewyrchu dylanwadau’r naill ddiwylliant ar y llall. Mae’r gweithiau dawns rhyfeddol yma’n cydblethu diwylliant a thechnoleg wrth i’r dawnswyr symud o dirluniau diwydiannol I ardaloedd arfordirol anghysbell yn y ddwy wlad gan archwilio’r hyn sy’n gyffredin yn ogystal â’r gwahaniaethau rhyngddynt.

Enillodd y ffilm fulldome, ‘Liminality’, wobr y ‘Ffilm Fer Ymdrochol Orau’ mewn pedair gŵyl ryngwladol, ac fe gafodd y sioe fyw ei chynnwys ar restr fer Gwobr Lumen yn 2018.

“Wedi cyfnod hir o Ymchwil a Datblygu i greu’r isadeiledd angenrheidiol ar gyfer cyflwyno gweithiau celf ymdrochol yma yng Nghymru, rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni’n gallu perfformio ‘Liminality Live’ yma ar garreg ein drws. Bydd hwn yn gyfle amhrisiadwy i ni gasglu adborth gan ein cynulleidfa yma yng Nghymru cyn cychwyn ar y cyfnod datblygu olaf lle byddwn yn siapio’r gwaith i’w deithio’n rhyngwladol.” - Janire Nájera, cyfarwyddwr, 4Pi Productions

Mae hwn yn brofiad eithriadol o gyffrous i 4Pi Productions. Rydyn ni wrth ein bodd i gael cyfle o’r diwedd i gyflwyno’r gwaith hynod yma a’r gofod ymdrochol unigryw yma (y Dôm CULTVR) i gynulleidfaoedd yng Nghymru.

Cafodd ‘Liminality’ dderbyniad anhygoel gan gynulleidfaoedd yn Montreal, lle cafodd dros 700 o bobl gyfle i brofi’r perfformiad unigryw yma.

Sylwadau gan y Gynulleidfa / Adolygiadau:

“Er ei holl gymlethdod, mae effaith ‘Liminality’ yn eich taro’n syml, ac heb os, maen nhw wedi cyflawni gwaith meistrolgar wrth greu a gwireddu holl blethiadau’r cynhyrchiad yma.”

- Emilie Plante, Pieuvre.ca

“Wrth gamu i mewn i’r dôm, mae’r gwyliwr yn cael ei wahodd i blymio i fydysawd cyfochrog. Mae popeth sy’n digwydd yn ynysu aelodau’r gynulleidfa o’r byd tu allan. O ganlyniad maent yn gallu ymroi’n llwyr i brofiad sy’n aros yn y cof.”

- Lauryane Arzel, Choq.ca