Yn ystod blwyddyn o newid a heriau enfawr i'r diwydiant cerddoriaeth, pan mae cefndir y pandemig Covid-19, Mae Bywydau Duon o Bwys, Brecsit a'r argyfwng hinsawdd yn arwain y sector i gwestiynu beth mae'n ei olygu i allforio cerddoriaeth yn rhyngwladol, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru eisiau cefnogi cyflwynwyr, hyrwyddwyr ac artistiaid o Gymru i fynychu WOMEX yn ddigidol. Mae hwn yn gyfle pwysig i ddatblygu rhaglennu a gwaith artistig, adeiladu rhwydweithiau a chysylltiadau ac i gymryd rhan mewn sgyrsiau byd-eang allweddol.
Ochr yn ochr â’r pandemig, mae mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys wedi ysgogi sgyrsiau brys am gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yng Nghymru mae’r sgyrsiau a gynhaliwyd ar y cyd gan Tŷ Cerdd a Privilege Café am gerddoriaeth a hil wedi dwyn sylw at yr anghydraddoldebau sy’n wynebu cerddorion, cyflwynwyr a rhaglenwyr Du, Asiaidd ac o gefndiroedd Ethnig Lleiafrifol.
Gyda hyn mewn golwg, rydym yn arbennig o awyddus i herio syniadau am sut olwg sydd ar artist creadigol o Gymru, beth yw cerddoriaeth Gymreig a phwy sy'n cynrychioli Cymru. Byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan gyflwynwyr, hyrwyddwyr ac artistiaid nad ydynt wedi bod i WOMEX o'r blaen a/neu sydd o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol; sy’n hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg; sydd ag anableddau neu afiechydon (meddyliol neu gorfforol); sydd o dan 30 oed; sydd ar incwm isel. Gobeithiwn y bydd y rhai nad ydynt fel arfer yn gallu teithio am unrhyw reswm yn cael cyfle i fynychu WOMEX eleni gan ei fod yn ddigwyddiad digidol.
Mae WOMEX hefyd yn gweithredu fel man cyfarfod ar gyfer y Rhwydwaith Cerddoriaeth Gynhenid y Byd, sy'n cysylltu cerddorion brodorol a'r rhai sy'n gweithio mewn ieithoedd brodorol. Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cymryd rhan yn eu cynhadledd rithwir a bydd dirprwyon yn cael cyfle i ymuno â sgyrsiau am gyfrifoldeb byd-eang y Gymraeg tuag at ieithoedd brodorol rhyngwladol eraill, ac am sut y gallwn ddathlu amrywiaeth yr ieithoedd sydd yng Nghymru.
Beth yw WOMEX?
WOMEX yw'r farchnad ryngwladol bwysicaf ar gyfer cerddoriaeth fyd. Mae'r arddangosfa a ffair ryngwladol heb ei hail hon yn dod â gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth eang o arddulliau cerddorol ynghyd, gan gynnwys cerddoriaeth werin draddodiadol a cherddoriaeth ‘roots’, diwylliannau lleol ac ar wasgar, synau trefol ac electronig, yn ogystal â Jazz a cherddoriaeth glasurol o bob rhan o'r byd. Mae WOMEX hefyd yn cynnwys cyngherddau, cynadleddau, uwchgynhadledd DJ a ffilmiau dogfen.
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan gyflwynwyr yng Nghymru (gwyliau, hyrwyddwyr, cynhyrchwyr a lleoliadau) ac artistiaid sy'n dymuno mynychu'r rhifyn digidol o WOMEX 2020 a fydd yn cael ei gynnal ar-lein 21 - 25 Hydref.
Eleni mae’r ŵyl arddangos, a oedd i fod i gael ei chynnal yn Budapest, Hwngari, yn mynd ar-lein am y tro cyntaf. Bydd gan ddirprwyon digidol fynediad at:
- holl gynnwys ar-lein WOMEX 20 gan gynnwys arddangosiadau, cynhadledd, rhaglen ffilm a seremoni wobrwyo
- Mynediad 365 diwrnod i virtualWOMEX, platfform rhwydweithio ar-lein, gyda chyfleoedd rheolaidd i rwydweithio ac ymgysylltu â'r gymuned a defnyddio cynnwys sy'n cael ei lanlwytho trwy gydol y flwyddyn.
- cyfathrebu’n uniongyrchol â holl ddirprwyon a chwmnïau cofrestredig WOMEX
Fel dirprwy byddwch yn cael cyfle i ddatblygu eich gwaith rhaglennu neu artistig a rhwydweithio gyda'r farchnad gerddoriaeth fwyaf yn y byd.
Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn cynrychioli cerddorion o Gymru ochr yn ochr â rhai o Loegr, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a'r Alban ar blatfform rhithwir Horizons at WOMEX fel rhan o’r bartneriaeth Gorwelion.
Pwy ddylai wneud cais?
Rydym yn cynnig tocynnau i gyflwynwyr, hyrwyddwyr ac artistiaid yng Nghymru:
- sy’n rhaglennu neu'n dymuno rhaglennu cerddoriaeth fyd
- sydd eisiau dathlu amrywiaeth ar bob ffurf - hil, rhyw, rhywioldeb, oedran, iaith, anabledd
- sydd wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd o gysylltu Cymru â'r byd a'r byd â Chymru
- sydd wedi ymrwymo i gefnogi ieithoedd brodorol fel rhan o nod Cyfrifoldeb Byd-eang Cymru ac i ddathlu ieithoedd amrywiol Cymru, trwy berfformio, rhaglennu neu gydweithredu.
Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i unigolion:
- o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol
- ag anableddau neu afiechydon (meddyliol neu gorfforol)
- sydd o dan 30 oed
- ar incwm isel
- sy’n hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg
- pwy sydd ddim wedi bod i WOMEX o'r blaen.
Rhaid i chi fod ar gael 21 - 25 Hydref a bod â chyfrifiadur a WiFi i allu mynychu'r digwyddiad. Mae WOMEX yn cynnig rhaglen gynadledda gyfoethog i ddirprwyon yn ystod y dydd a chyfle i gysylltu â rhwydweithiau byd-eang. Mae'r rhaglen gyda'r nos yn cynnig cyfle i archebwyr wrando ar rai o'r cerddorion mwyaf cyffrous, er mwyn i wyliau, cynhyrchwyr ffilm a lleoliadau yng Nghymru eu rhaglennu. Rhaid i chi fod ar gael ar gyfer sesiwn friffio cyn y digwyddiad ar 19 neu 20 Hydref lle byddwch yn derbyn cefnogaeth a chyngor gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru ar sut i wneud y gorau o'r digwyddiad.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn tocyn dirprwy digidol gwerth €79 a fydd yn rhoi mynediad i chi i raglen yr ŵyl arddangos ar-lein. Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru’n gyfrifol am archebu eich tocyn dirprwy.
Y cais:
Rydyn ni eisiau gwybod mewn cwpl o baragraffau (neu fideo os yw'n well gennych chi) pam fod gennych chi ddiddordeb mewn mynychu WOMEX 2020 a beth hoffech chi ei gael o'r cyfle. Hoffen ni wybod:
• Sut rydych chi'n meddwl y gallai mynychu WOMEX 2020 effeithio ar eich penderfyniadau rhaglennu yn y dyfodol a/neu ddatblygu eich gyrfa ryngwladol.
• Sut y byddwch yn defnyddio'r cyfle er budd eich cymuned
• Sut byddech chi'n gweithredu fel llysgennad cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt
• Pa brosiectau neu rwydweithiau rhyngwladol rydych chi wedi ymwneud â nhw hyd yn hyn (os o gwbl) neu unrhyw ddiddordeb rhyngwladol cyfredol yn eich gwaith
• Pam fod hwn yn gyfle amserol i chi.
Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried nid ar sail profiad unigolyn yn unig ond hefyd ar gryfder eu potensial.
Pryd ydw i'n gwneud cais?
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17:00 ar 14 Hydref 2020. Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 16 Hydref 2020.
Sut mae gwneud cais?
Anfonwch eich atebion at y cwestiynau uchod atom ynghyd â CV.
Dywedwch wrthym hefyd a ydych wedi bod i WOMEX o'r blaen ac a ydych chi'n uniaethu ag un neu fwy o'r nodweddion canlynol:
- Unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig
- Unigolion ag anableddau neu salwch (meddyliol neu gorfforol)
- Unigolion sydd o dan 30 oed
- Unigolion sy'n gweithio yn y Gymraeg neu gyda hi
- Unigolion ar incwm isel.
Os gallwch, cyflwynwch ddau neu dri llun cyhoeddusrwydd hefyd wedi'u fformatio ar 300 dpi neu'n uwch.
Anfonwch eich cais, gyda ‘WOMEX 2020 Pass’ fel y pwnc, i Info@wai.org.uk erbyn 17:00 ar 14 Hydref 2020.
Os hoffech wneud cais am y cyfle hwn ond nad ydych yn siŵr a yw'n iawn i chi, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â Judith Musker Turner Judith.muskerturner@wai.org.uk i gael sgwrs anffurfiol.
I gael rhagor o wybodaeth am WOMEX: www.womex.com