Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd Cymru fel partner rhyngwladol Showcase Scotland yn Celtic Connections 2023, ochr yn ochr â’n ffrindiau yn Llydaw. Mae rhannu’r llwyfan gyda Llydaw yn yr ŵyl Geltaidd fawreddog hon yn achlysur arbennig i Gymru, gan fod y digwyddiad hefyd yn cyd-fynd  â dechrau Blwyddyn Cymru yn Ffrainc. Mae’r digwyddiad hefyd yn dilyn flwyddyn digidol Showcase Scotland ym mis Ionawr 2022, pan berfformiodd 6 artist anhygoel o Gymru fel rhan o raglen o gerddoriaeth Geltaidd ac ieithoedd brodorol a bontiodd cynulleidfaoedd yng Nghymru a’r Alban gyda’r byd.

Dechreuodd y gwaith o chwilio am artistiaid Arddangosiad Spotlight Cymru Wales 2023 ym mis Gorffennaf eleni, a chafodd ei arwain gan Tŷ Cerdd a’i gefnogi gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Focus Wales, a Trac Cymru. Dewiswyd y detholiad terfynol gan Donald Shaw, Cynhyrchydd Creadigol Celtic Connections, ac rydym yn falch o allu cyhoeddi’r 3 artist hynny heddiw:

Cerys Hafana

Yn wreiddiol o Fachynlleth, lle mae afonydd a ffyrdd yn cyfarfod ar y ffordd i'r môr, mae Cerys Hafana yn gyfansoddwr ac aml-offerynnwr sy’n manglo a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae ei cherddoriaeth yn chwarae efo posibiliadau unigryw'r delyn deires, ac mae ganddi diddordeb mewn deunyddiau archifol a phrosesu electronig. Daw Cerys o Fachynlleth, a rhyddhawyd ei halbwm cyntaf 'Cwmwl' yn 2020. Yn ddiweddar, mae Cerys wedi ffilmio pennod o’r rhaglen teledu poblogaidd Curadur, gan archwilio agweddau mwy rhyfedd cerddoriaeth werin Gymreig. Mae hi hefyd wedi cyfrannu ysgrif i’r llyfr Welsh (Plural), gan sôn am hunaniaeth cwiyr mewn cerddoriaeth werin, ac wedi recordio sesiwn fyw yn stiwdios Maida Vale ar gyfer BBC Gorwelion.

Mwy am Cerys Hafana

Gwilym Bowen Rhys

Cerddor o Fethel yn Arfon ydi Gwilym. Mae wedi bod yn hogi ei grefft ar lwyfannau ers ei arddegau a bellach mae’n un o gantorion gwerin amlycaf Cymru. Mae ei gerddoriaeth yn gymysgedd o’r hen a’r newydd, yn arbrofi gyda hen eiriau ac alawon ac yn eu cymysgu gyda’i gerddoriaeth ffres ac egnïol ei hun. Fe enillodd y wobr am yr ‘artist unigol gorau’ yng Ngwobrau gwerin Cymru yn 2019 ac mae wedi perfformio ei gerddoriaeth dros y byd. Cyhoeddodd ei albym gyntaf ‘O Groth y Ddaear’ yn 2016 â gyrhaeddodd restr fer ‘albym Cymraeg y flwyddyn’ yn yr Eiseddfod Genedlaethol. Yn 2018 cyhoeddodd y cyntaf mewn cyfres o gasgliadau o hen faledi, ac yn 2019 cyhoeddwyd ei drydedd albym: ‘Arenig’.

Mwy am Gwilym Bowen Rhys

VRï

Tri gŵr ifanc o berfeddion Cymru traddodiad y capeli yw VRï, sydd wedi mynd ati i gloddio i gynnwrf diwylliannol y canrifoedd diwethaf ac wedi cael eu hysbrydoli gan stori anhygoel cyfnod pan gafodd cerddoriaeth a dawns draddodiadol Cymru eu darostwng gan gapeli’r Methodistiaid, ac, yn gynharach, ei hiaith gan y Ddeddf Uno. Fel archaeolegwyr sain, mae VRï wedi darganfod perlau hirgolledig sy’n taflu goleuni newydd ar draddodiad gwerin bywiog sy’n harneisio egni amrwd y ffidil gyda cheinder y feiolin, harddwch cerddoriaeth siambr gyda llawenydd a phleserau sesiwn dafarn. Mae eu caneuon, a genir gyda harmonïau lleisiol pwerus, yn adrodd straeon am y bobl oedd yn brwydro 200 mlynedd yn ôl, yn yr un modd ag y mae llawer yn brwydro heddiw. Mae’n seinwedd hyfryd ac unigryw sy’n cysylltu ar draws y canrifoedd i roi ymdeimlad o berthyn, o gymuned i ni, a theimlad hudolus o ysgafnder a rhyddid dyrchafol.

Mwy am VRï

 

Wrth gyhoeddi’r artistiaid a dewiswyd, dywedodd Eluned Hâf (Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru): “Rydym mor falch o weld y 3 artist hyn yn cymryd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd rhyngwladol wrth iddynt baratoi i berfformio yn nigwyddiad mawreddog Showcase Scotland yn Celtic Connections ym mis Ionawr. Mae’r tri wedi rhyddhau albymau gwych yn ddiweddar i ganmoliaeth fawr, gyda phob un yn harneisio hen draddodiadau gwerin Cymru a’r iaith Gymraeg mewn ffordd gyfoes a bywiog. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chynrychiolwyr rhyngwladol yn Glasgow ym mis Ionawr, ac i arddangos rhai o’r artistiaid gorau o Gymru ar y llwyfan byd-eang hwn. Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at rannu’r llwyfan gyda Llydaw eleni, a dathlu'r cysylltiadau diwylliannol agos rhyngom ni."

Wrth iddynt baratoi ar gyfer Showcase Scotland 2023, dywedodd Lisa Whyttock, Cynhyrchydd Showcase Scotland yn Celtic Connections: “Rydym wrth ein bodd yn cael proffilio artistiaid o’n Cefndryd Celtaidd, Cymru a Llydaw, fel rhan o’n digwyddiad yn 2022. Rhwng y 25ain a'r 29ain o Ionawr, bydd 200 o wyliau a sefydliadau cerdd amlycaf y byd yn dod i Glasgow i weld rhai o'r talentau gorau o bob un o'r tair gwlad. Byddant yn darganfod, archwilio, a dysgu am yr artistiaid, tra hefyd yn cael eu cyflwyno i'r berthynas gref a rennir rhwng y tair cenedl. Mae’n arbennig iawn i fod yn dathlu’r agosrwydd hwnnw a gweld ein hartistiaid yn rhannu gofodau yn yr hyn a fydd yn ddychweliad cyntaf i ddigwyddiad mewn person ers 2020.”

 


Mae rhaglen lawn Celtic Connections hefyd wedi’i chyhoeddi, gyda chynlluniau i ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed gyda rhaglen eclectig o sioeau yn Glasgow rhwng 19 Ionawr a 5 Chwefror 2023.

 

25 Ionawr | 7:30pm | Eglwys Mackintosh 
Claire Hastings, Gwilym Bowen Rhys a Blood Harmony

26 Ionawr | 7:30pm | Neuadd Gyngerdd Frenhinol Glasgow
Cerys Hafana yn perfformio fel rhan o Celtic Odyssée a Fara: cyngerdd yn dathlu penblwydd Celtic Connections yn 30 oed gyda 
cast llawn artistiaid rhyngwladol o fri.

27 Ionawr | 8:00pm | Strathclyde Suite Neuadd Gyngerdd Frenhinol Glasgow
Catriona Price: Hert gyda Cerys Hafana

28 Ionawr | 7:30pm | New Auditorium Neuadd Gyngerdd Frenhinol Glasgow
Cara Dillon a VRï