Bydd yn gyfle 6 mis â thâl i ddeg unigolyn sy'n gweithio ym maes celfyddydau gweledol Cymru. Bydd y Cymrodyr yn ystyried sut i ddatblygu eu hymarfer yn rhyngwladol, gwneud cysylltiadau â’r Cymrodyr a gweithwyr eraill yn y maes ac archwilio her a chyfle Biennale Fenis.
Dyma’r Cymrodyr:
- Farah Allibhai
- Phoebe Davies
- Paul Eastwood
- Heledd C Evans
- Rebecca Jagoe
- Rhiannon Lowe
- Owain McGilvary
- Cinzia Mutigli
- Cynthia MaiWa Sitei
- Jennifer Taylor
Cânt grant o £15,000 a’r cyfle i gymryd rhan yn rhaglen ddatblygu Artes Mundi i gael hyfforddiant, mentora, amser i ymchwilio er mwyn ymgysylltu’n ystyrlon â’r Biennale.
Nod y rhaglen yw cefnogi unigolion gyda phrofiad personol amrywiol ar wahanol adegau yn eu gyrfa. Cânt y rhwydweithiau, y sgiliau a'r wybodaeth i wireddu eu huchelgais rhyngwladol mewn ffyrdd newydd.
Meddai Louise Wright, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru: "Hysbysebwyd y Gymrodoriaeth ddechrau Mehefin a chawsom 79 cais a oedd yn ymateb gwych. Roedd amrywiaeth a safon y ceisiadau’n hyfryd i’w gweld a chynhwysent sawl uchelgais gwahanol. Gwelsom yn gliriach y rhwystrau sy’n wynebu pobl o wahanol gefndiroedd ac ar wahanol adegau yn eu gyrfa."
Roedd y panel dewis yn cynnwys:
- Amanda Cachia, curadur, awdur a hanesydd ym maes celf anabledd
- Harriet Cooper, curadur, Pennaeth Celfyddydau Gweledol Jerwood ac aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru Fenis
- Prabhakar Pachpute, artist yn India a chyn-enillydd gwobr Artes Mundi
- Bedwyr Williams, artist yng Nghymru a gynrychiolai Gymru yn Fenis yn 2013
- Louise Wright, Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru a chadeirydd y panel
Rhagor o wybodaeth am y Cymrodyr yma.
Mae'r Gymrodoriaeth yn rhan o Gymru Fenis 10 sy’n cynnig cyfleoedd rhyngwladol a chomisiynau newydd mewn partneriaeth ag Artes Mundi a Chelfyddydau Anabledd Cymru. Gweithiwn hefyd gydag Amgueddfa Cymru a diolchwn am gefnogaeth Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru.
Cyflwynodd y Cyngor naw arddangosfa ym Miennale Fenis gan ddechrau yn 2003. Ond yn 2022 cymerom hoe i ailfeddwl ein hagwedd at y Biennale a gwaith rhyngwladol. Roeddem am gydweithio ag artistiaid mewn ffordd wahanol i nodi ein 10fed tro gyda’r Biennale. Dyma ragor o wybodaeth am Gymru Fenis 10: Cyfleoedd newydd i’r celfyddydau gweledol gan Gymru Fenis 10
Dyma wybodaeth am Gomisiynau Cymru Fenis 10: