Mae partneriaeth y Bont Ddiwylliannol – sy’n cefnogi cyfnewid a deialog rhyng-ddiwylliannol ym maes y celfyddydau a diwylliant cyfranogol rhwng yr Almaen a’r Deyrnas Unedig – yn croesawu ceisiadau ar gyfer 2024-2025.
Mae’r Bont Ddiwylliannol yn rhaglen fuddsoddi unigryw rhwng holl gynghorau celfyddydau’r Deyrnas Unedig a sefydliadau diwylliannol blaenllaw yn yr Almaen. Mae’r rhaglen yn hybu’r broses o ddatblygu partneriaethau trawsffiniol.
Ers ei lansio yn 2021, mae’r rhaglen hyd yma wedi galluogi 44 o sefydliadau sy’n rhoi lle canolog i gymunedau yn eu gwaith i feithrin a datblygu partneriaethau newydd, a’r rheini’n arwain at archwilio a chyfnewid eu dulliau ymarfer drwy’r Deyrnas Unedig a’r Almaen.
Bydd y Bont Ddiwylliannol yn gwahodd ceisiadau ar gyfer rhaglen 2024-2025 o ganol mis Hydref 2023. Dyma gyfle i sefydliadau yn y Deyrnas Unedig a’r Almaen sy’n hybu democratiaeth ddiwylliannol ac sy’n dymuno meithrin neu ddatblygu partneriaethau dwyochrog i weithio gyda’i gilydd a rhannu ymarfer artistig.
Mae canllawiau llawn ar gael. Cofrestrwch i fod ar y rhestr bostio er mwyn cael rhagor o wybodaeth a diweddariadau am y cyfle cyllido hwn.
Gwybodaeth bwysig
Mae saith o bartneriaid yn buddsoddi yn rhaglen y Bont Ddiwylliannol: Fonds Soziokultur, Goethe-Institut London, Arts Council England, Arts Council Northern Ireland, British Council, Creative Scotland a Chyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Mae gan y rhaglen ddwy haen gyllido:
Haen 1: Partneriaethau newydd, hyd at £10,000 i bob partneriaeth.
Gan gefnogi partneriaethau newydd rhwng sefydliadau diwylliannol yn y Deyrnas Unedig a’r Almaen, rhaid i’r ddau sefydliad gael profiad amlwg o ymarfer sy’n ymwneud â chymdeithas.
Haen 2: Partneriaethau sydd wedi’u sefydlu’n barod, hyd at £30,000 i bob partneriaeth.
Gan gefnogi partneriaethau sy’n bodoli’n barod rhwng sefydliadau diwylliannol yn y Deyrnas Unedig a’r Almaen, rhaid i’r ddau sefydliad gael profiad amlwg o ymarfer sy’n ymwneud â chymdeithas. Dylai holl geisiadau Haen 2 gynnwys rhywfaint o ymwneud uniongyrchol/ymarfer cyfranogol gyda chymunedau.
Nid oes gofyniad ar gyfer canfod arian cyfatebol, ond anogir partneriaethau sy’n bodoli’n barod ac sy’n gwneud cais o dan Haen 2 i feithrin partneriaethau ehangach a chanfod incwm arall neu gymorth arall nad yw’n ariannol.
Bydd y penderfyniadau’n cael eu gwneud o dan feini prawf y gronfa (bydd y canllawiau llawn yn cael eu cyhoeddi fis Medi 2023), a’r nod fydd bod yn gynhwysol wrth roi sylw i ddaearyddiaeth ac amrywiaeth ddiwylliannol yr Almaen a’r Deyrnas Unedig.
Amcanion y rhaglen
-
Cefnogi cyfleoedd cyfnewid a datblygu rhyngwladol i sefydliadau diwylliannol yn y Deyrnas Unedig a’r Almaen
-
Galluogi newid cymdeithasol drwy ddatblygu dulliau cyfranogol mewn amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol, a hynny’n ymateb i un neu ragor o themâu’r rhaglen:
-
Adfywio llefydd/cymunedau ôl-ddiwydiannol
-
Llefydd â llai o gyfleoedd i ymwneud â’r byd celfyddydol a diwylliannol
-
Llefydd a chymunedau a gaiff eu gweddnewid gan ymgyrchu ar lawr gwlad
-
Ailddiffinio’r defnydd o ofod cyhoeddus
-
-
Edrych ar fodelau newydd wrth ymarfer yn arloesol, ac yn benodol, profi ffyrdd llawn dychymyg o weithio gyda chymunedau, gan ymateb mewn ffordd newydd a chadarnhaol i ymwneud cymdeithasol.
Pwy sy’n cael ymgeisio?
Mae rhaglen y Bont Ddiwylliannol yn targedu sefydliadau sy’n esiamplau o ddemocratiaeth ddiwylliannol gan eu bod yn gwneud y canlynol:
-
sicrhau bod cymunedau yn ganolog i’w gwaith
-
cefnogi pobl o bob rhan o’u cymunedau i ddatblygu eu creadigrwydd a chanfod eu lleisiau unigol
-
grymuso eu cymunedau i gydweithio er mwyn hybu eu llefydd lleol, eu hunaniaeth gyffredin, a’u gallu i gael effaith ar y cyd
-
chwilio am ffyrdd newydd o gysylltu’r celfyddydau a chymdeithas, yn enwedig drwy feithrin cyd-greu rhwng cymunedau, artistiaid a phartneriaid eraill
Mae’r rhaglen ar agor i bob sefydliad diwylliannol* sydd wedi profi ei allu ym maes ymarfer cyfranogol/ymarfer sy’n ymwneud â chymdeithas. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan sefydliadau sy’n cefnogi rhwydwaith ehangach o ymarferwyr creadigol drwy eu gwaith.
Gwahoddir ceisiadau gan bartneriaethau newydd (Haen 1) neu bartneriaethau sydd wedi’u sefydlu’n barod (Haen 2).
Rhaid i’r partneriaethau gynnwys o leiaf un partner o’r Almaen ac un partner o’r Deyrnas Unedig, a hynny o unrhyw un o’r pedair cenedl: Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Bydd gofyn i’r holl bartneriaethau enwebu arweinydd. Gall y partner sy’n arwain ddod o’r Almaen neu o un o bedair cenedl y Deyrnas Unedig, a’r partner hwn fydd y prif gyswllt ar ran y bartneriaeth. Hwn hefyd fydd yn gyfrifol am adrodd yn ôl i’r cyllidwyr.
Ni fydd ceisiadau niferus gan wahanol bartneriaid ar gyfer yr un gweithgarwch yn gymwys.
[*Wrth sôn am ‘sefydliad’, rydyn ni’n golygu grŵp o bobl sy’n gweithio tuag at nod cyffredin gyda dogfen lywodraethu sy’n rhoi sylw i’r math o brosiect y gwneir cais ar ei gyfer, fel elusen, cwmni cyfyngedig, grŵp anghorfforedig neu sefydliad cofrestredig. Mae angen i bob sefydliad gael cyfrif banc yn enw’r sefydliad, gyda dau lofnodwr (y bobl sydd â hawl i lofnodi sieciau).]
Pwy sydd ddim yn gallu ymgeisio?
-
Artistiaid unigol – mae’r rhaglen hon ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau dwyochrog ymhlith sefydliadau cofrestredig yn unig.
-
Sefydliadau sydd wedi’u lleoli (yn byw neu wedi’u cofrestru) y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu’r Almaen.
-
Sefydliadau nad ydyn nhw’n gallu dangos bod ganddyn nhw record amlwg o ymarfer sy’n ymwneud â chymdeithas.
Dyddiadau Allweddol
-
Dydd Mercher 11 Hydref 2023 Porth Ceisiadau Pont Ddiwylliannol 2024 - 2025 yn agor
-
Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023, 5pm (DU) 6pm (Yr Almaen) Porth Ceisiadau Pont Ddiwylliannol 2024 - 2025 yn cau
-
Dydd Mercher 31 Ionawr 2024 Hysbysu ymgeiswyr o'r penderfyniad terfynol
-
Ebrill 2024 - Mawrth 2025 - cyfnod gweithgarwch prosiectau a ariennir gan Pont Ddiwylliannol 2024 - 2025
Cofrestrwch i fod ar y rhestr bostio i gael diweddariadau am y partneriaethau sy’n cael eu hariannu ar hyn o bryd, ac i gael newyddion am broses ymgeisio 2024-2025.