Daeth cadarnhad mai Cymru fydd partner rhyngwladol Showcase Scotland Expo 2022. Mae’r Showcase yn rhan o ŵyl gerddoriaeth Celtic Connections, sy’n enwog yn y pedwar ban. Mae’r digwyddiad blynyddol fel arfer yn cael ei gynnal yn Glasgow bob mis Ionawr, ond mae’r ŵyl eisios yn ddathliad ar-lein eleni.

Mae Celtic Connections wedi bod ar flaen y gad wrth ailddiffinio diwylliannau Celtaidd yn fyd-eang – gan roi pwyslais ar gydweithio ac ar groesawu pob diwylliant. Eleni, bydd yr ŵyl yn cyrraedd cartrefi ym mhob cwr o’r byd, gan roi mwynhad ar adeg anodd i bawb.

Mae’r digwyddiad i’r diwydiant, Showcase Scotland, yn rhoi llwyfan i artistiaid a gweithwyr yn y diwydiant, ac yn arwain at roi troedle i bobl mewn llefydd ymhell y tu hwnt i’r Alban. Mae’n gyfle i drefnwyr a hyrwyddwyr ymwneud ag artistiaid o’r Alban a Chymru, ynghyd ag artistiaid, gwyliau, lleoliadau ac asiantaethau diwylliannol rhyngwladol.

Dros y flwyddyn nesa, bydd chwech artist o Gymru yn cael eu dewis i berfformio drwy broses o ymgeisio agored, a bydd cyfleoedd hefyd i feithrin cydweithio creadigol agosach rhwng Cymru a’r Alban.

Gan ymateb i’r newyddion, meddai Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru:

“Ar adeg pan mae artistiaid yng Nghymru a’r Alban yn wynebu heriau heb eu tebyg wrth geisio goroesi a chynnal eu proffesiynau, mae ein llywodraethau a’n hasiantaethau yn croesawu’r cyfle i greu ac ailgyflwyno cyfleoedd i’n cerddorion talentog a’n diwydiant cerddoriaeth.

“Bydd hwn yn dirnod o bwys i Gymru a’r Alban wrth nodi dechrau Degawd Ieithoedd Cynhenid UNESCO, ac wrth i’n cenhedloedd a’n diwylliannau feithrin partneriaethau cerddorol ac ieithyddol newydd yn Ewrop ac yn rhyngwladol.”

Gan groesawu’r newyddion, dywedodd Fiona Hyslop, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Gwaith Teg a Diwylliant yn Llywodraeth yr Alban:

“Rwy’n croesawu’r bartneriaeth hon rhwng yr Alban a Chymru ar gyfer rhifyn 2022 Showcase Scotland sydd wedi helpu cerddorion i ddatblygu gyrfaoedd rhyngwladol am fwy nag 20 mlynedd.

“Bydd Llywodraeth yr Alban yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid ledled yr Alban, cenhedloedd eraill y DU, gweddill Ewrop a thu hwnt i helpu i sicrhau bod gan ein hartistiaid - ac artistiaid rhyngwladol sydd ar daith yn yr Alban - y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i rannu eu gwaith yma a thramor.”

Gan gyhoeddi y byddai Cymru yn genedl bartner, dywedodd Lisa Whytock, Cynhyrchydd Gweithredol Showcase Scotland:

“Rydyn ni wrth ein boddau’n croesawu Cymru yn Bartner Rhyngwladol i ni yn 2022, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio dros y misoedd nesaf er mwyn edrych ar ffyrdd o helpu ein hartistiaid a’n diwydiant i ffynnu ar y cyd. Rydyn ni’n falch o’r llwyfan mae Showcase Scotland wedi’i roi i artistiaid dros y ddau ddegawd diwethaf, ac rydyn ni’n cael ein hysbrydoli’n barhaus gan y talent cerddorol rhagorol sy’n cael ei gyflwyno gan Celtic Connections a’r bobl o’r diwydiant byd-eang sy’n cael eu dwyn ynghyd bob blwyddyn.”

Yn y digwyddiad lansio rhithiol, bydd cynrychiolwyr byd-eang Showcase Scotland yn mwynhau perfformiadau gan dri artist o Gymru, i gyd wedi’u ffilmio mewn lleoliadau unigryw yn yr awyr agored. Bydd Lisa Jên, prif gantores y band 9Bach, yn canu acapela i’r gynulleidfa o hen chwarel lechi Dorothea. Drymiwr Balafon traddodiadol o Gini, Gorllewin Affrica, yw N’famady Kouyaté. Ac yntau bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghymru, cafodd ei ffilmio yng nghanol ysblander Eryri. Daw perfformiad Gareth Bonello o ŵyl Gymraeg Tafwyl yng Nghastell Caerdydd.

Bydd rhai o’r artistiaid yn ymddangos yn noson Gymreig Celtic Connections, nos Iau 28 Ionawr, gydag uchafbwyntiau o Ŵyl Ara Deg, sydd wedi’i chreu gan Neuadd Ogwen a’r cerddor Gruff Rhys. Mae rhagor o wybodaeth yn: https://www.celticconnections.com/event/1/night-of-wales-at-celtic-connections 

Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sy’n arwain y bartneriaeth yng Nghymru:

 “Mae sîn gerddorol Cymru yn unigryw ac yn amrywiol. Rydyn ni’n gwahodd cynulleidfaoedd rhyngwladol i brofi ein iaith a diwylliant Celtaidd sy’n ffynnu, ac hefyd i draddodiadau byw a phrofiadau bywyd amrywiol Cymru.

Mewn cyfnod pan mae pobl wedi teimlo effaith pandemig byd-eang yn lleol, ein nod ni yw cysylltu’r byd-eang a’r lleol drwy gerddoriaeth yn ystod y flwyddyn nesaf hon.
 

“Mae’r diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys ein gwyliau a’n lleoliadau cerddoriaeth byw, yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd yn ein dwy genedl, ac yn gorfod addasu i reolau newydd gyda’n cymdogion Ewropeaidd. Gan hynny, rydyn ni’n gobeithio y gallwn, drwy gydweithio, roi hwb newydd i yrfaoedd cerddorion a’u galluogi i gamu yn ôl ar lwyfannau mor fuan a phosib a thra nad yw hynny yn bosib i dyfu eu cynulleidfa ryngwladol ar-lein.”

 

Rhagor o wybodaeth:

 

· Mae consortiwm o sefydliadau cerdd Cymru yn bartneriaid yn y prosiect, gan gynnwys Focus Wales, Neuadd Ogwen, Butetown Arts & Culture Association, BBC Cymru Wales, Llywodraeth Cymru, British Council, Theatr Mwldan, trac, Tŷ Cerdd, Pyst, Eisteddfod Genedlaethol a Chanolfan Mileniwm Cymru. 

· Rydym yn gwahodd cerddorion o Gymru sydd â diddordeb mewn ymgeisio am y cyfle i arddangos yn Showcase Scotland blwyddyn nesaf i fynd i'n gwefan www.wai.org.uk ar 28 Ionawr pan fydd yr alwad am geisiadau yn agor. Bydd ystod o fentrau datblygu artistiaid yn cyd-fynd â'r cyfle. 

· Ar 26 Ionawr, cynhelir cyfarfod bwrdd crwn rhithwir rhwng rhanddeiliaid Cymru a'r Alban i ddatblygu cydweithredu agosach rhwng Cymru a'r Alban. 

· Ar 28 Ionawr, rydym yn edrych ymlaen at noson Gymreig Celtic Connections,gydag uchafbwyntiau o Ŵyl Ara Deg, sydd wedi’i chreu gan Neuadd Ogwen a’r cerddor Gruff Rhys. Mae rhagor o wybodaeth yn: https://www.celticconnections.com/event/1/night-of-wales-at-celtic-connections