Artist sain amgylcheddol gyda nam ar ei chlyw yw Cheryl Beer, hefyd yn adnabyddus fel Y Cyfansoddwr Cwndid. Wedi'i seilio ar draws y 4 poced o fforestydd law sy'n weddill yng Nghymru, mae ei gwaith yn arloesol, ac yn cyfuno biorythmau mewnol y coed a'u trawsnewid i ffilm a sain ddigidol. O'r rhain, mae Cheryl yn cyfansoddi cerddoriaeth - wedi'i arwain gan y coed eu hunain yn llythrennol! Mae ei gwaith yn codi ymwybyddiaeth o ofid natur, ac yn cynnig cyswllt emosiynol i leoliad ar yr un pryd.

Yn arwain at COP26, cafodd Cheryl ei chomisiynu i greu ffilm ar gyfer 'Unlimited Connections North'. Wedi'i henwi'n 'H20', cafodd ei greu wrth ymweld â fforest law Coed Lletywalter. Mae'n ffilm yn drafodaeth ynglŷn â phwysigrwydd cydbwysedd y system eco, rhwng coed, a newid hinsawdd. Mae'r darn hefyd yn archwilio defnydd y Celtiaid hynafol o iaith y coed, a sut mae bywyd Cheryl fel artist sain a chyfansoddwr wedi'i eni o ail-bwrpasu cymorth clyw a thechnoleg biofeddygol.

 

Mae gwaith Cheryl yn cynnwys y gerdd symffonig 'Cân y Coed / Song of the Trees’ sy'n edrych tu ôl i risgl a chyfuno'r fforestydd law am y tro gyntaf mewn miloedd o flynyddoedd. Wedi'i lansio ym mis Mehefin 2022 yng Nghoedfa Coed y Byd Gardd Fotaneg Genedalethol Cymru, mi fydd llwybr sain Cân y Coed hefyd yn cael ei osod gan Coed Cadw (The Woodland Trust) yn y fforestydd law ei hunain. Gan ddefnyddio codau QR, gall ymwelwyr i'r llwybr sefyll gyda'r coed, a gwrando.

Brif gomisiwn Unlimited yw Cân y Coed, a chafodd ei gefnogi gan Cyngor Celfyddydau Cymru.
 

#PethauBychain