Mae Dirty Protest Theatre yn cysylltu pobl yng Nghasnewydd a Rhondda Cynon Taf gyda phobl ifanc Tiriogaeth Frodorol Xingu yyrasil Canolog ym Masn yr Amazon, trwy brosiect 'Creative Climate Connections' mewn partneriaeth â People's Palace Projects.

Mae pobl ifanc eisiau newid y byd, dwyn sylw gwleidyddion, a gweld dyfodol sicr o'u blaenau sy'n ymddangos yn llai sicr fyth, a hyn i gyd yn bryder hinsawdd cyffredin rhwng y ddwy genedl.

Trwy gydol y prosiect yma, mae'r pobl ifanc yn archwilio eu cysylltiadau diwylliannol trwy straeon, ffilmiau a chelf perfformio, arlein a wyneb yn wyneb. Fe ddechreuodd y prosiect ym mis Hydref 2021, ac mi fydd yn parhau i ddatblygu ar ôl COP26.

Mae'r prosiect amlieithog yn caniatáu pobl ifanc Cymru a Xingu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o ddiwylliannau ei gilydd, ynghyd ag ymwybyddiaeth o actifiaeth a chreadigrwydd rhwng pobl ifanc sy'n byw mewn dwy ardal ddiwylliannol benodol yn Ne Cymru. Mae'n gyfle hefyd i hybu hyder arweinyddiaeth y bobl ifanc trwy blatfform rhyngwladol, yn cysylltu trwy'r Gymraeg, Saesneg, Wauja, Portuguese, Kurdish a Turkish.

Mi fydd Dirty Protest Theatre yn cyflwyno'r prosiect yn fyw yn COP26 trwy sianel Youtube People's Palace Projects ar:
5 Tachwedd | 17:00-19:30 GMT

Llun gan Mapapalu Waurá o'r gwneuthurwr ffilm Wauja - Piratá Waujá - gyda phobl ifanc o Diriogaeth Frodorol Xingu yn cysylltu gyda phobl ifanc Cymru arlein.

 

#PethauBychain