"Mae diwylliant yn arf bwerus er mwyn dod i'r afael â'r argyfwng hinsawdd," dwedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Sophie Howe ar ddiwrnod olaf COP26.
Ar Ddydd Gwener 12 Tachwedd 2021, bu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn cynnal 'Climate, in the Visceral Sense. An Ongoing Story in Three Acts' yn Ardal Werdd COP26, mewn cydweithrediad â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru; Eisteddfod Genedlaethol Cymru; stiwdio dylunio fyd-eang IDEO, prosiect celfyddydol Ynys Blastig, a Taylor Edmonds (Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru).
Gwyliwch y digwyddiad yn ôl isod.
Er cafodd y digwyddiad ei gynnal ar ddiwrnod olaf digwyddiadau'r Ardal Werdd, mae'r darn yn cynrychioli parhad, wrth i ni edrych tua'r dyfodol at Wythnos Hinsawdd Cymru ac ymhellach.
"The story you create will live on beyond you in the beating blood of future generations. Make it count, make it heard" - Taylor Edmonds.
Yn dilyn y digwyddiad, clyswom gan Sophie Howe wrth iddi sôn am bwysigrwydd edrych ar ôl ein planed, er lles cenedlaethau'r dyfodol. Gwyliwch y neges gan Sophie isod.
Mae Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhan o bartneriaeth rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, rhannodd bardd preswyl presennol Taylor Edmonds 'Ymgodi o'r Gaeaf' - prosiect a welodd hi'n cydweithio gyda phobl Llanrwst yng Nghwm Conwy. Clywch leisiau plant Ysgol Bro Gwidyr yn y gerdd, gyda'r geiriau wedi'i chrefftio o adroddiadau aelodau Grŵp Gweithredu Llifogydd Llanrwst. Mae Llanrwst yn ardal sydd wedi dioddef helaeth o lifogydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r gerdd yma'n neges ingol i'n hatgoffa o'r weithred sydd angen er mwyn amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol.
Gwyliwch 'Ymgodi O'r Gaeaf' isod.
Rydym hefyd yn edrych ymlaen at glywed mwy gan ein curadur gwadd #PethauBychain Marc Rees dros yr wythnosau nesaf, wrth iddo adlewyrchu ar COP26 a'r argyfwng hinsawdd.
Ymunwch â ni yn Wythnos Hinsawdd Cymru ar y 26ain o Dachwedd ar gyfer 'Codi'r llen neu stopio'r sioe: Ydy'r argyfwng hinsawdd yn newid popeth ar gyfer gwaith rhyngwladol yn y celfyddydau?' wrth i ni drafod ail-feddwl gwaith a theithio rhyngwladol gyda phanel o arbenigwyr.
Cofrestrwch ar blatfform Fresh Water isod i gael mynediad at ddigwyddiadau byw ac ar alw.
Gallwch weld mwy o wybodaeth am y digwyddiad trwy ymweld â'r rhaglen isod a dewis Nov 26.