Diolch i'r cyllid oddi wrth Gronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru a'r arian at achosion da a godir gan chwaraewyr hael y Loteri Genedlaethol mae cronfa, Creu Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 i artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac eraill er mwyn dathlu llwyddiant pêl-droed Cymru ac ymgysylltu â'n cymunedau.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Datblygu Celfyddydau’r Cyngor:

"Ar 5 Mehefin 2022, cymhwysodd Cymru i Gwpan y Byd ym maes pêl-droed i ddynion. Dyma’r tro cyntaf ers 1958 ac mae cyffro mawr ar draws y wlad. Mae’n stori hudolus ac yn destun balchder cenedlaethol. Mae'r balchder yna’n treiddio drwy ein cymunedau, ein gweithleoedd, ein hysgolion a’n strydoedd. Mae gan y digwyddiad y grym i uno ein pobl a’n cymunedau.

"Dyma'r cyfle perffaith i'r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon ddod at ei gilydd i adrodd ein stori a chreu dathliadau o’n hundod a’n cydweithio.

"Sail cronfa Creu yw ymrwymiad y Cyngor i gydraddoldeb, amrywiaeth, y Gymraeg a thalent greadigol. Drwy ariannu profiadau artistig o safon, gallwn gyrraedd yn ehangach a dyfnach i bob un o’n cymunedau."

 

Rydym am gael ceisiadau am hyd at £10,000 i brosiectau sy'n hyrwyddo ein blaenoriaethau wrth ddathlu Cwpan y Byd. Hoffem weld prosiectau celfyddydol uchelgeisiol ac o safon yng Nghymru benbaladr i gysylltu grwpiau cymunedol, sefydliadau celfyddydol a thimau a chymdeithasau chwaraeon.

Nod y prosiectau fydd cyrraedd ein cymunedau a hyrwyddo’r Wal Goch. Drwy gydweithio, bydd y gwaith yn dangos Cymru amrywiol, gynhwysol a dwyieithog.

Gallai’r prosiectau fod gan sefydliadau celfyddydol a grwpiau profiadol sydd am gydweithio â grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon a’r gymuned ehangach.

Rhwng Llun 5 Medi a Llun 10 Hydref y derbyniwn geisiadau ar thema Cwpan y Byd a’r Wal Goch. Rhwng Iau 20 Hydref a dydd Sul 4 Rhagfyr y bydd y prosiectau’n digwydd.

Mae rhagor o wybodaeth am Greu a sut i ymgeisio yma.

Mae’r Cyngor yn falch o gydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a phartneriaid eraill i ddathlu ein llwyddiant drwy ystod o ddigwyddiadau. Cefnogwn amcanion Llywodraeth Cymru i Gwpan y Byd:

  • hybu Cymru
  • cyflwyno ein gwerthoedd
  • diogelu cefnogwyr Cymru yn y digwyddiad
  • sicrhau gwaddol i’r dathliadau

Diolch i'r Loteri Genedlaethol am gefnogi Creu.