Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn falch o gyhoeddi cydweithrediad newydd sbon gyda Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Maes Awyr New Chitose. 

Am y tro cyntaf erioed, bydd y rhaglen yn cynnwys ffilmiau byrion animeiddiedig o Gymru a Japan, yn ogystal â dosbarthiadau meistr proffesiynol mewn animeiddio o’r ddwy wlad. Bydd tîm Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn dod â ffilmiau o Gymru i’r ŵyl ym Maes Awyr New Chitose yn Hokkaido, sy’n gartref i sinema maes awyr gyntaf erioed Japan. Yn ogystal â dod â dwy ŵyl at ei gilydd, mae’r cyfarwyddwr Nia Alavezos a’r animeiddiwr Asaki Nishino yn datblygu ffilm fer animeiddiedig sy’n dathlu egni diwylliannol Cymru a Japan. Rhwng y ddwy animeiddwraig a’r ddwy ŵyl, bydd y prosiect yn cynnwys cyfnewid diwylliannau yn Hokkaido: gan rannu arferion gwaith, meithrin rhaglen breswyl rhwng pobl greadigol a chyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau animeiddio bywiog.

Wrth sôn am y cyfle i gydweithio, meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Maes Awyr New Chitose, Tomoko Ono: 

Mae’n anrhydedd i ni, Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Maes Awyr New Chitose, fod Gŵyl Animeiddio Caerdydd wedi cynnig y cyfle i ni gydweithio ar brosiectau gyda nhw. Gyda’n cariad cyffredin at animeiddio yn ein cefnogi, rydyn ni’n edrych ymlaen i guradu rhaglenni cyffrous wrth ryngweithio’n ddwfn ar-lein ag aelodau sy’n byw ymhell i ffwrdd yng Nghymru. Bydd y rhaglen gyfnewid o waith animeiddio hynod ddiddorol o Gymru a gwaith animeiddio annibynnol o Japan a’r cyfleoedd hyfryd i gwrdd â gwesteion o Gaerdydd yn ganlyniad cyffrous i’n gŵyl. Rwy’n mawr obeithio y bydd dysgu am y gwahanol ffyrdd o weithio mewn gwahanol wledydd yn ysbrydoli gwneuthurwyr ffilmiau i greu eu prosiectau nesaf.

Fel arddangoswyr rhyngwladol o brosiectau animeiddio annibynnol, mae’r bartneriaeth yn archwilio ffyrdd ei gilydd o weithio ac yn hyrwyddo animeiddwyr o’r ddwy wlad. Gyda hanesion cyfoethog o animeiddio ac adrodd straeon bywiog wrth wraidd y ddau ddiwylliant, mae’r prosiect yn ceisio tynnu sylw at sut mae artistiaid wedi cael eu hysbrydoli gan y gwledydd maen nhw’n eu galw’n gartref. 

O straeon am ysbrydion dialgar i chwedlau unigryw am gariad, ymladd y demoniaid sydd y tu mewn i chi, tacsidermi anifeiliaid anwes, chwarae cuddio a llawer mwy; mae’r rhaglen y bydd Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn mynd â hi i Japan yn dathlu gwaith rhyfedd a rhyfeddol a grewyd yng Nghymru. Mae’r ffilmiau’n cynnwys Affairs of the Art (2021) gan Joanna Quinn, Hounds of Annwn (2023) gan Beth Hughes a Bryony Evans a Creepy Pasta Salad (2019) gan Gyfarwyddwr Gŵyl Animeiddio Caerdydd, Lauren Orme. Ochr yn ochr â’n rhaglen o ffilmiau byrion, bydd y Cynhyrchydd, yr Awdur a’r Cyfarwyddwr Nia Alavezos yn cynnal dosbarth meistr animeiddio yn Hokkaido gan rannu ei gwybodaeth am weithio yn y diwydiant animeiddio yng Nghymru, yn ogystal â hanesion ac uchafbwyntiau o’i gyrfa ffilm ei hun.

Ychwanega Laura Welsman o Ŵyl Animeiddio Caerdydd:

Rydyn ni’n falch iawn o dderbyn y cyfle yma i gydweithio’n agos gydag un o’n hoff wyliau animeiddio ar ochr arall y byd. Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd a Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Maes Awyr New Chitose wedi ymrwymo’n gryf i adrodd straeon diwylliannol a dod â phobl at ei gilydd ar sail hoffter o animeiddio. Mae’r cydweithrediad yma’n rhoi cyfle i ni rannu ein teithiau, ein harferion gwaith a churadu gwaith o Japan ochr yn ochr â gwaith o Gymru a gwaith sy’n seiliedig ar Gymru i greu rhaglen gyffrous.

Mae Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Maes Awyr New Chitose yn cael ei chynnal ym Maes Awyr New Chitose rhwng 21 a 25 Tachwedd. Gallwch ymuno a gwylio’r dangosiadau ffilm o unrhyw le yn y byd rhwng 1 ac 8 Rhagfyr ar lwyfan ar-lein Gŵyl Animeiddio Caerdydd, Eventive. 

Ariennir Gŵyl Animeiddio Caerdydd x Gŵyl Animeiddio Ryngwladol Maes Awyr New Chitose gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, British Council Cymru a Llywodraeth Cymru fel rhan o Gronfa Ddiwylliannol Cymru a Japan 2025, sy’n dathlu ac yn cryfhau cysylltiadau rhwng y ddwy wlad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.