Mae’n bleser gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, gyhoeddi parhad Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Ein nod yw ehangu’r rhwydwaith o ysgolion ledled Cymru a fydd yn cael eu cefnogi i ddyfeisio a chyflwyno prosiectau cydweithredol creadigol sy’n ymwneud â:
-
archwilio hunaniaeth mewn perthynas â thyfu i fyny yn y Gymru gyfoes
-
deall hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas ddiwylliannol amrywiol
-
ennill ymwybyddiaeth o'r bobl, y diwylliannau a'r cymunedau sy'n rhan o'r Gymru gyfoes
-
archwilio profiadau a chyfraniadau pobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol Cymru, ddoe a heddiw
-
gweithio ochr yn ochr ag Arweinwyr Creadigol mewn amgylchedd dysgu i wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Rydym yn gwahodd ysgolion o bob rhan o Gymru i fod yn rhan o’n harlwy dysgu creadigol diweddaraf a fydd yn cysylltu ysgolion ag Arweinwyr Creadigol ysbrydoledig. Lle bo modd, rydym yn awyddus i weithio gydag Arweinwyr Creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol er mwyn ychwanegu dilysrwydd i’r gwaith hwn.
Cefndir
Mae Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol yn tynnu ar gryfderau’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol sydd wedi helpu ysgolion i archwilio syniadau a dulliau newydd o addysgu a dysgu dros y 7 mlynedd diwethaf.
Wrth galon y cynllun mae cyd-adeiladu, cyd-gyflwyno, llais y disgybl ac i ganiatau penderfyniadau gan y disgyblion. Mae’n ddull sy’n seiliedig ar waith ymholiadol sy’n defnyddio ymyriadau celfyddydol ac addysgeg greadigol i archwilio themâu, materion a heriau ar draws pob maes dysgu.
Beth fydd y cynnig yn ei olygu
-
Bydd ysgolion yn gweithio ar y cyd a'u Arweinydd Creadigol dynodedig i gynllunio prosiect dysgu creadigol sy’n archwilio maesydd Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol
-
Bydd ysgolion llwyddiannus yn cael eu gwahodd i fynychu cwrs hyfforddi ar-lein undydd a ddarperir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl barod ar gyfer y prosiect. Dangosir y dyddiadau hyfforddi yn y llinell amser isod.
-
Bydd ysgolion yn gweithio ochr yn ochr â'u Arweinydd Creadigol dynodedig i gyflwyno'r prosiectau hyn i ddosbarth o ddysgwyr. Gall dosbarth o ddysgwyr fod yn garfan o ddysgwyr sydd wedi’u tynnu ynghyd o bob rhan o’r ysgol (ni ddylai fod mwy na 30 o ddisgyblion yn cymryd rhan)
-
Fel ysgol, byddwch yn penodi uwch arweinydd i oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r prosiect yn strategol er mwyn ategu dulliau gwrth-hiliaeth ac er mwyn creu effaith ar lefel ysgol gyfan.
-
Fel ysgol, byddwch yn myfyrio drwy gydol y prosiect ac yn cynnal gwerthusiad terfynol. Bydd cyfleoedd hefyd i chi rannu eich canfyddiadau gydag athrawon a bobl greadigol eraill ledled Cymru
Cyllid a chefnogaeth
Rydym yn edrych i weithio gyda hyd at 40 o ysgolion fel rhan o Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol
Bydd pob ysgol yn derbyn 16 diwrnod o gefnogaeth gan Arweinydd Creadigol a gyflogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Yn ogystal â hyn, bydd pob ysgol yn derbyn grant o £2000 tuag at adnoddau i gefnogi'r prosiect.
Bydd yr athro dynodedig yn mynychu cwrs hyfforddi undydd ar-lein a ddarperir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a bydd yn cael cyfleoedd i gydweithio ag ysgolion eraill ledled Cymru i ffurfio rhwydwaith dysgu.
Cymhwysedd
Mae'r cynllun yn agored i bob ysgol gynradd ac uwchradd a gynhelir gan awdurdodau lleol ac a gynorthwyir yn wirfoddol, gan gynnwys ysgolion arbennig a chyfleusterau addysgu arbenigol. Nid yw ysgolion sydd ar hyn o bryd yn Ysgol Greadigol Arweiniol a/neu sydd wedi cymryd rhan yn Cynefin yn flaenorol yn gymwys i wneud cais.
Sut i wneud cais
Mae ffurflen gais ar gyfer Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol i’w gweld yma.
Dylai'r cais hwn gael ei gwblhau gan yr athro a fydd yn cael ei ddynodi i redeg y prosiect.
Mae ceisiadau’n cau am 12:00 (canol dydd), dydd Llun 10 Hydref 2022.
Amserlen
10 Hydref |
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
Wythnos yr 21 o Dachwedd |
Cwrs hyfforddiant i athrawon ysgol ar Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol Mae’n rhaid i ysgolion fynychu fel amod grant |
Wythnos yr 28 o Dachwedd |
Arweinwyr Creadigol yn cael eu paru ag ysgolion Cynllunio’r prosect yn dechrau |
Wythnos yr 23 o Ionawr |
Athro ac Uwch Arweinydd i fynychu sgwrs gynllunio derfynol gyda swyddog cyngor y celfyddydau |
30 Ionawr – 31 Mawrth |
Gweithredu'r prosiectau |
Wythnos 24 Ebrill – 5 Mai |
Digwyddiad rhannu cenedlaethol |
Sut i ddarganfod mwy
Os hoffech wneud cais rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn mynychu un o’n sesiynau briffio ar-lein fel y nodir isod. Bydd hwn yn gyfle i ddarganfod mwy am y cynnig ac i ofyn unrhyw gwestiynau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch ag un o'r tîm dysgu creadigol fel y nodir isod
Daniel.trivedy@celf.cymru Ffôn: 07710026085 |
Gwenfair.hughes@celf.cymru Ffôn: 01492539754 |
Shaun.featherstone@celf.cymru Ffôn: 07710026080 |
Gwneud cais
Bydd angen i’r holl ysgolion sy’n bwriadu gwneud cais i ofalu eu bod wedi cofrestru ar ein porth ar-lein cyn llenwi unrhyw ffurflenni cais. Ar ôl i chi gofrestru ar y porth ar-lein byddwch yn gallu cael mynediad i'r ffurflen gais. Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru'ch ysgol ar ein porth o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn eich bod yn dymuno cychwyn eich cais. I gofrestru ar y porth, cliciwch yma i greu cyfrif.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn print bras, hawdd ei ddarllen, braille, sain a byddwn yn ymdrechu i ddarparu gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw Cymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain ar gais.
Rydym yn gweithredu Polisi Recriwtio Cyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned yn Gymraeg neu Saesneg.