Oes gennych chi gysylltiadau gyda Ffrainc?

Gyda Blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru yn 2023, a rhaglen DU/Ffrainc British Council yn 2024, rydym yn diweddaru ein trosolwg o gysylltiadau celfyddydol rhwng Cymru a Ffrainc ar hyn o bryd, a chroesawn eich help.
 
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a British Council yn casglu gwybodaeth ynghylch phartneriaethau a gweithgaredd diweddar; am brosiectau sydd mewn datblygiad ar hyn o bryd a gweithgaredd ar y gweill sydd wedi ei gadarnhau.
 
Os ydych chi neu eich sefydliad gyda chysylltiadau gweithredol (neu sy’n esblygu) yn Ffrainc, a gyda diddordeb mewn cymryd rhan yn rhaglenni 2023/24, gadewch i ni wybod trwy lenwi’r arolwg byr trwy'r ddolen isod os gwelwch yn dda.