Rydym yn byw trwy gyfnod anodd a digynsail ledled y byd. Mae effaith COVID-19 ar arferion celfyddydol a diwylliannol ledled y byd, gan gynnwys Cymru, yn ddwys. Mae artistiaid a chwmnïau o Gymru yn wynebu effeithiau personol a phroffesiynol sylweddol, yn sgil chanslo neu atal digwyddiadau, prosiectau a chynyrchiadau rhyngwladol y maent wedi gweithio'n galed i'w cyflawni am fisoedd, os nad am flynyddoedd.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a'i asiantaeth ryngwladol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn credu'n gryf, er gwaethaf ein pellter corfforol, y bydd cynnal ein cysylltiadau â'r byd y tu allan ac yn ein cymunedau yn hanfodol trwy'r misoedd nesaf.

Er y gallai fod angen i ni ynysu ein hunain yn unigol, fel sector celfyddydau a diwylliannol gallwn gysylltu'n rhyngwladol ag eraill sy'n wynebu'r un heriau. Mae llawer ohonynt yn cymryd rhan mewn arloesi diwylliannol yn wyneb adfyd eithafol.

Er ei bod yn amlwg bod angen adolygu ein gweithrediadau rhyngwladol yn sylfaenol ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae ein hymrwymiad i ddatblygu'r celfyddydau mewn cyd-destun rhyngwladol yn fwy perthnasol nag erioed. Rydym yn gweithio trwy opsiynau ar gyfer ein rhaglenni rhyngwladol ac ar gyfer cefnogi gwahanol ffyrdd i artistiaid a chwmnïau feithrin a chynnal cysylltiadau a pherthnasau’n rhyngwladol. Byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted ag y gallwn.

Darllenwch ymateb Cyngor Celfyddydau Cymru i COVID-19 i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy’n cael eu cymryd ar lefel genedlaethol.

Ar y lefel ryngwladol, mae cyfyngiadau teithio difrifol i ac o rai gwledydd ar waith, gan gynnwys i ac o'r DU, ac mae'r sefyllfa'n newid yn gyflym. Mae sawl gwlad yn cyflwyno cyfyngiadau hunan-ynysu ôl-weithredol, ac os ydych wedi teithio'n rhyngwladol yn ddiweddar mae'n bwysig eich bod yn gwirio'r cyngor diweddaraf ar: https://www.gov.uk/guidance/travel-advice-novel-coronavirus

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma hefyd: https://www.fitfortravel.nhs.uk

Mae gwybodaeth gyfredol gan Lywodraeth y DU yn cynghori yn erbyn yr holl deithio rhyngwladol nad yw'n hanfodol, ond darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf: https://www.gov.uk/foreign-travel-advice

 

Grantiau’r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol (IOF) a Chronfa Cysylltu - Diweddariad: 18 Mawrth 2020

Rydym wedi ymrwymo i roi pob cyfle i chi ddefnyddio'r cyllid grant rydych wedi'i dderbyn.

Beth fydd yn digwydd i fy grant gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru?

Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn edrych ar sefyllfa pob achos unigol ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth a allwn i ddod o hyd i ffyrdd i ofalu na fydd artistiaid sydd wedi cael cyllid drwy’r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol neu’r Gronfa Cysylltu, neu unrhyw gyllid arall gennym, ar eu colled yn ariannol.

Rydym yn awyddus i roi pob cyfle i chi ddefnyddio'r arian grant a gawsoch i dalu am gostau prosiect rydych chi eisoes wedi eu cael neu byddwch chi’n eu cael yn y dyfodol. Efallai yr hoffech archwilio a oes modd gohirio gweithgarwch tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ond os nad yw hyn yn bosibl, caiff yr holl grantiau sydd eisoes wedi'u hymrwymo i dalu am eich costau eu talu – p'un a gaiff y gweithgaredd a ariennir ei ganslo, ei leihau neu ei aildrefnu.

 

A allwn ni gadw’r grant a’i ddefnyddio rywdro eto os bydd yn rhaid aildrefnu pethau?

Os caiff eich gwahoddiad ei aildrefnu, a’ch bod wedi cael cadarnhad y byddwch yn cymryd rhan, byddwn yn fwy na pharod ichi ddefnyddio’r cymorth grant yn unol â’r bwriad gwreiddiol. Er hynny, mae’n annhebygol y byddwn yn gallu rhoi mwy o arian tuag at y grant mewn sefyllfa o’r fath, felly cofiwch hynny wrth wneud penderfyniadau. Os bydd eich trefniadau hedfan a llety yn caniatáu ichi aildrefnu yn hytrach na chanslo, byddem yn sicr yn eich annog i ystyried yr opsiwn hwnnw.

 

A allwn ni gadw’r grant a’i ddefnyddio mewn digwyddiad tebyg yn 2021?

Efallai na fyddwch yn gwybod ar hyn o bryd a fydd y prosiect neu'r digwyddiad yn cael ei ohirio tan ddyddiad yn y dyfodol. Gallwn adael eich grant ar agor nes bod y sefyllfa'n gliriach.

Ym mhob achos, rydym yn cynghori derbynwyr grantiau i drafod â thîm CRhC.

Opsiwn arall fyddai eich cynghori i dalu unrhyw arian sydd heb ei wario yn ôl, ac i wneud cais arall yn ddiweddarach. Efallai y byddech chi’n ffafrio hynny.

 

A gawn ni gadw’r grant a’i wario ar ddigwyddiad neu weithgareddau eraill?

Os oes ffordd arall o gyflwani’r prosiect yr ydych wedi derbyn cyllid ar ei gyfer, gofynnwn ichi gysylltu â ni a byddwn yn delio â’r cais fesul achos. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y gallai'ch grant gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd hollol ar wahân.

 

Beth os yw hi’n ymddangos bod y digwyddiad/prosiect yn dal i gael ei gynnal, ond nad ydw i am gymryd rhan bellach?

Rydym yn deall y bydd sefyllfaoedd lle bydd gennych resymau teg dros fethu â bod yn rhan, neu dros beidio â dymuno bod yn rhan, o ddigwyddiad neu brosiect a chithau’n cael cymorth CRhC tuag ato. Cysylltwch â ni i drafod hyn a byddwn yn edrych ar bob achos yn unigol.

Os ydych eisoes wedi cael costau am weithgaredd sydd wedi'i ganslo neu ei ohirio, gofynnwn ichi archwilio'r holl lwybrau ar gyfer hawliadau yswiriant. Os oes costau na ellir eu hadennill, ni fyddwn yn disgwyl ichi ad-dalu'r costau hyn.

Ym mhob achos, rydym yn cynghori derbynwyr grantiau i drafod â thîm CRhC.

Opsiwn arall fyddai eich cynghori i dalu unrhyw arian sydd heb ei wario yn ôl, ac i wneud cais arall yn ddiweddarach. Efallai y byddech chi’n ffafrio hynny.

Byddwn mewn cysylltiad â'r holl pobl sydd â grant cyfredol o’r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol neu’r Gronfa Cysylltu i'ch helpu i wneud penderfyniad am eich grant.

 

Ceisiadau Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol a Chronfa Cysylltu sydd wedi cael eu cyflwyno ac yn cael eu hasesu ar hyn o bryd:

Rydym yn parhau i asesu a gwneud penderfyniadau am geisiadau sydd eisoes yn ein system. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gadw at y prosesau a'r amserlenni cyhoeddedig arferol. Os ydych chi'n llwyddiannus yn eich cais, byddwn yn cysylltu â chi i weld a oes angen i chi newid eich cynlluniau yn sgil cyngor y Llywodraeth bryd hynny. Byddwn yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o'ch helpu chi i wireddu'ch cynlluniau, ond os nad yw hynny'n bosibl gallwch ddewis tynnu'n ôl o'ch dyfarniad cyllido. Rydym yn bwriadu bod yn bragmatig a hyblyg os oes angen newid cynlluniau o ganlyniad i COVID-19.

 

Ceisiadau newydd ac yn y dyfodol i'r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol (IOF) a'r Gronfa Cysylltu:

Rydym wedi gwneud y penderfyniad i roi saib  i’r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol a'r Gronfa Cysylltu ar unwaith. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw geisiadau newydd. Bydd hyn yn cael ei adolygu bob mis, gydag ymrwymiad i ailagor y cynlluniau cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol.

 

 

Ailadroddwn ein hymrwymiad i ddatblygu'r celfyddydau mewn cyd-destun rhyngwladol a'n cred bod cysylltu’n rhyngwladol yn hyd yn oed yn fwy perthnasol nag erioed.

Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi. Mae croeso ichi e-bostio'ch cwestiynau a'ch pryderon atom a byddwn yn monitro'ch sefyllfa ochr yn ochr â'r holl artistiaid yr ydym yn eu cefnogi. Anfonwch eich cwestiynau a'ch pryderon at info@wai.org.uk yn y lle cyntaf.