Ar benblwydd Dydd Miwsig Cymru yn 10 oed rydym ni am dynnu sylw chi at rhai o artistiaid anhygoel Cymru, sydd wedi bod yn perfformio ac arddangos ar lwyfannau rhyngwladol ar draws y byd, yn rhannu eu cerddoriaeth iaith Gymraeg.  

Mae Dydd Miwsig Cymru yn dathlu pob math o gerddoriaeth Cymraeg. O gerddoriaeth werin draddodiadol i roc, indie, pync, hip hop, rap a phob math o gerddoriaeth arall. Mae cymaint o gerddoriaeth gwych yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru, ac mae’r diwrnod hwn yn rhoi’r llwyfan i ni ddathlu’r hyn rydyn ni’n ei adnabod a’i fwynhau eisoes, yn ogystal â chyfle i arbrofi a darganfod genres newydd yn ein hiaith.  

Fel rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi bod yn helpu artistiaid yng Nghymru i gysylltu ag artistiaid Brodorol a gwrando ar eu hieithoedd. Rydyn ni wedi bod yn holi’r cwestiwn ‘All gân achub iaith?’. Rydyn ni’n credu bod gan gerddoriaeth y pŵer i ysbrydoli pobl i ddefnyddio a gwarchod iaith. Mae Dydd Miwsig Cymru yn chwarae rhan allweddol yn hyn. Mae ein hieithoedd Celtaidd, fel llawer o ieithoedd Brodorol, yn fregus, ond rydyn ni’n gwybod y gall cerddoriaeth a’r celfyddydau danio hyder, creadigrwydd a gwerthfawrogiad newydd am ddeallusrwydd Brodorol.  

Dyma rai artistiaid sydd wedi bod yn perfformio ar lwyfannau rhyngwladol dros y flwyddyn ddiwethaf.  

 

Cerys Hafana – Llwyfan Horizons yn WOMEX 2024 

Mae Cerys Hafana yn canu’r delyn deires ac yn cyfansoddi alawon Cymreig sy’n manglo, treiglo a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Maent yn archwilio posibiliadau creadigol deunyddiau archifol, caneuon gwerin a salmau, caneuon a ganfuwyd a phrosesau electronig, ochr yn ochr â chyfansoddiadau gwreiddiol. Maent yn dod o Fachynlleth, yng nghanolbarth Cymru, lle mae afonydd a ffyrdd yn cyfarfod ar y ffordd i'r môr. 

Trac yn y fideo:  

  • Tragwyddoldeb – oddi ar yr albwm ‘Edyf’ o 2021 

 

N’Famady Kouyaté – Llwyfan Horizons yn WOMEX 2024 

Mae N’Famady Kouyaté, sy’n byw yng Nghaerdydd, wedi bod yn adeiladu cynulleidfa frwdfrydig yn y DU gyda’i arddull gerddorol unigryw ers iddo symud i Gymru o Gini yn 2019. Ei brif offeryn yw’r balafon – seiloffon pren traddodiadol, sy’n gysegredig i ddiwylliant Gorllewin Affrica a’i dreftadaeth deuluol o’r griot/djeli. Mae o hefyd yn arwain band indie/jazz. Mae cerddoriaeth N’Famady yn gyfuniad o’i dreftadaeth o Orllewin Affrica a dylanwadau cerddoriaeth gorllewinol gan artistiaid fel y Super Furry Animals, The Flaming Lips a 9Bach. Ers dod i'r DU, mae N’Famady wedi bod yn chwarae ac yn teithio’n helaeth, gyda rhai o’i uchafbwyntiau’n cynnwys sioeau a gwyliau megis The Great Escape, Celtic Connections, Greenman, SXSW Austin, Texas, prif lwyfan Latitude, a llawer mwy. Yn 2023 enillodd Gystadleuaeth Glastonbury Emerging Talent gan gadarnhau ei ddyfodol disglair.  

Trac yn y fideo:   

  • Aros i fi yna - oddi ar ei sengl o 2021 

 

Mared Williams – Derbyniad Cefndryd Celtaidd yn Showcase Scotland 2025