Wedi’i lansio yn 2021 i feithrin a datblygu partneriaethau ymhlith y celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector, mae’r gronfa’n cefnogi prosiectau creadigol ledled Cymru sy’n hybu iechyd a lles. Yr haf hwn, derbyniodd dwsin o bartneriaethau arian i dreialu neu ddatblygu eu prosiectau. Rhoddwyd blaenoriaeth i brosiectau celfyddydol creadigol sy'n cysylltu pobl â byd natur, yn cefnogi iechyd meddwl, yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, yn cadw pobl yn egnïol ac yn hyrwyddo lles staff.
Ymhlith y prosiectau llwyddiannus oedd:
- Côr Oasis One World a Gweithredu dros Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro: Treialu effaith Teithiau Cerdded Canu ar les pobl sy’n chwilio am loches.
- Theatr Cynefin a Chanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau Prifysgol Bangor: Ehangu eu cwrs Meddwlgarwch Creadigol gyda'r nod o sicrhau arian cyfatebol y GIG.
- Tanio, Mental Health Matters Wales, Ymddiriedolaeth Awen a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf: Cynnal gweithdai creadigol wythnosol i wella iechyd meddwl drwy'r gyfres 'Tanio Lle i Anadlu'.
- Rubicon Dance a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: Ehangu rhaglen symud er mwyn gwella lles corfforol a meddyliol aelodau'r gymuned, cleifion a staff.
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Shakespeare Link: Cynnig cyfleoedd theatr a symud i bobl ag anawsterau cyfathrebu niwrolegol drwy eu prosiect 'Mynegi Eich Hun'.
- Operasonic a’r Gwasanaeth Cymorth i blant a phobl ifanc B/byddar: Darparu profiadau cerddorol a synhwyraidd i blant b/Byddar a theuluoedd drwy eu prosiect 'Synhwyrau Melodaidd’.
- Cwmni Buddiannau Cymunedol Making Sense a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: Cynnal digwyddiadau a gweithdai ar gyfer cydlynwyr gweithgareddau cartrefi gofal.
- Timau Celfyddydau ac Iechyd ac Allgymorth Cymunedol Hywel Dda, Cyngor Sir Gâr, People Speak Up ac Arts4Wellbeing: Defnyddio’r celfyddydau i feithrin ymddiriedaeth, mynd i’r afael â chamwybodaeth a rhannu negeseuon iechyd gyda chymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn yr ardal.
- Familia de la Noche a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: Cefnogi lles rhieni newydd drwy ddawns.
- Elusen Amser i Siarad, Galeri Caernarfon ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Plas Newydd: Defnyddio’r celfyddydau creadigol i gefnogi iechyd meddwl cleientiaid AIS drwy eu prosiect ‘Synwyriwm’.
- Gweithredu yng Nghaerau a Threlái a Chlwstwr Gofal Sylfaenol y De Orllewin: 'Creu GoFOD,' prosiect peilot sy’n defnyddio gweithdai celf i fynd i'r afael â heriau iechyd lleol.
Mae Cronfa Loteri'r Celfyddydau, Iechyd a Lles yn derbyn ceisiadau newydd tan 11 Medi 2024.