Os byddwch yn teithio i galon mynyddoedd Eryri, troediwch yn ofalus ar hyd y llwybr ansefydlog uwchlaw ffrydiau byrlymus ceunant Aberglaslyn a gwrandewch yn astud, fe glywch ddwndwr ein draig goch yn nwfn yn y ceudyllau o dan Dinas Emrys. Ond heddiw, fe glywch sain newydd hefyd: alaw sy’n llawn golau ac egni, sy’n eich hudo ac yn gwneud i chi ymgolli’n llwyr. Allwch chi ei chlywed? Dilynwch y llais trwy’r grug hyd at hollt yn ochr y mynydd a mentrwch i mewn i’r cysgodion. Allwch chi ei gweld? Dyna hi: Ena Mai!
Mae hi’n wreichionen yn y tywyllwch, yn belen fach o dân, yn adlamu’n ddi–ofn trwy’r ogofâu. Yn ddisgynnydd i’r dreigiau ac wedi’i diddyfnu ar chwedlau sibrydiedig sy’n adleisio trwy gynteddau caregog ei chartref, mae Ena yn cynnal doethineb ei chyndeidiau yn ddiogel yn ei chalon gynnes ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. A does dim yn well ganddi nag adrodd stori. Rhowch wên gyfeillgar iddi – mae hi ychydig yn swil – ac fe ddaw hi i sibrwd yn eich clust. Ond gwyliwch rhag llosgi eich hun! Beth yw hyn? Mae hi eisiau eich tywys ar daith. Mae hi ar chwilfa, ac mae croeso i chi ymuno â hi…
Esgynnwch gyda hi heibio i gopaon creigiog a gwyliwch hi wrth iddi oleuo pob cwm gyda’i hewyllys da diddiwedd, fel heulwen yn torri trwy’r cymylau. Nid yw ei hysbryd byth yn pylu, dim hyd yn oed gan y tywydd mwyaf tywyll, a boed haul neu hindda, fe ddaw allan i chwarae gyda phlant Rhyd-ddu, Nantlle, Llanberis: mae ei henw yn codi gwên ym mhob pentref ar ei ffordd droellog i lawr at Afon Menai. Bydd hi’n eistedd ar furiau Castell Caernarfon, yn adrodd straeon, a bydd prysurdeb a stŵr y Maes yn tyfu ychydig yn uwch, ychydig yn fwy animeiddiedig. Wedyn, ar ôl troelli’n gyflym dros lannau Ynys Môn, bydd hi’n eich tywys tua’r dwyrain, gan ruthro ar hyd arfordir godidog Gogledd Cymru a phlymio i mewn i bob tref i rannu rhywfaint o ysgafnder a chwerthin.
Mae Tŷ Pawb yn Wrecsam yn fan aros gwych ar gyfer Ena; mae’n perthyn i leoedd ble mae’r gymuned yn dod at ei gilydd i ddathlu ei diwylliant a rhannu syniadau. Yn hwyrach, fel byddwch yn hedfan dros gefnau moel Mynyddoedd y Cambria fe glywch donau pell côr yn codi ar yr awel o gapel unig, a bydd Ena yn aros i gyd-ganu hen emyn ar gyfer cytgan neu ddwy, cyn hedfan ymlaen tuag at arfordir y gorllewin. Fe hedfanwch yn isel ar hyd prom Aberystwyth gyda’ch gilydd gan ymuno â dolffiniaid sy’n llamu yn y bae, cyn anelu tua’r de a hedfan mewn cylch dros ddociau Abertawe. Yna, bydd yn amser i ymlwybro drwy bentyrrau mudlosg Port Talbot (mae Ena’n hoff o fflamau) a hedfan igam-ogam i fyny ac i lawr llethrau serth y Cymoedd, cyn gorffwys o’r diwedd ar do’r stadiwm yng Nghaerdydd, lle mae’r dorf ar ddiwrnod y gêm yn rhuo fel draig y gellir ei chlywed o gorneli pellach ein prifddinas.
Heddiw, bydd grym y seindon honno yn codi’r ddau ohonoch, allan ac i ffwrdd tua’r dwyrain; ymhell y tu hwnt i’n glannau cyfarwydd; gan wehyddu gydag awyrennau uwchben y cymylau nes byddwch yn sbïo ffurf nodedig Mynydd Fuji a’i gopa wedi’i fframio yng ngoleuni’r wawr. Bron â chyrraedd! Un hediad troellog hir am y tro olaf heibio i gromlin y mynydd a dyma chi’n glanio’n sydyn ar do stadiwm arall yn Tokyo, a hynny mewn pryd ar gyfer cychwyn gêm gyffrous, gyda’r dorf o dan ei sang. Gwrandewch! Ymysg yr acenion cyfarwydd byddwch yn clywed tafodau yn ymrafael â geiriau Hen Wlad Fy Nhadau am y tro cyntaf erioed.
Bydd Ena yn edrych arnoch chi nawr, â disgleirdeb yn ei llygaid, ac ni fydd yn dweud yr un gair. Mae hi’n ddiymhongar yn hyn o beth. Ond mae ei chwilfa wedi’i chwblhau am heddiw. Oherwydd unwaith y byddwch wedi hedfan gyda Ena Mai, byddwch yn siŵr o deimlo ychydig o’i chynhesrwydd gwresog yn tanio eich calon eich hun. Ond peidiwch ag ofni – mae ganddi ddigon i’w rannu, a bydd hi’n cychwyn ar ei thaith unwaith eto yfory, yn rhannu ei straeon ledled y tir gan ddod â ni gyd ychydig yn agosach at ein gilydd gyda’i hegni, sy’n deillio o bŵer y bywydau, yr hanesion a’r profiadau a rennir, sy’n newid yn barhaus ac sy’n rhoi ystyr i'r gair Cymru.
Mae Ena Mai yn gymeriad a ddyluniwyd gan yr artist Mark James ac sydd wedi ei animeiddio gan Bait Studio. Mae hi’n ddyluniad sy’n datblygu sydd wedi ei gomisiynu gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru i gefnogi lansiad y rhaglen ddiwylliannol Cymru|Wales • Japan 2019 ウェールズ - 日本. Crëwyd stori Ena Mai, uchod, gan Judith Musker Turner.
スノウドニアの山々の奥深くに行ったなら、アベルグラズリン渓谷を流れる渓流を見下ろす山道を、足元に気をつけながら歩き、地面に耳を近づけてみてほしい。ディナス・エムリスの地下深く、洞窟からレッド・ドラゴンの低く唸る声が聞こえるだろう。でも今日は、今まで聞いたことのない元気のいい明るい歌声も聞こえるはずだ。思わずつられて足で拍子をとりたくなるようなメロディ。聞こえる? 歌声に導かれて紫のヒースの茂みを通り抜け、山あいの割れ目の暗闇に足を踏み入れてごらん。見える? ほら、いる、エナ・マイ!
エナ・マイは、暗闇の中の火花、洞窟の中を輝きながら目まぐるしく飛び回る小さな火の玉。ドラゴン達の子孫で、岩盤を通してかすかに聞こえてくる様々な伝説を食べて大きくなってきた。未来を生きる世代のために、エナはその暖かい心の中に、私達の先祖が残した知恵をしっかりと抱えている。そして物語を語るのが何よりも大好きだ。親しげに微笑みかけてあげれば(彼女はちょっと恥ずかしがり屋だから)、寄ってきて耳元に囁いてくれるだろう。でも火傷しないように気をつけて! あれ、エナがあなたを旅に連れて行きたいって。目的のある旅だから一緒に来てほしいって。
エナと共に空高く舞い上がり、切り立った山頂を越えよう。雲間から太陽の陽射しがさすように、エナ・マイの思いやりの心が谷あいを次々と明るく照らしていく。どんなにお天気がひどくても、エナの気持ちは沈まない。降っても晴れてもやって来て、リズ・ディやナントゥス、スランべリスの子供達と遊んでくれる。曲がりくねりながらメナイ海峡に向かう途中のどの村でも、彼女の名前を口にすると皆が微笑んでくれる。エナがカナーヴォン城の城壁にちょこんと座って色々物語を話していると、広場のざわめきが少し大きくなって、もっと賑やかになってきた。そしてイニス・モンの海岸上空を旋回した後、東へ。北ウェールズの美しい海岸線を急降下で大きくなぞりながら。町々に明るさと笑いをふりまきながら。
レクサムのティ・パウブはエナが立ち寄るのにはもってこいだ。コミュニティが集まって文化やアイディアを共有できる場所が彼女の居場所だから。そしてカンブリアン山脈を飛び越える頃、彼方にぽつねんと見える教会から、合唱の歌声が風にのって聞こえてくるだろう。するとエナは立ち寄って古い讃美歌を一・二曲一緒に歌ってから、今度は西海岸へ向かう。アバリストウィスのプロムナードをなぞり、入江でしぶきをあげるイルカ達に加わってから、南下してスウォンジー・ドックの上空へ。そこから、今度はポート・タルボットの煙を上げている煙突群の間を飛びぬけ(エナは炎が大好きだから)、起伏の激しいヴァリーズ地域をジグザグに進み、そしてついにカーディフにあるスタジアムの屋根にたどりつく。試合のある日には、観客のドラゴンの雄叫びが、この首都のすみずみにまで聞こえるという。
今日、その雄叫びの音の波が二人を吸い上げ、東へと飛ばしてくれる。ウェールズから遠く離れた彼方へ、雲上を飛び交う飛行機の間をすり抜け、やがて見えてくるのは朝焼けにその美しい姿を見せる富士山だ。あともう少し! 富士山をぐるっと回ってもう一飛び。東京のスタジアムの屋根にドンと到着、ちょうど試合開始に間に合った。ここでも観客の歓声がスタジアムを揺るがしている。聞いて!ウェールズ人に交じって、ウェールズ国歌「我が祖先の地」を初めて歌ってみる人々の声が聞こえるだろう。
エナが潤んだ目であなたを見る。何も言わない。控えめなのだ。こうして、エナの今日の目的は達成した。一度エナ・マイと一緒に飛んだなら、あなたの心にもエナの暖かい炎の火種が宿るだろう。大丈夫、エナにはまだ炎がたっぷりある。共有し変化し続ける人々の暮らし、歴史、経験が彼女のパワーの源、そしてそれらが「カムリ((ウェールズ)」という言葉に意味を与えるのだ。また明日、エナは再び世界を飛び回り、行く先々で人々と分かち合いながら、その暖かい炎の力で、私達みんなの結びつきを少しづつ深めてくれる。
エナ・マイは、アーティストのマーク・ジェームズ氏がデザイン、ベイト・スタジオがアニメーションを手掛けた、アニメーション・キャラクターです。ウェールズ・日本2019文化プログラムのために、ウェールズ・アーツ・インターナショナルが今後も展開していくデザインです。