Ar bob dydd Mawrth cyntaf y mis, mae Gwybodfan Celf y DU yn cynnal bore coffi ar-lein, gan wahodd cyfoedion o’r DU i ymuno am sgwrs anffurfiol am weithio creadigol ar draws ffiniau. Yn agored i bob ffurf celfyddydol, gall boreau coffi ar-lein misol Gwybodfan Celf y DU eich cysylltu ag artistiaid a sefydliadau creadigol eraill yn y DU i rannu heriau, cynlluniau ac uchelgeisiau sy'n rhan o weithio ar draws ffiniau. Mae pob sesiwn yn cael ei harwain gan bwnc sy’n ymwneud â symudedd artistiaid rhyngwladol, ac yn aml gwahoddir siaradwr gwadd i rannu eu profiadau eu hunain.

09:30am GMT | 07 Mawrth 202

Pwnc: Dewch i gwrdd â'r Wybodfanau Ewropeaidd! Rhwydwaith Ewropeaidd o Wybodfanau Symudedd Artistiaid 

Mae Gwybodfan Celf y DU yn gwahodd artistiaid, gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau o'r DU i gwrdd â'r Wybodfanau ar 7 Mawrth. Mae'r digwyddiad yn cynnig cyfle i gymheiriaid glywed gan gynrychiolwyr o Wybodfanau Symudedd Ewropeaidd, ac i rannu gwaith ei hun yn y wledydd a gynrychiolwyd yn sesiwn.

Yn ymuno â’r sesiwn bydd cynrychiolwyr o:
Cultuurloket (Fflandrys / Gwlad Belg)
DutchCulture / Transartists (Yr Iseldiroedd)
Loja Lisboa Cultura (Portiwgal)
Mobiculture (Ffainc)
touring artists (Yr Almaen)

Yn y sesiwn, bydd yr Wybodfanau yn rhannu diweddariadau ar eu gwaith, ac yn tynnu sylw at rai o’r adnoddau sydd ar gael i’r rheini yn y DU sy’n bwriadu ymweld â’u gwledydd priodol ar gyfer gwaith creadigol. Yn ogystal â chlywed gan yr Wybodfanau, bydd cyfle hefyd i dynnu sylw at eich cydweithrediadau eich hun, a byddem yn croesawu chi i rannu diweddariadau am waith yr ydych yn rhaglennu yn unrhyw un o’r gwledydd a gynrychiolir gan yr Wybodfanau sy’n bresennol.