Ochr yn ochr ag arddangosiad swyddogol Cymru a gynhelir yn Ŵyl Ymylol Caeredin rhwng 22-26 Awst, bydd carfan o artistiaid a chwmnïau perfformio sefydledig ac sy'n dod i'r amlwg yn ymuno â thîm Cymru i brofi un o wyliau theatr a pherfformio rhyngwladol mwyaf y byd, gyda chefnogaeth Rhaglen Hadu'r Dyfodol. Gallwch ddarganfod mwy am y garfan isod.
Mae’r rhaglen yn cefnogi artistiaid a chynhyrchwyr sydd eto i fynd â gwaith i’r ŵyl i wireddu eu potensial arddangos yn y dyfodol ac fe’i gweinyddir gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru. Dewiswyd y garfan gan banel o arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant gan gynnwys Dawn Walton, Jafar Iqbal, Fadhili Maghiya, Elen Roberts, Elin Roberts, Jenny Stoves a Maggie Dunning yn cadeirio.
Carfan Hadu'r Dyfodol 2022
Callum Lloyd
Charlotte Lewis
Gareth Chambers
Isaac George
Jukebox Collective
Mae Jukebox Collective yn gydweithfa gymunedol a arweinir gan bobl ifanc sy’n meithrin lleisiau creadigol y dyfodol. Maent yn gwneud hyn trwy eu dosbarthiadau amlddisgyblaethol, academi ac asiantaeth greadigol lle maent yn arbenigo mewn rheoli artistiaid, castio, curadu ac ymgynghori. Eu nod yw dathlu harddwch amrywiaeth a chreu gofod lle gall eu cymuned fynegi eu hangerdd a chael llwyddiant. Maent wedi eu buddsoddi mewn galluogi symudedd cymdeithasol a darparu profiadau trawsnewidiol i unigolion a chymunedau ac yn benderfynol o sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr artistig yn adlewyrchu’r Gymru gyfoes fodern
Kai Hawkins - Artist Cerddorol a Chynhyrchydd
Loren Henry - Cyfarwyddwr Artistig Urban Circle a G-expressions
Patrik Gabco - Dawnsiwr
Sharifa Butterfly - Dawnsiwr ac Awdur
Youness El Mouaffaq - B-boy
Krystal Lowe
LOYALTY
Mae LOYALTY yn gasgliad o bobl greadigol o liw yng Nghymru sydd wedi datblygu drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf ochr yn ochr â derbynnydd Jerwood Live Work Fund, Connor Allen. Mae LOYALTY yn bodoli i gefnogi a meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent yng Nghymru ac mae carfan eleni wedi elwa o gyfleoedd hyfforddi, a sesiynau mentora a Datblygiad Proffesiynol Parhaus gyda phobl fel Luisa Omielan, Rikki Beadle-Blair, Bryony Kimmings a mwy.
Connor Allen
Jodi Ann Nicholson
Joel Bertram
Winnie Arhin
Rhiannon Mair
Taking Flight Theatre Company
Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn cymryd risgiau gyda mynediad creadigol i wneud cynyrchiadau theatr feiddgar, anarferol gyda pherfformwyr Byddar, anabl ac sydd ddim yn anabl. Mae eu gwaith yn teithio o amgylch Cymru a thu hwnt ac maent yn aml yn canfod eu hunain mewn mannau anarferol, yn ogystal â lleoliadau theatr draddodiadol. Ochr yn ochr â’u gwaith teithiol, maent yn meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent anabl, ar lwyfan a thu ôl i’r llenni. Maen nhw’n gwneud hyn drwy gynnal cyrsiau hyfforddiant proffesiynol cynhwysol a chynlluniau mentora ar gyfer pobl sy’n nodi eu bod yn Fyddar neu’n anabl ac sy’n chwilio am y cam nesaf i yrfa yn y theatr, neu i ddatblygu sgiliau presennol a magu hyder. Gyda dros 10 mlynedd o brofiad, maen nhw wedi dod yn sefydliad adnabyddus yng Nghymru ar gyfer cyngor, gwybodaeth neu ysbrydoliaeth ar integreiddio mynediad a gweithio gyda chast cynhwysol. Mae Taking Flight hefyd yn rhedeg theatr ieuenctid Cymru ar gyfer pobl ifanc Byddar a thrwm eu clyw - sef yr unig theatr o'i fath yng Nghymru.
Ciaran Fitzgerald
Emily Rose
Mason Lima Jones
Macsen McKay
Meddai Maggie Dunning, sy’n rheoli prosiect Dyma Gymru yng Nghaeredin: “Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn yn gallu cefnogi grŵp unigryw o artistiaid a chynhyrchwyr i fynd i’r Ŵyl Ymylol eleni, ac yn gobeithio y bydd y cyfle hwn yn eu galluogi i brofi sut beth yw arddangos mewn ffordd newydd. Roedd ansawdd y ceisiadau i’r rhaglen hon yn eithriadol, ac mae nifer yr artistiaid llwyddiannus yn dangos y dalent gyffrous sy’n cael ei meithrin ym mhob cwr o Gymru.”
Bydd y garfan yn meddiannu cyfrif Instagram Celfyddydau Rhyngwladol Cymru drwy gydol wythnos yr arddangosiad, gan ddogfennu eu taith a'u profiadau yn Ŵyl Ymylol Caeredin.