Mae’n gydweithrediad unigryw gan yr Institut français du Royaume-Uni a'r pedair asiantaeth ariannu Prydain. Dyma’r ail waith iddo ddigwydd. Mae Magnetig 2 yn bartneriaeth gydag 8 sefydliad blaenllaw yn Ffrainc a Phrydain. Er mwyn cryfhau cysylltiadau rhwng y sefydliadau ar draws y Sianel, mae'r rhaglen yn bartneriaeth rhwng rhanbarth yn Ffrainc a chenedl ym Mhrydain. Mae'r artistiaid sydd mewn rhanbarth yn Ffrainc wedi gwneud cais am breswyliad mewn gwlad ym Mhrydain ac i'r gwrthwyneb. Mae CAPC yn Bordeaux/Nouvelle-Aquitaine yn cysylltu â Chanolfan Gelfyddydol Wysing yng Nghaergrawnt, Lloegr; Frac Bretagne yn Roazhon/Rennes, Llydaw â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, Cymru; Frac Grand Large yn Dunkirk/Hauts-de-France â Stiwdios Celf Flax ym Melffast, Gogledd Iwerddon; Villa Arson yn Nice/Provence-Alpes-Côte d'Azur â Pharc Cove, yr Alban.
Mae Magnetig wedi dewis wyth 8 talentog sy’n amrywio o fod ar ddechrau eu gyrfa i ganol eu gyrfa i gysylltu â’r 8 sefydliad celfyddydol ledled Prydain a Ffrainc. Dyma’r 8 o Brydain a Ffrainc:
- Tom Cardew (Cymru) i Frac Bretagne (Roazhon, Llydaw)
- Maxime Voidy (Llydaw) i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth (Cymru)
- Chizu Anucha (yr Alban) i Villa Arson (Nice)
- Charys Wilson (Gogledd Iwerddon) i Frac Grand Large (Dunkirk)
- Laure Vigna (PACA) i Barc Cove (Helensburgh, yr Alban)
- Francisco Rodriguez Teare (Hauts-de-France) i Flax (Gogledd Iwerddon)
- Daria Blum (Lloegr) i CAPC (Bordeaux)
- Elise Charcosset (Nouvelle Aquitaine) i Ganolfan Wysing (Lloegr)
Dewiswyd yr artistiaid yn seiliedig ar ansawdd ac arwyddocâd eu cynnig ymchwil am y preswyliad sy’n cwmpasu daearyddiaeth, hanes, cymdeithas a chelf. Mae ganddynt safbwyntiau unigryw ac mae eu hymchwil yn ystyried yn feirniadol gwestiynau am yr argyfwng hinsawdd, yr amgylchedd, mudiadau cymdeithasol pobl dduon, yr argyfwng tai, cynaliadwyedd ynni a pherfformiadau byw.
Bydd yr artistiaid yn dechrau eu preswyliad yn hydref 2023 a chânt ffi fisol o €2500 am eu dau fis yno a hefyd mentora curadurol, llety a lle i weithio. Bydd pob preswyliad wedi’i guradu gan y sefydliad gyda digon o gyfle i rwydweithio.
Mae Magnetig yn ffrwyth cydweithio rhwng yr Institut français du Royaume-Uni, 4 asiantaeth Prydain sy’n ariannu'r celfyddydau, y Cyngor Prydeinig, yr Institut français, Gweinyddiaeth Diwylliant Ffrainc a Gweinyddiaeth Ffrainc am Ewrop a Materion Tramor. Cynhyrchir Magnetig dan ymbarél Fluxus, elusen a sefydlwyd gan yr Institut sydd o hyd yn ei rheoli a chaiff ei hariannu gan bartneriaid cyhoeddus Ffrainc a Phrydain a rhoddwyr preifat. Dros y 13 blynedd diwethaf, mae Fluxus wedi cael ei chydnabod fel hyrwyddwr rhagoriaeth greadigol i artistiaid a lleoliadau, gan gefnogi arddangosfeydd ac ymchwil curadurol yn Ffrainc ac ym Mhrydain.
Am ragor o wybodaeth: fluxusartp@gmail.com
Cefnogir Magnetig gan Gyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yr Institut français du Royaume-Uni, yr Institut français, Gweinyddiaeth Diwylliant Ffrainc, Gweinyddiaeth Ffrainc am Ewrop a Materion Tramor, Cyngor Celfyddydau Lloegr, yr Alban Greadigol, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a'r Cyngor Prydeinig.