Mae Gwybodfan Celf y DU, touring artists ac Internationalen Gesellschaft der Bildenden Künste (Cymdeithas Ryngwladol y Celfyddydau Cain) yn dod â'r sector celfyddydau gweledol yn yr Almaen a’r DU ynghyd mewn digwyddiad ar-lein ar 17 Ebrill 2023. Bydd y digwyddiad yn archwilio’r celfyddydau gweledol yn yr Almaen a'r DU, gyda chynrychiolwyr o bob gwlad yn cyflwyno gwybodaeth. Bydd cyfle hefyd i fynychwyr rwydweithio â’i gilydd, ac i ofyn cwestiynau i’r cyflwynwyr.
17 Ebrill 2023
4:00-5:30pm GMT / 5:00-6:30pm CET
Ar-lein trwy Zoom
Yn ystod y sesiwn, bydd sefydliadau allweddol yn cyflwyno’r strwythurau ariannu a chymorth presennol ar gyfer y celfyddydau gweledol yn yr Almaen ac ar draws pedair gwlad y DU, gan gynnwys:
- Swyddogion celfyddydau gweledol Arts Council of England, Arts Council of Northern Ireland, Cyngor Celfyddydau Cymru a swyddog rhyngwladol Creative Scotland
- Rhwydweithiau celfyddydau gweledol y DU gan gynnwys CVAN (Rhwydwaith Celfyddydau Gweledol Cyfoes)
- Daniel Lindenblatt o touring artists
- Cynrychiolydd o Internationalen Gesellschaft der Bildenden Künste