Mae Gwybodfan Celf y DU yn gynllun er mwyn datblygu adnoddau i helpu artistiaid rhyngwladol sy’n ymweld â’r DU am gyfleoedd creadigol ac i wneud gwaith creadigol. Maen nhw'n cynnig cefnogaeth a gwybodaeth ymarferol, yn rhad ac am ddim, i helpu artistiaid, gweithwyr creadigol proffesiynol, a sefydliadau i ddeall y rheolau ac i arwain pobl drwy rai o’r gofynion gweinyddol sy’n gysylltiedig ag ymweliadau creadigol â’r DU.

Yr hydref hwn, mae Gwybodfan Celf y DU yn cydweithio â sefydliadau symudedd i gynnal nifer o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar symudedd rhyngwladol yn y celfyddydau. Gallwch ddarllen am bob un ohonyn nhw, a chofrestru i fynychu'r digwyddiadau isod.

 

25 Hydref
Gweminar Llifau Symudedd DU-UE y Sector Celfyddydau Gweledol

Ymunwch â’r gweminar symudedd celfyddydau gweledol hwn lle bydd panel o arbenigwyr yn trafod y llifau symudedd artistig a diwylliannol rhwng yr UE a’r DU. Byddant yn rhannu straeon a gwybodaeth o'r sector celfyddydau gweledol gan gynnwys artistiaid llawrydd, curaduron a rhaglenni artistiaid preswyl, ac hefyd yn mynd i'r afael â phryderon ynghylch cynnal cysylltiadau diwylliannol ffrwythlon.

Cynhelir y digwyddiad gan On The Move mewn partneriaeth â Gwybodfan Celf y DU.

Darganfyddwch fwy a chofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn yma

 

 

1 Tachwedd
Bore Coffi Symudedd Artistiaid Rhyngwladol

Yn agored i bob ffurf celfyddydol, gall ein boreau coffi ar-lein misol eich cysylltu ag artistiaid a sefydliadau creadigol eraill yn y DU i rannu heriau, cynlluniau ac uchelgeisiau sy'n rhan o weithio ar draws ffiniau. Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid a rhwydweithiau rydym yn gweithio gydag i rannu mewnwelediadau cyfredol a diweddariadau allweddol ynghylch symudedd rhyngwladol. Bydd agenda pob sesiwn yn cael ei chreu gan yr hyn y byddwch chi a'r cyfrannwr gwadd yn dod i'r diwrnod: boed yn waith gweinyddol ar gyfer arddangosfeydd neu gynyrchiadau; cefnogi artistiaid i groesi ffiniau gyda rheolau mewnfudo newydd; neu'n syml i gysylltu ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Ein nod yw creu rhwydwaith anffurfiol, cefnogol o gyfoedion â ffocws rhyngwladol.

Cynhelir y digwyddiad gan Wybodfan Celf y DU pob dydd Mawrth gyntaf y mis.

Darganfyddwch fwy a chofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn yma

 

 

4 Tachwedd
Gofynnwch i'r Arbenigwr: Symud gwaith celf a nwyddau creadigol rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Eisiau gwybod mwy am symud gwaith celf a nwyddau creadigol rhwng a Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon? Mae cynrychiolwyr y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr wrth law i ateb eich cwestiynau yn y sesiwn ‘Gofyn i’r Arbenigwr’ hwn. Ceir trosolwg cyffredinol o’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i chi, megis ‘Cwblhau â Chymorth’, yn ogystal â chyfle i ofyn cwestiynau penodol i’r cynrychiolwyr. Fe gewch chi gyfle i gyflwyno cwestiynau cyn y digwyddiad, fel rhan o'r broses gofrestru. Byddem yn eich annog i wneud hyn fel y gellir teilwra’r sesiwn i’ch anghenion a’i bod mor berthnasol â phosibl.

Cynhelir y digwyddiad gan Wasanaeth Cymorth i Fasnachwyr mewn partneriaeth â Gwybodfan Celf y DU

Darganfyddwch fwy a chofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn yma

 

 

6 Rhagfyr
Bore Coffi Symudedd Artistiaid Rhyngwladol

Yn agored i bob ffurf celfyddydol, gall ein boreau coffi ar-lein misol eich cysylltu ag artistiaid a sefydliadau creadigol eraill yn y DU i rannu heriau, cynlluniau ac uchelgeisiau sy'n rhan o weithio ar draws ffiniau. Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid a rhwydweithiau rydym yn gweithio gydag i rannu mewnwelediadau cyfredol a diweddariadau allweddol ynghylch symudedd rhyngwladol. Bydd agenda pob sesiwn yn cael ei chreu gan yr hyn y byddwch chi a'r cyfrannwr gwadd yn dod i'r diwrnod: boed yn waith gweinyddol ar gyfer arddangosfeydd neu gynyrchiadau; cefnogi artistiaid i groesi ffiniau gyda rheolau mewnfudo newydd; neu'n syml i gysylltu ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Ein nod yw creu rhwydwaith anffurfiol, cefnogol o gyfoedion â ffocws rhyngwladol.

Cynhelir y digwyddiad gan Wybodfan Celf y DU pob dydd Mawrth gyntaf y mis.

Darganfyddwch fwy a chofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn yma

 

 

Mae Gwybodfan Celf y DU yn bartneriaeth o aelodau o bob un o Gynghorau Celfyddydau'r DU:
Arts Council England
Arts Council of Northern Ireland
Creative Scotland
Chyngor Celfyddydau Cymru  / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru sy'n arwain y gwaith.

Maent hefyd yn rhan o rwydwaith o wybodfannau symudedd ledled Ewrop a’r UDA, ac yn aelod o rwydwaith symudedd On The Move. Mae'r gwybodfan yn gweithio’n agos gyda’r sefydliadau arbenigol hyn yn ogystal â chysylltiadau rhyngwladol drwy rannu gwybodaeth, adnoddau ac arferion gorau ym maes symudedd artistiaid rhwng gwledydd.