Gydag ystod eang o siaradwyr, perfformwyr a phanelwyr yn cymryd rhan, dyma ddigwyddiad i danio ein dychymyg o dan y themâu: Pobl, Planed, Pwrpas a Chreu. Ymhlith y trafodaethau, byddwn yn ystyried rôl y celfyddydau yn ymateb i’r  argyfwng hinsawdd, y Gymraeg a’r celfyddydau, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a phŵer y celfyddydau wrth i ni wynebu heriau byd-eang. 20-22 Medi yw ei dyddiadau’r digwyddiad.

Meddai Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Dywedodd Raymond Williams: ‘I herio’r drefn, rhaid cadarnhau gobaith a thanseilio anobaith’. Dyma ysbryd y sgyrsiau a’r trafodaethau sydd ar y gwelill gennym. Hoffwn i'r digwyddiad fod mor hygyrch â phosibl i bobl ledled Cymru a’r tu hwnt ac felly bydd yn gyfan gwbl ar-lein.

"Bydd y digwyddiadau amrywiol yn llenwi’r tridiau. Chi fydd yn dewis pa rai i’w clywed a gweld yn rhithiol.

"Bydd yr ŵyl yn digwydd yn y Gymraeg a’r Saesneg a bydd cyfieithu i’r Arwyddeg a chapsiynu."

Os oes gennych anghenion hygyrchedd eraill, ffoniwch ni ar 03301 242733 (ar  gyfradd leol) neu anfonwch neges destun at 07797 800504 (ar gyfradd arferol i negeseuon testun).

Am hanner dydd, ddydd Mawrth 20 Medi byddwn yn dechrau gyda cherdd a ysgrifennwyd yn arbennig gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa. Y pumed bardd yn y swydd, a bydd yn y swydd am dair blynedd. Mae Hanan yn fardd, artist a gwneuthurwr ffilm dod o dras Iracaidd a Chymreig.

Bydd yna drafodaethau agored, a chyfle i fynd am daith dywys fyfyriol, ymhlith nifer o bethau eraill. Wrth inni gael cadarnhad gan siaradwyr a chyfrannwyr, byddwn yn ychwanegu sesiynau at ein gwefan: https://celf.cymru

Dyma rai o’r siaradwyr hyd yma:

  • Darren Chetty (awdur, athro, ymchwilydd)
  • Gwennan Mair (Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol, Theatr Clwyd)
  • Sarah Hopkins (Cyfarwyddwr, Cynnal Cymru)
  • Marc Rees (creu a churadu gosodiadau a pherfformiadau)
  • Stephanie Back (artist ac actores Fyddar)
  • Lisa Heledd Jones (Cyfarwyddwr Creadigol, StoryWorks)

Mae’r ŵyl ar agor i bawb – artistiaid, cynhyrchwyr, cynulleidfaoedd, trefnwyr ac ati. Bydd yn gyfle inni ddod at ein gilydd i drafod a gwrando a llunio dyfodol ein celfyddydau.

Bydd rhagor o fanylion a chyfle i gofrestru yn yr wythnos a ddaw.

Diwedd                                                                                   31 Awst 2022