Mae Canolfan Mileniwm eiconig Cymru yng Nghaerdydd yn rhan o gyfres o ddelweddau pwerus a ryddhawyd gan y Loteri Genedlaethol heddiw i amlygu sut fyddai rhai o dirnodau a lleoliadau mwyaf poblogaidd y DU yn gallu edrych os na fyddwn yn dechrau gweithredu yn erbyn materion amgylcheddol difrifol a gofalu yn well am ein planed. 

I nodi Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yng Nglasgow, mae Daisy Lowe, y model a’r amgylcheddwraig, wedi ymuno i gydweithio gyda’r Loteri Genedlaethol i roi amlygrwydd gweledol i raddfa a maint rhai o’r heriau newid hinsawdd ac amgylcheddol a wynebwn yng Nghymru gan ein hannog oll i weithredu. Mae Daisy hefyd yn cyflwyno neges o obaith trwy arddangos rhai o’r prosiectau anhygoel a ariennir gan achosion da’r Loteri Genedlaethol sy’n ymdrechu i wneud ein cymunedau yn wyrddach. 

Mae Daisy yn rhan o gyfres o ddelweddau blaenorol a newydd trawiadol sydd wedi’u haddasu o leoliadau a thirnodau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, i arddangos yr effaith posibl ar yr amgylchedd, petawn yn parhau i lawr y llwybr yr ydym arno heb wneud ychydig o newidiadau gwirioneddol.  

  • Mae Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd: wedi cael ei ailddychmygu fel petai lefelau’r môr i godi y tu hwnt 1.5 gradd y byddai ochr allanol yr adeilad o dan y dŵr. 
  • Theatr Shakespeare’s Globe, Llundain: mae’r mynyddoedd o blastig yn darlunio fod llai na 10% o blastig pob dydd yn cael ei ailgylchu yn y DU. 
  • Sarn y Cawr, Gogledd Iwerddon: wedi’i amlyncu mewn sbwriel i ddarlunio’r symiau syfrdanol o sbwriel morol a ganfyddir ar draethau’r DU .  
  • The Falkirk Wheel, Yr Alban: mae cymylau o fwrllwch trwchus yn darlunio  llygredd awyr fel mater a sut mai dyma yw’r bygythiad amgylcheddol mwyaf i iechyd yn y DU.  

Mae’r delweddau yn nodi canfyddiadau ymchwil newydd oddi wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a gyhoeddwyd heddiw sy’n datgelu’r hyn mae Cymru yn fwyaf pryderus yn ei gylch wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. 

Pan ofynnwyd sut y byddent yn hoffi mynd i’r afael â newid hinsawdd petaent yn arweinydd byd-eang, mae oedolion Cymru yn fwyaf tebygol o ddweud y byddent yn gostwng plastigau un defnydd (63%) , gyda chefnogi economi cylchol yn dilyn hyn (53%). Dywedodd ychydig dros chwarter yn unig y byddent yn gostwng nifer yr hediadau awyren y gall pobl eu cymryd fesul blwyddyn (29%), tra byddai 24% yn gostwng nifer y ceir a werthir nad ydynt yn rhai trydanol. 

Tra bo bron hanner o oedolion Cymru (43%) yn cytuno y bydd COP26 yn eu cymell i weithredu’n bersonol i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn fwy, canfu ymchwil oddi wrth Y Loteri Genedlaethol yn gynharach eleni fod saith mewn deg (73%) ohonom wedi cyfaddef nad ydym yn gwneud digon i achub y blaned.  

Gan fod yn ymroddedig i wneud mwy dros yr amgylchedd, dywedodd y model a’r ymgyrchydd, Daisy Lowe: “Mae’r argyfwng hinsawdd yn fusnes i bawb, ac mae gennym oll gyfrifoldeb i ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gobeithio y bydd y delweddau hyn yn dal dychymyg pobl er mwyn iddynt weithredu fel y gallwn oll weld sut y gallai’r canlyniadau edrych, ac mae’n eithaf dychrynllyd. Nid yw’r newyddion, diolch byth, yn ddrwg i gyd a gallwch wneud gwahaniaeth mawr. Efallai bod pen to sydd heb ei ddefnyddio y gellid ei ddiogelu a’i droi’n fan cyhoeddus neu’n ardal werdd yn agos at eich cartref. Os ydych wedi bod eisiau gwneud gwahaniaeth erioed yn eich cymuned leol, beth am edrych ar yr arian sydd ar gael oddi wrth y Loteri Genedlaethol.” 

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae £2.2 biliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi achosion da amgylcheddol gan ddarparu chwistrelliad hanfodol a mawr ei angen ar gyfer ein cymunedau yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae £60 miliwn wedi cael ei wobrwyo i 730 o brosiectau gwyrdd gan grwpiau cymunedol sy’n diogelu cynefinoedd naturiol, o osodiadau celfyddydol sy’n addysgu pobl ifanc ar newid hinsawdd, i waith adfer ar raddfa fawr i dirweddau. Diolch i’r arian hwn, mae’r prosiectau hyn yn arwain y ffordd o ran dulliau, dyfeisgarwch technolegol ac ymgysylltu fel yr ydym yn gweithio’n gydweithredol i achub y blaned.   

Mae achosion da a ariennir gan y Loteri Genedlaethol i wneud eu hardaloedd yn wyrddach led led Cymru yn cynnwys Llandysul A Phont-Tyweli Ymlaen Cyf, a sefydlodd Dolen Teifi – system cludiant cymunedol sy’n gweithredu cerbydau trydan. Diolch i arian Y Loteri Genedlaethol o fwy na £446,000, mae’r prosiect wedi datblygu ateb cludiant cwbl hygyrch sydd wedi’i deilwra, yn garbon isel ac yn hynod isel ar allyriadau i fynd i’r afael â diffyg cludiant i bobl er mwyn cael mynediad at wasanaethau lleol a rhanbarthol allweddol. 

Yn Rhondda Cynon Taf, gostwng y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi yw un o brif nodau’r sefydliad Gadael i Ni Chwarae (Play It Again Sport).  Gyda chefnogaeth bron £115,000 oddi wrth y Loteri Genedlaethol, mae Gadael i Ni Chwarae a leolir yn Rhondda yn casglu dillad chwaraeon nad oes mo’u heisiau bellach o fewn cymunedau lleol, ynghyd â dillad ac offer diwedd llinell oddi wrth gwmnïau chwaraeon, er mwyn eu hailgylchu a’u hailwerthu am brisiau fforddiadwy neu eu cyfrannu hyd yn oed i deuluoedd na all fforddio prynu dillad chwaraeon newydd.  

Yn y cyfamser, diolch i £260,000 oddi wrth y Loteri Genedlaethol, mae’r Prosiect Adfer Mawndiroedd yng Nghastell-nedd a Phort Talbot yn helpu i adfer dros 540 hectar o dirweddau a chynefinoedd sydd wedi’u hesgeuluso, a adwaenwyd unwaith fel Alpiau Morgannwg. 

O ddatblygu cynlluniau gweithredu ar gynaliadwyedd; gosod targedau megis gostwng allyriadau gan 5% yn flynyddol; ymrwymo i allyriadau sero-net erbyn 2030; gostwng cyfanswm y gwastraff sy’n cael ei yrru i safleoedd tirlenwi; neu wella cyfraddau ailgylchu – mae holl ddosbarthwyr arian y Loteri Genedlaethol yn cymryd mesurau i reoli eu heffaith amgylcheddol eu hunain ac maen nhw’n ceisio sicrhau fod y sefydliadau sy’n derbyn grantiau’r Loteri Genedlaethol yn rheoli eu harian mewn ffordd gyfrifol yn amgylcheddol.  

Dywedodd Ros Kerslake CBE, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chadeirydd Fforwm y Loteri Genedlaethol: “Tra bo’r byd yn canolbwyntio ar COP26, rhaid i ni oll ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud, fel sefydliadau ac fel unigolion, i arafu cyfradd newid hinsawdd. Rydym yn gofyn fod prosiectau a ariennir trwy’r Loteri Genedlaethol oll yn chwarae eu rhan, boed os yw hynny’n newidiadau bychain, megis cyflwyno biniau ailgylchu cymunedol, hyd at brosiectau amgylcheddol ar raddfa fawr sy’n adfer mawndiroedd gwerthfawr. Ar draws y wlad, rydym yn gweithio gyda’n gilydd gyda’r achosion da a gefnogwn i arwain, ysbrydoli a chodi ymwybyddiaeth am sut a pham fod angen i ni newid ein hymddygiadau er mwyn diogelu dyfodol ein planed.” 

Os oes gennych syniad gwych a all wneud gwahaniaeth positif i’r amgylchedd yn eich cymuned, beth am edrych ar yr arian sydd ar gael oddi wrth y Loteri Genedlaethol. Edrychwch ar ‘Ganfyddwr Arian y Loteri Genedlaethol’ am ragor o wybodaeth www.lotterygoodcauses.org.uk/funding