DYDD IAU 25 EBRILL A DYDD GWENER 26 EBRILL 2024
Bydd y drydedd Fforwm Symudedd Diwylliannol yn cael ei threfnu gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, un o aelodau On the Move, yng Nghaernarfon ac yn cael ei ffrydio’n fyw gan HowlRound.
Mae’r Fforwm yn cael ei chyd-ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o raglen aml-flwyddyn On the Move.
Mae’r Fforwm yn cael nawdd pellach gan y British Council i groesawu cynrychiolwyr o blith gweithwyr diwylliannol proffesiynol Wcráin.
Pam Fforwm Symudedd Diwylliannol?
Fel rhan o’i raglen aml-flwyddyn sy’n cael ei chyd-ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, bob blwyddyn bydd On the Move yn trefnu Fforwm Symudedd Diwylliannol er mwyn edrych ar y cyd ar y tueddiadau rhyngwladol mewn symudedd artistig a diwylliannol. A hwnnw’n blatfform gwybodaeth unigryw, mae’r rhwydwaith yn gweithio gyda’i aelodau a phartneriaid i drefnu trafodaethau panel thematig ac i roi cyd-destun i faterion sy’n ymwneud â symudedd byd-eang a materion sy’n cael sylw ym Mlwyddlyfr Symudedd Diwylliannol blynyddol On the Move.
Ffocws 2024: Symudedd diwylliannol y tu hwnt i ryngwladoli
Nod Fforwm Symudedd Diwylliannol 2024 yw dychmygu gorwelion newydd ar gyfer rhaglenni datblygu proffesiynol sydd â dimensiwn rhyngwladol.
Wrth sôn am ‘raglenni datblygu proffesiynol’, rydyn ni’n golygu amryw o weithgareddau fel cyrsiau hyfforddiant i unigolion neu grwpiau, dosbarthiadau meistr, sesiynau hyfforddi a mentora, neu gyfleoedd i ddilyn prentisiaethau creadigol. Bydd y rheini’n galluogi artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol i wella’u hymarfer a buddsoddi mewn sgiliau a fydd yn eu helpu i greu llwybr proffesiynol cynaliadwy iddyn nhw’u hunain.
Mae’r Fforwm Symudedd Diwylliannol yn gysylltiedig â gwaith dadansoddi data a’r erthyglau a geir ym Mlwyddlyfr Symudedd Diwylliannol 2024.
Y rhaglen
Amseroedd Prydain yw’r holl amseroedd a ddangosir. Ewch i weld eich parth amser cyfatebol chi gan ddefnyddio’r troswr parthau amser hwn.
Y lleoliad dros y ddau ddiwrnod: Theatr, Galeri Caernarfon, Doc Fictoria, Caernarfon / Ar-lein
DYDD IAU 25 EBRILL 2024
14:30–18:00 |
Fforwm Symudedd Diwylliannol (rhan I) |
14:30–15:00 |
Gair o groeso a chyflwyniad Gyda Maggie Russell, Cadeirydd | Cyngor Celfyddydau Cymru (Y Deyrnas Unedig) |
15:00–16:15 |
Trafodaeth banel: ‘Datblygu proffesiynol rhyngwladol: mannau gadael, mannau cyrraedd’ Llywydd: Milica Ilić, ymgynghorydd rhyngwladol | llawrydd (Gwlad Belg) Panelwyr: Ouafa Belgacem, Prif Weithredwr | Culture Funding Watch (Tunisia) Tamar Janashia, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr | Culture and Management Lab (Georgia) |
16:45–18:00 |
Trafodaeth banel: ‘Rhoi gwerth ar gydweithio diwylliannol rhyngwladol’ Llywydd: Anna Galas-Kosil, Rheolwr Prosiectau Artistig ac Ymchwil a Churadur | Arsyllfa Diwylliant Warsaw (Gwlad Pwyl) Panelwyr: Laura Ganza, Rheolwr Rhaglenni | Africalia (Gwlad Belg) Sarah Philp, Dirprwy Gyfarwyddwr | Delfina Foundation (Prydain Fawr) |
18:00–18:15 |
Pethau difyr o’r diwrnod Adroddwr: Yohann Floch, Cyfarwyddwr Gweithrediadau | On the Move |
DYDD GWENER 26 EBRILL 2024
9:30–9:45 |
Gair o groeso a chyflwyniad |
9:45–11:00 |
Trafodaeth banel: ‘Rhyngwladoli o’r cyrion’ Llywydd: Katelijn Verstraete, Ymgynghorydd Diwylliannol | ReflAction Works (Singapore) Panelwyr: Marwane Fachane, Rheolwr-Gyfarwyddwr | Hiba Foundation (Morocco) Kim-Marie Spence, Darlithydd, Rheoli Celfyddydol a Pholisi Diwylliannol | Prifysgol Queen’s Belfast (Y Deyrnas Unedig) |
11:30–12:45 |
Trafodaeth banel: ‘Cydweithio yn rhyngwladol yn y dyfodol: sgiliau’r dyfodol a safonau’r dyfodol’ Llywyddion: Giuliana Ciancio a Carlotta Garlanda, Rheolwyr Prosiect | Liv.in.g (Yr Eidal) Panelwyr: Nike Jonah, Cyfarwyddwr Gweithredol | Pan-African Creative Exchange (Prydain Fawr-De Affrica) Vânia Rodrigues, Prif Ymchwilydd | GREENARTS ac Athro Cynorthwyol Gwadd | Cyfadran y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Coimbra (Portiwgal) |
12:45–13:00 |
Pethau difyr a safbwyntiau o’r diwrnod Adroddwr: Yohann Floch, Cyfarwyddwr Gweithrediadau | On the Move |
Y rhaglen lawn a chofrestru
- Y rhaglen
- Gwybodaeth am y paneli ac adnoddau
- Cofrestru i gymryd rhan ar-lein.
- Gwybodaeth am y llefydd ar y safle ei hun (yng Nghaernarfon). Mae’r llefydd yn y Fforwm yn llawn ar y safle ei hun! Gallwch gofrestru fan hyn i glywed am unrhyw seddi a ddaw’n wag. Gallwch dal gofrestru i gymryd rhan yn y Fforwm ar-lein.
Rhagor o wybodaeth a fideos o Fforwm Symudedd Diwylliannol 2022 yn Helsinki (symudedd diwylliannol digidol) a Fforwm Symudedd Diwylliannol 2023 yn Tunis (cynaliadwyedd amgylcheddol a symudedd diwylliannol)