Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal digwyddiad sy’n edrych i ddyfodol perfformiad ym menter Gŵyl Ymylol Caeredin, Fringe Connect, eleni.

Bydd y drafodaeth yn edrych ar sut all fodel hybrid o berfformiadau digidol a byw ein cefnogi ni wrth greu profiad sector sy'n ymateb i'r heriau lleol a byd-eang brys ac yn ein cadw'n gysylltiedig. Byddwn yn archwilio dysgu hanfodol a gafwyd drwy gydol y 18 mis diwethaf a sut y gallai hwn helpu'r sector i fynd i'r afael â'i gyfrifoldebau ynghylch yr hinsawdd, yn enwedig wrth ystyried teithio, meithrin llesiant creadigol a sicrhau cynhwysiant wrth ddatblygu cynaliadwyedd ariannol.

Manylion y digwyddiad:

Dydd Iau 26 Awst 2021 11am – 12:30pm

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, ewch i Fringe Connect a chofrestru ar y platfform i gael mynediad i'r rhestr llawn o ddigwyddiadau. Byddwch yn gallu dod o hyd i’r digwyddiad trwy ddewis y dyddiad neu chwilio ‘Is the future hybrid?’. Cofrestrwch ar dudalen y digwyddiad yno.

Trafodaeth panel gyda sesiwn holi ac ateb bydd y digwyddiad hwn.

Dyma’r siaradwyr:

  • Ben Pettitt-Wade – Cyfarwyddwr Artistig, cwmni theatr cynhwysol Hijinx
  • Jonny Cotsen - Dramatwrg Mynediad Creadigol / Ymgynghorydd a pherfformiwr
  • Tundé Adefioye - Hyfforddwr, Dramatwrg, Ysgrifydd a Darlithydd yn St Lucas College of Art, Antwerp
  • Lyn Gardner - Beirniad theatr, awdur ac awdur plant
  • Takumã Kuikuro - Gwneuthurwr ffilmiau yw Takumã, sy’n aelod o bobl Kuikuro ac fe'i magwyd ym mhentref Ipatse yn Nhiriogaeth Gynhenid ​​Alto Xingú yn nhalaith Mato Grosso, canol Brasil
  • Andrew Barnett OBE – Cyfarwyddwr cangen y DU, Calouste Gulbenkian Foundation
  • James Mackenzie – Cyfarwyddwr Artistig ZOO
  • Lisa Jên Brown – Actor, cantores, ysgrifenwraig a cherddor

Wedi ei gadeirio gan Catherine Paskell, Cyfarwyddwr Artistig Dirty Protest, a Chydweithiwr Celfyddydol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Jonathan Holt a Leale Crook bydd yn darparu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain.
Hilary Maclean a Mirella Fox bydd yn darparu sgrindeitlo byw.

Mae yna amrywiaeth o weithgaredd o Gymru yn ystod GŵylYmylol Caeredin eleni, gan gynnwys perfformiadau ar-lein ac yn fyw yng Nghaeredin.

Mae rhain yn cynnwys:

Dirty Protest Theatre - Double Drop
9-13 Awst
MultiStory - Main Stage

Tocynnau

Kill Me Now
17-21 Awst
Summerhall Online – Zoom

Tocynnau

Hijinx – Metamorphosis
21-29 Awst
Summerhall Online – Zoom

Tocynnau

Deaf and Fabulous & Taking Flight Theatre FOW
Drwy’r mis
Summerhall Online – On Demand

Tocynnau

National Theatre Wales – Possible by Shôn Dale-Jones
Drwy’r mis
Pleasance Online – Pleasance On Demand

Tocynnau

Avant Cymru – Hydro Jam Digital
Drwy’r mis
C Arts Online – On Demand

Tocynnau

National Dance Company Wales – Moving is everywhere, forever
18-29 Awst

ZOO TV
National Dance Company Wales - Why Are People Clapping!?
18-29 Awst

ZOO TV

Cynhaliodd Arts Infopoint UK drafodaeth hefyd ar 11 Awst, Ymlaen â'r Daith (Ewropeaidd)! Beth sydd angen i chi wybod wrth deithio ar draws Ewrop, yn edrych ar yr hyn sydd wedi newid ers i'r DU adael yr UE, a sut y gall gweithwyr proffesiynol y DU baratoi ar gyfer teithio yn Ewrop yn y dyfodol.

Mae Arts Infopoint UK yn fenter beilot i gefnogi sector y celfyddydau gyda gwybodaeth am faterion ymarferol sy'n ymwneud â symudedd artistiaid. Mae'n bartneriaeth rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Creative Scotland, Arts Council England ac Arts Council Northern Ireland.