Mae saith sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol sydd wedi'u dewis i weithio mewn partneriaeth â'r saith amgueddfa genedlaethol i gyflwyno rhaglen o newid a fydd yn parhau am ddwy flynedd i greu sector y celfyddydau gweledol a threftadaeth sy'n decach, yn fwy cyfartal ac yn fwy cynrychioliadol.
Mae'r saith sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol nawr yn awyddus i gomisiynu gweithwyr proffesiynol creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol i weithio gyda nhw a'u hamgueddfeydd partner.
Bydd y gwaith yn golygu gweithio gydag un bartneriaeth gydag amgueddfa a sefydliad ym maes y celfyddydau gweledol i gwestiynu a herio'r ffyrdd cyfredol o feddwl yn y sefydliadau, gan ymgysylltu â chymunedau i ddarganfod safbwyntiau a straeon newydd ac archwilio sector y celfyddydau gweledol a threftadaeth drwy sbectol wrth-hiliol a dad-drefedigaethol. Bydd partneriaeth a chyd-greu wrth wraidd y prosiect. Bydd cyfle i greu arddangosfeydd, arddangosiadau a phrofiadau newydd a fydd yn ysgogi ac yn herio'r cyhoedd.
Dros y ddwy flynedd, bydd y saith gweithiwr creadigol proffesiynol yn gweithio gyda'r amgueddfeydd a'r sefydliadau ym maes y celfyddydau gweledol i adrodd straeon sydd heb eu hadrodd o’r blaen, creu ymatebion artistig a gweithredu fel asiantau er newid. Gallai gweithwyr proffesiynol creadigol gynnwys artistiaid, gwneuthurwyr, curaduron, awduron neu ymarferwyr eraill sy'n gweithio yn y celfyddydau gweledol.
Mae Cyngor y Celfyddydau ac Amgueddfa Cymru yn cydnabod bod llais unigolion a chymunedau diwylliannol ac ethnig amrywiol wedi cael eu gwthio i'r cyrion yn ein horielau a’n hamgueddfeydd cenedlaethol. Credwn y dylai diwylliant yng Nghymru adlewyrchu bywyd ei holl ddinasyddion. Mae’r fenter yn rhan o broses ehangach o newid, gan weithio ar y cyd â chymunedau i sicrhau tegwch yn ein gwaith.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o Safbwynt(iau) fel un o'n gweithwyr proffesiynol creadigol, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i un o'r sefydliadau celfyddydol unigol drwy glicio isod. Bydd ceisiadau'n agor ar 18 Mai 2023 ac yn cau ddydd Sul 18 Mehefin 2023.
Mae canllawiau Safbwyntiau(iau) ar gael yma.
Mae Safbwynt(iau) yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i gyflawni nodau diwylliannol a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Maent hefyd yn cael eu cefnogi gan arian loteri Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Paul Hamlyn.
Y saith sefydliad yw:
Artes Mundi, Caerdydd. Gweithio gydag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion.
Canolfan Gelfyddydol Chapter, Caerdydd. Gweithio gydag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Gweithio gydag Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.
Galerie Simpson, Abertawe. Gweithio gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. *Dolen i ddilyn*
Canolfan Gelfyddydol Llantarnam Grange, Cwmbrân. Gweithio gyda Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon.
Oriel Myrddin, Caerfyrddin. Gweithio gydag Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre.
Ffyrdd o weithio/Ways of Working, Abertawe. Gweithio gydag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd.