Heddiw, 17 Ionawr 2025, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, a Chyngor Prydeinig Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn lansio Cronfa Ddiwylliannol Cymru-Siapan i dalu am weithgarwch celfyddydol rhwng y ddwy wlad yn 2025.

Mae'n rhan o'r ymgyrch flwyddyn a lansiwyd yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd wythnos ddiwethaf i ysgogi partneriaethau economaidd a diwylliannol newydd rhwng y ddwy wlad gan ddod â manteision tymor hir i'r ddwy wlad.

Mae ar agor i unigolion a sefydliadau sy'n gweithio yn y celfyddydau yng Nghymru. Mae cronfa gwerth £150,000 ar gael i:

  • ymestyn ac ehangu partneriaethau a chydweithio celfyddydol presennol rhwng Cymru a Siapan
  • datblygu cysylltiadau a chydweithio artistig a diwylliannol newydd a fydd yn meithrin cysylltiadau cynaliadwy hirdymor rhwng artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr diwylliannol

Mae'r gronfa’n dod yn sgil llwyddiant cyfleoedd ariannu tebyg i alluogi gweithgarwch celfyddydol ym Mlwyddyn Cymru yn Ffrainc yn 2023/24 a Blwyddyn Cymru yn India 2024/25. 

Byddwch yn gallu ymgeisio am swm rhwng £1,000 a £40,000. Dydd Mercher 5 Mawrth 2025 yw'r dyddiad cau mynegi diddordeb.

Am fanylion llawn a meini prawf bod yn gymwys, ewch i wefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wai.org.uk
 

"Mae'n mynd i fod yn flwyddyn ryfeddol o ddathlu’r cysylltiadau presennol a chreu cyfleoedd newydd rhwng Cymru a Siapan. O ganeuon Gwlad y Gân i rythmau siamisen Siapan, mae'r ddwy wlad yn parchu’r celfyddydau. Mae'r alwad yn gyfle euraidd i berfformwyr ac artistiaid gyda phartner yn Siapan gynnig syniadau i’w cyflwyno yn Siapan, yng Nghymru neu'n ddigidol rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025."   

Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

"Mae Japan yn wlad hynod unigryw sy'n llawn traddodiad ac arloesedd ac rydym yn falch iawn o greu'r Gronfa Ddiwylliant Cymru-Siapan hon ar gyfer artistiaid o Gymru i gysylltu â chymheiriaid o Siapan a gweithio ar gydweithredu beiddgar newydd. Mae Cymru a Siapan yn cael eu huno gan eu creadigrwydd a'u treftadaeth ddiwylliannol, a bydd y gronfa hon yn grymuso artistiaid i wthio ffiniau, arbrofi gyda syniadau newydd ac adeiladu partneriaethau a deialog ystyrlon. Mae rhai cysylltiadau hardd eisoes rhwng ein dwy wlad a fedrwn ni ddim disgwyl i weld y prosiectau cyffrous sy'n dod i'r amlwg a'r effaith barhaol y byddant yn eu cael yng Nghymru, Siapan a thu hwnt." 

Ruth Cocks, Cyfarwyddwr, British Council Cymru