Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi 'galwad olaf' i fudiadau celfyddydol wneud cais i fod yn rhan o Gŵyl Cymru Festival fydd yn dathlu Cymru yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA - y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Hydref.

Mewn partneriaeth na welwyd ei thebyg o'r blaen rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, bydd yr ŵyl yn galluogi prosiectau celfyddydol cymunedol yng Nghymru.  Eisoes mae yn agos at 100 o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yng Nghymru, ac yn fwy byd-eang, ond mae tîm Gŵyl Cymru'n chwilio am fwy fyth o brosiectau.

Mae Nick Davies, gweithiwr proffesiynol profiadol yn y celfyddydau ac aelod balch o'r Wal Goch, wedi'i benodi yn rôl Cynhyrchydd Celf Gŵyl Cymru. Mae Nick eisoes wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyflawni Gŵyl Cymru festival, gŵyl gelfyddydol a diwylliant 10 diwrnod o hyd mewn lleoliadau o amgylch y genedl sy'n dechrau ar 19 Tachwedd.

Wrth sôn heddiw dywedodd Nick Davies:

"Mae Cwpan y Byd yn foment bwysig i Cymru - ar y cae, ac yn ddiwylliannol. Dyma ein cyfle i'r celfyddydau weithio ochr yn ochr â'n cymunedau, i adlewyrchu ysbryd Y Wal Goch a chefnogi ein pêl-droedwyr drwy fod yn greadigol. Rydym eisoes yn cynllunio digwyddiadau anhygoel ac rydyn ni'n gwahodd eraill i fod yn rhan o Gŵyl Cymru.  Cyflwynwch eich cais i ni erbyn 19 Hydref i fod yn rhan o'r dathliad."

Bydd pwyslais y gefnogaeth hon ar ehangu cyfranogiad, ac i gefnogi prosiectau a gweithgareddau ar lawr gwlad sy'n dod â'r celfyddydau a chwaraeon yn nes at ei gilydd.

DIWEDD         13 Hydref 2022

 

Gall sefydliadau gofrestru i fod yn rhan o  Gŵyl Cymru festival yma - https://gwyl.cymru/cy/