Dyddiad cau: 03/12/2021

 

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, am gomisiynu ymchwil a datblygu fframwaith gwerthuso i fesur effaith ei waith o dan nodau Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a model rhesymeg i lywio penderfyniadau ar ei raglenni a'i fuddsoddiadau yn y dyfodol.

 

Y cyd-destun

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddarn arloesol o ddeddfwriaeth. Ei nod yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy gymryd camau gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae gan y 44 corff cyhoeddus yng Nghymru – gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru – ddyletswydd statudol i gychwyn ar y daith hon er mwyn newid pethau, ac i wreiddio datblygu cynaliadwy yn eu holl sefydliadau. Rydyn ni’n falch o gefnogi dull arloesol Cymru ym maes datblygu cynaliadwy drwy roi diwylliant yn ganolog i hynny, fel pedwaredd golofn ynghyd â chynaliadwyedd amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

Fel yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru, mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i asiantaeth ryngwladol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gyfraniad sylfaenol a sylweddol i’w wneud wrth wireddu’r saith nod llesiant.

Mae Strategaeth Ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhoi sail i waith Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ei dro yn gweithio ar sail ei Gynllun Corfforaethol, ‘Er Budd Pawb'. Mae’r ddwy strategaeth yn cyflwyno ein blaenoriaethau strategol a fydd yn cyfrannu at gyflawni nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru hefyd yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ystod o raglenni i helpu i gyflawni Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru.  

 

Y Briff

Gyda Covid-19, Brexit, mudiadau Mae Bywydau Du o Bwys a Ni Chawn Ein Dileu, a’r Argyfwng Hinsawdd yn gefndir, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sef asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, yn rhoi cyfeiriad newydd i’n gwaith rhyngwladol. Mae hyn yn gysylltiedig â gwaith a thrafodaethau sy’n mynd rhagddyn nhw i ailosod y llwyfan yng Nghyngor Celfyddydau Cymru ac yn y sector diwylliannol yn rhyngwladol. Mae’n bwysicach nag erioed inni allu dangos sut y mae ein buddsoddiad cyhoeddus, ein partneriaethau, ein gwaith partneriaeth a’r ôl-troed carbon sy’n cael ei greu gan ein gweithgareddau’n arwain at ganlyniadau gwerthfawr i ddinasyddion Cymru a’r byd. Mae angen inni allu mesur effaith y canlyniadau hyn o dan yr agenda lesiant a mesur ein cyfraniad tuag at greu economi a diwylliant sydd wedi’u seilio ar lesiant.


Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn dymuno comisiynu gwaith ymchwil i ddatblygu’r canlynol:

  • fframwaith gwerthuso ymarferol i fesur effaith a buddsoddi rhaglenni Celfyddydau Rhyngwladol Cymru o dan nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys pennu llinell sylfaen DPA (Dangosyddion Perfformiad Allweddol)
  • model rhesymeg i dywys prosesau penderfynu Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wrth inni gamu ymlaen, gan gynnwys gwaith gyda'r tîm i sicrhau bod y model yn bwrw gwreiddiau fel dull o weithio
  • fframwaith i'n helpu ni i ddatblygu opsiynau ar gyfer dull ymchwil mwy hirdymor ar raddfa fwy. Dull y gellid ei ddefnyddio a'i addasu hefyd ar gyfer meysydd gweithgarwch eraill, gan gynnwys o bosibl i fesur a gwerthuso effaith gweithgarwch diwylliannol rhyngwladol yng Nghymru o dan nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

 

Meini Prawf  

Bydd ceisiadau llwyddiannus yn rhoi tystiolaeth ymarferol o'r canlynol:

  • Methodoleg effeithiol
  • Profiad o ddatblygu fframweithiau a modelau tebyg ac fe allai hynny gynnwys datblygu a phrofi methodolegau a dulliau amgen
  • Deall blaenoriaethau Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r hyn rydyn ni'n ceisio'i gyflawni
  • Deall y cyd-destun cyfredol a'r sgyrsiau sydd ar y gweill o fewn sector y celfyddydau gyda golwg ar lesiant, democratiaeth ddiwylliannol, cyfrifoldeb am yr hinsawdd, y Gymraeg a chydraddoldebau
  • Deall Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Nodau Byd-eang y Cenhedloedd Unedig (Nodau Datblygu Cynaliadwy)
  • Gallu dechrau ar y gwaith yn gyflym
  • Hanes o lwyddo wrth gyflwyno gwaith mewn pryd ac o fewn y gyllideb
  • Gwerth am arian

 

Cyllideb

Gall Celfyddydau Rhyngwladol Cymru gynnig mwyafswm o £20,000 (gan gynnwys TAW) i gefnogi'r gwaith hwn.

Rhoddir contract cyfnod penodedig ar gyfer y gwaith hwn rhwng Ionawr a Mehefin 2022. Dylai'r gyllideb y byddwch chi'n ei gynnig gynnwys TAW (lle bo hynny'n briodol) yn ogystal â chostau teithio a threuliau eraill a fydd yn codi'n uniongyrchol yn sgil y prosiect hwn.

 

Dyddiad Cau

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am eglurhad yw canol dydd, 3 Mehefin 2021 trwy borth GwerthwchiGymru.

 

Mae'r Gwahoddiad i Dendro hwn wedi'i gyhoeddi gan Cyngor Celfyddydau Cymru.