Efallai y bydd y canllawiau, a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU ar ei gwefan, yn ddefnyddiol i artistiaid a sefydliadau os a phan fyddan nhw’n ystyried teithio yn Ewrop drachefn.
Mae’n debygol y bydd costau ychwanegol a materion gweinyddol i’w hystyried nawr fod y DU wedi gadael yr UE. Byddem yn eich cynghori’n gryf i ymchwilio i weld pa ddogfennau y bydd eu hangen arnoch chi deithio, a sicrhau bod y rhain gennych chi. Os bydd angen, cofiwch ofyn am gyngor cyfreithiol a phroffesiynol perthnasol cyn teithio.
Fel man cychwyn, mae dolen isod i’r tudalennau glanio sydd wedi’u lansio’n ddiweddar ar wefan gov.uk, a’r rheini’n berthnasol i sectorau penodol. Maen nhw’n rhoi cyngor i’ch helpu i weithio yn Ewrop nawr bod y DU wedi gadael yr UE. Mae’r tudalennau’n benodol i wahanol sectorau, fel y gwelwch. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a bydd rhagor o dudalennau’n cael eu hychwanegu maes o law.
Teithio Ewrop – rhestrau gwirio i’r sectorau celfyddydol, diwylliannol, creadigol a threftadaeth