Ymunwch â Gwybodfan Celf y DU a MobiCulture mewn gweminar ar-lein yn rhad ac am ddim i ddysgu am symudedd dros dro artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol o’r DU i Ffrainc. Bydd symudedd byrdymor (llai na 3 mis) a symudedd hirdymor yn cael eu trafod.
Gweminar yw hon ar gyfer sefydliadau, cwmnïau celfyddydol a gweithwyr creadigol proffesiynol o’r sector yn y DU. Y nod yw rhoi trosolwg o’r pethau sydd wedi newid ers i’r DU adael yr UE a dangos sut y gall gweithwyr proffesiynol baratoi i weithio dros y ffin yn Ffrainc o hyn allan. Os yw gweithwyr proffesiynol o Ffrainc yn awyddus i wahodd artistiaid o’r DU i’r wlad, mae croeso iddynt hwythau ymuno â’r sesiwn.
Bydd y weminar yn canolbwyntio ar symudedd pobl: artistiaid unigol, cwmnïau, technegwyr a gweithwyr diwylliannol proffesiynol eraill sy’n mynd i Ffrainc i weithio. Bydd y pynciau canlynol yn cael sylw: fisas a thrwyddedau preswylio; rheoliadau a thrwyddedau gwaith (gan gynnwys elfennau pwysig o gyfraith llafur Ffrainc); cyfraniadau nawdd cymdeithasol a threth.
Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan Anaïs Lukacs o MobiCulture. ac yn cael ei hwyluso gan Marie Fol, Llywydd bwrdd On the Move.
Sylwch mai yn Saesneg y bydd y weminar hon.
Mae Gwybodfan Celf y DU yn bartneriaeth rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, Arts Council England ac Arts Council Northern Ireland.
Cofrestrwch yma:
Digwyddiadau yn dod lan i’r dyddiadur - manylion cofrestru yn dod yn fuan!
12/05 Symudedd Artistiaid o’r DU i’r UE - sylw i’r Almaen
27/05 Symudedd Artistiaid o’r DU i’r UE - sylw i'r Wlad Belg / Yr Iseldiroedd