Ar Ddydd Sadwrn y 23ain o Ebrill, bydd Gŵyl Chwoant yn cael ei chynnal er mwyn pontio ddau fyd. Byddant yn croesawu unigolion gweithgar o Lydaw i gynnal paneli trafod a gweithdai gyda phobl ifainc cyfatebol o Gymru. Ymgyrchu iaith, podlediadau, y byd ffilm a cherddoriaeth gyfoes fydd ymysg rhai o’r pynciau a fydd yn cael eu trafod trwy gydol y dydd. Dyma gyfle hollol unigryw fydd yn torri tir newydd gyda’r gobaith o gael mwy o gydweithio yn y dyfodol.

O ystyried nad ydy Cymru a Llydaw yn rhy bell o'i gilydd yn nhermau daearyddol ac ieithyddol mae’n synnu ein bod yn gwybod cyn lleied am ein gilydd - bydd Gŵyl Chwoant yn ffordd arbennig o lenwi’r bylchau hyn ac i naill ochr y Môr Udd gyfoethogi’r llall gan rannu, dysgu ac ysbrydoli trwy ein profiadau. Mae dysgu am y cyd-destun ieithyddol tebyg a’r frwydr i greu, i fyw ac i ymgyrchu trwy gyfrwng yr ieithoedd hyn yn brofiad gwbl amhrisiadwy.

Dywedodd Felix Parker-Price, un o drefnwyr yr ŵyl “Hen bryd i bobl ifainc yr ieithoedd hyn ddod at eu gilydd i gael dweud eu dweud ac i fagu’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad hon!”

Ychwanegodd Marine Lavigne sy’n un o gantorion grŵp Ahez sy’n canu’n y Lydaweg ac hefyd am fod yn cynrychioli Ffrainc yng nghystadleuaeth Eurovision eleni, “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr cael dod i Gymru er mwyn cymryd rhan yng Ngŵyl Chwoant er mwyn dysgu a rhannu gyda’r Cymry. ‘Da ni’n edrych ymlaen yn fawr cael perfformio fest-noz yn fyw hefyd yn y prynhawn.”

Bydd y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim.

Mae croeso i bawb gyda gig cerddoriaeth byw ar ddiwedd y dydd. Cynhelir Gŵyl Chwoant yng Nghanolfan yr Urdd, Caerdydd ar 23 Ebrill rhwng 10:00-19:00 BST.

 

Mae’r cyfnewid hwn wedi'i gefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cymdeithas yr Iaith a Chymdeithas Cymru-Llydaw.

Siaradwyr a sesiynau:
 

10:30-11:30 Sesiynau blasu iaith

Azenor Kallag

Felix Parker-Price

 

 

11:30-12:30 Ymgyrchu iaith yn y Gymraeg a’r Llydaweg

Talwyn Baudu

Mae Talwyn Baudu yn hanner Llydawr a hanner Cernyweg ac yn gynorthwyydd cynhyrchu i’r we-teledu Llydaweg Brezhoweb. Yn ddiweddar fe gyflwynodd Talwyn ei ymchwil PhD a oedd yn edrych ar rôl addysg ffurfiol mewn siapio ymgyrchu iaith ymysg disgyblion yn Llydaw a Chorsica. Mae'n aelod o fudiad ymgyrchu Ai’ta a llawer o sefydliadau arall Llydewig.

 

Mabli Siriol

Etholwyd Mabli yn Gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith yn 2020 ac mae hi wedi bod yn ymgyrchu gyda’r mudiad ers dros degawd. Fuodd Mabli yn ymgyrchu ar amrywiaeth eang o feysydd - o faes addysg, hawliau cyfreithiol, hawliau yn y byd digidol, materion ynghylch creu cymunedau Cymraeg cynaliadwy. Mae hi hefyd wedi bod yn rhan ganolog o wireddu digwyddiadau hwyliog a chelfyddydol y mae’r Gymdeithas yn ei chynnal o benwythnosau i ddysgwyr, ocsiynau celf, nosweithiau comedi i gigs cerddoriaeth byw.

 

13:00-14:00 Comedi annibynnol creadigol

Lors Jereg

Mae Lors Jereg yn ddigrifwr sy'n adnabyddus yn bennaf am wneud fideos comedi yn yr iaith Lydaweg ar-lein. Mae’n mwynhau gwneud fideos neu ganeuon byr, doniol yn Llydaweg ac efelychu neu wneud parodïau o artistiaid ac enwogion Llydaweg enwog. Gellid ystyried Lors yn arloeswr ym myd comedi Lydaweg ar-lein ac mae’n hollbwysig o ran darparu hiwmor Llydaweg ar gyfryngau cymdeithasol, gan lenwi gofod a esgeuluswyd yn flaenorol yn y mudiad adfywio iaith. Dechreuodd Lors wneud sgetsys comedi ar y radio ond sefydlodd ei sianel YouTube gan ei fod yn credu bod hyn yn angenrheidiol i gyrraedd cymuned iau yn siarad Llydaweg nad ydynt o reidrwydd yn gwrando ar y radio.

 

Mel C Owen

 

14:00-15:00 Darlledu mewn iaith leiafrifoledig: dulliau amgen o fynegi creadigol

Enora Molac - Radio Annibynnol Bro Gwened 

Yn gyflwynydd radio proffesiynol, mae Enora ar hyn o bryd yn cyflwyno ar raglen radio foreol fyw (Radio Bro Gwened), yn Llydaweg. Mae Enora yn ymdrin â phynciau gan gynnwys siarad am wleidyddiaeth, iechyd, ecoleg, ffeministiaeth a llawer mwy, gyda golwg bob amser yn ei wneud yn ddiddorol i wrandawyr Llydaweg a materion cyfoes yn Llydaw.

 

Tudi Crequer - Podlediad ‘Klozet’

Yn newyddiadurwr radio, mae Tudi wedi gweithio ar orsafoedd radio cyhoeddus a hefyd yn creu ei bodlediad 'Klozet' gyda Metig Jakez-Vargas. Fe wnaethant lansio’r podlediad ym mis Mawrth 2020 pan ddechreuodd y cyfnod clo cyntaf yn Ffrainc pan oedd y ddau yn gyd-letywyr a phenderfynwyd creu podlediad am eu bywyd dan glo. Gwnaeth Tudi a Metig tua 40 o benodau, gan wahodd ffrindiau ac eraill i gymryd rhan dros y ffôn yn y podlediad.

 

Juliette Cabaço Roger & Gwenael Delanoe – Splann

Juliette Cabaço Roger a Gwenvaël Delanoë, newyddiadurwyr a sylfaenwyr 'Splann!' - newyddiaduraeth ymchwilio yn Llydaweg. Mae Juliette wedi gweithio i bapurau newydd, ac i deledu gwe Llydaweg, Brezhoweb, ble cynhyrchodd hi'r sioe Tudo Breizh. Treuliodd Juliette amser yn yr Amazon i ysgifennu am y sefyllfa negyddol y mae'r sustem addysg imperialaidd yn Giwana Ffrengeg yn cael effaith negyddol ar boblogaethau brodorol yno. Mae Gwenvaël Delanoë wedi gweithio ar lawer o sianeli radio lleol fel Arvorig FM, RBG neu RKB ac mae'n gweithio ar faterion amgylcheddol ac ar yr holl bynciau sy'n ymwneud â phobl leiafrifoledig.

 

Mari Elen - Podlediad Gwrachod Heddiw

Sefydlodd Mari Elen bodlediad Gwrachod heddiw nol yn 2020 gan drafod hefo rhai o ferched mwyaf di-flewyn-ar-dafod Cymru. Nod y podlediad yw dathlu merched Cymru, trwy geisio canfod pa nodweddion mae nhw’n ei rannu hefo gwrachod confensiynol.

 

Nick Yeo - Podlediad Sgwrsio

Wedi iddo fod yn ddysgwr ei hun, penderfynodd Nick i dechrau podlediad dysgwyr Cymraeg (Sgwrsio) i ddangos taith dysgwyr gyda'u Cymraeg. Mae wedi darganfod dysgwyr led led y byd, o unol daleithiau America i'r Ariannin a Rwsia. Pwrpas y podlediad yw i ddangos nad oes rhaid i chi fod yn rhugl neu'n berffaith er mwyn defnyddio'ch Cymraeg.

 

 

15:00-16:00 Rhoi llwyfan i’n celfyddydau: Gwyliau cerddorol a mentrau iaith

Azenor Kallag – Gouel Broadel ar Brezhoneg (GBB)

Gouel Broadel ar Brezhoneg (GBB) - yw'r gŵyl genedlaethol yr iaith Lydaweg ac yn ddigwyddiad arwyddocaol i’r byd Llydaweg. Mae Azenor yn aelod gweithgar o bwyllgor trefnu’r ŵyl. Mae’r GBB cyntaf yn dyddio’n ôl i 1974 pan ddaeth tri sefydliad anllywodraethol a oedd yn ymwneud â chaffael yr iaith Lydaweg ynghyd i drefnu’r ŵyl Llydaweg gyntaf erioed yn Guingamp. Mae GBB yn ŵyl unigryw a hanfodol sydd wedi caniatáu i’r hen a’r ifanc siarad Llydaweg yn ddi-rwystr mewn awyrgylch hwyliog tra’n sicrhau bod un o fentrau pwysicaf y symudiad Llydaweg y 1970au a’r 80au yn cael ei barhau.

 

Caryl McQuilling - Tafwyl

Yn newydd i'r rôl, Caryl yw Prif Swyddog Tafwyl ac mae ganddi syniadau cyffrous i ddatblygu'r ŵyl! Gŵyl flynyddol i ddathlu’r iaith, celfyddydau a diwylliant Cymreig yw Tafwyl.  Fe’i sefydlwyd yn 2006 fel rhan o waith craidd Menter Caerdydd, elusen sy’n hyrwyddo ac ehangu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yng Nghaerdydd.

 

16:00-17:00 Y byd ffilm

Klet Beyer

Mae Klet wedi cael dros 20 mlynedd o brofiad yn y byd ffilm Llydaweg - o dybio i actio mewn ffiliau, rhaglenni teledu a rhaglenni dogfen ar deledu lleol a chenedlaethol. Mae'n aelod o sawl grŵp cynhyrchu ffilmiau byrion creadigol annibynol ac yn actio ynddynt hefyd. Rhai prosiectau mae wedi bod ynghlwm yn eu gwireddu yw Morzhol Prod, Tuning life, Krogit, Flandur ac Ar C’hoef.

 

Hedydd Tomos

Dechreuodd Hedydd wneud ffilmiau byr pan oedd tua 9 - ddegawd ymlaen, mae Hedydd wedi gwneud dros ugain o ffilmiau byr, wedi sefydlu ei gwmni cynhyrchu ei hun, ac wedi cael ei enwi’n ‘seren y dyfodol’ gan wahanol wyliau ffilm ar draws y DU. Yn ogystal â bod yn grëwr cynnwys digidol gyda Frân Wen, mae Hedydd yn parhau i gynhyrchu ffilmiau ac wedi dechrau ymgysylltu â gwahanol ffurfiau celfyddydol megis dylunio, ffasiwn a cherddoriaeth.

 

17:00-18:30 Dawns fest-noz i berfformiad Sterenn Diridollou & Marine Lavigne

Sterenn Diridollou and Marine Lavigne

Dechreuodd Sterenn Diridollou a Marine Lavigne ganu yn ifanc iawn yn “festoù-noz”, y partïon dawns traddodiadol Llydewig. Cyfarfu’r ddau yn ysgol uwchradd Diwan yn Carhaix, yr unig ysgol uwchradd ymdrochol yn yr iaith Lydaweg ar y pryd, gan rannu eu hangerdd yn syth am kan-ha-diskan, y canu traddodiadol ar gyfer dawnsio Canol-Llydaw. Fel aelodau o’r genhedlaeth newydd, maent yn talu sylw i ystyr y caneuon a dechreuodd Marine ysgrifennu straeon amser presennol, gan ystyried yr arddull draddodiadol. 

 

 

DJ Carl Morris