Gyda rhan fwyaf o'r digwyddiadau yn ffrydio ar-lein, mae Gŵyl y Gelli yn cynnal rhaglen llawn llawenydd rhwng 24-28 Tachwedd. 

Mi fydd eu digwyddiad 'Sut all y celfyddydau creadigol ddylanwadu ar newid mewn ymddygiad' ar Ddydd Gwener 26 Tachwedd yn rhan o raglen Wythnos Hinsawdd Cymru. Andy Fryers, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd yr ŵyl bydd yn arwain y sgwrs, gydag Amika George, Owen Sheers, Sinead Walsh, a Sophie Howe yn ymuno. Clywn o'r panel o arbenigwyr wrth iddynt edrych ar y penderfyniadau a ddaeth o COP26, a thrafod rôl creadigrwydd, dyluniad, adrodd straeon, ac arloesi wrth gyfleu'r materion, ac yn y diwedd yn dylanwadu ar newid ymddygiadol. Hefyd ar y 26 Tachwedd bydd digwyddiad 'Hope in hell: A decade to confront the climate emergency' gyda Jonathon Poritt a Hannah Martin.

Mae Gŵyl y Gelli wedi bod yn gweithio ar ddigwyddiadau sy'n berthnasol i'r hinsawdd ers 15 mlynedd, ac yn eiriolwyr ar gyfer archwilio datrysiad creadigol i effaith newid hinsawdd. Yn dilyn ymddangosiad y pandemig Covid-19, lle bu rhaid i'r ŵyl newid i fformat digidol, fe ddaeth i'r amlwg fod y newid yma wedi creu effaith amgylcheddol buddiol, er nad oedd yn hawdd ei wneud. Fodd bynnag, dywed yr ŵyl nad yw digwyddiad digidol yn gwared effaith CO2 yn gyfan gwbl, gan fod ffrydio fideo yn achosi ôl troed carbon uchel. Ar ôl sylweddoli hyn, dechreuodd yr ŵyl mesur effaith eu olion troed carbon digidol. Cafodd nifer o fyfyrwyr Coleg y Celfyddydau Henffordd eu hysbrydoli i greu animeiddiadau yn dilyn hyn, mewn cydweithrediad a Hay on Earth, er mwyn rhannu negeseuon a fydd yn annog eraill i leihau eu holion traed carbon digidol.

Yn gynharach yn 2021, cyrhaeddodd 26 o bobl rhestr fer cystadleuaeth 'Write for Change'. Derbyniwyd Gŵyl y Gelli 412 cais o dros 48 gwlad, a chafodd y ceisiadau eu hychwanegu at 'flodeugerdd gwaith cyhoeddus er mwyn ysbrydoli byd gwell.' Enillydd categori dros 18 oedd Elnaya Mahadevi Pillian o Indonesia ac enillydd categori dan 18 oedd Emmanuel Lafenwa o Nigeria.

 

Hay on Earth x Coleg y Celfyddydau Henffordd
Animeiddiadau