Hibakusha gan Cian Ciarán
6ed o Awst, 12-6pm, Cerrig yr Orsedd, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Munud o dawelwch am am 12pm.
Gosodiad sain myfyriol chwech awr o fewn Cerrig yr Orsedd yn talu teyrnged i'r sawl a fu farw a'i teuluoedd yn Hiroshima 80 mlynedd yn ol.
Gwahoddir chi i dreulio cymaint o amser ag y dymunwch yma i fyfyrio ac ystyried ac i adlewyrchu.
Ymunwch mewn munud o dawelwch am 12:00 i fyfyrio am bawb ar draws y byd sy’n dioddef / wedi dioddef oherwydd rhyfel.