Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Cytundeb cyfnod penodol 12 mis
Gradd B: Cyflog cychwynnol o £27,591
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).
Am y rôl
Mae’r Hwylusydd Camau Creadigol yn chwarae rhan hanfodol wrth gynorthwyo cyflawniad rhaglen gyllid Camau Creadigol, gan weithredu fel dolen allweddol rhwng yr ymgeiswyr, Mentoriaid Camau Creadigol, Rheolwyr Portffolio, Swyddogion Datblygu a Chydlynydd y Tîm. Mae’r swydd hon yn hanfodol wrth sicrhau gweithrediad gweinyddol didrafferth y rhaglen Camau Creadigol, a hwyluso ei ymgyrch i gynyddu amrywiaeth yn sector celfyddydau Cymru.
Nod y gronfa Camau Creadigol yw cynorthwyo artistiaid unigol a sefydliadau sydd wedi wynebu rhwystrau i gyrchu ein cyllid. Nod benodol y gronfa yw gwasanaethu pobl y mwyafrif byd-eang, diwylliannol amrywiol, anabl a niwroamrywiol, a’u cynorthwyo gyda’u datblygiad proffesiynol, busnes a sefydliadol.
Amdanoch chi
Os ydych chi’n rhywun sydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu da, yna hwyrach taw hon yw’r rôl i chi. Bydd gennych sgiliau TG a gweinyddu datblygedig iawn a profiad blaenorol o ddarparu gwasanaethau gweinyddol o safon uchel. Bydd angen i chi gweithio o’ch menter eich hun, blaenoriaethu a chynllunio’ch gwaith eich hun, a bod yn hyblyg ac yn addasadwy i anghenion newidiol y tîm.
Rydyn ni wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi pwysigrwydd profiadau byw o ran o ran: y mwyafrif byd-eang / amrywiaeth diwylliannol / niwroamrywiaeth/ anabledd Byddai hyn felly’n hanfodol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae manylion llawn gofynion y rôl yn y swydd-ddisgrifiad.
Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Amrywiaeth a chynhwysiant
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.
Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 5yh, Dydd Gwener 6 Mehefin 2025
Cyfweliadau: Wythnos 16eg - 20fed Mehefin 2025
Gweithio hyblyg
Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.
Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.