Ar drothwy Gŵyl Ein Llais yn y Byd yn Yr Hen Goleg, Aberystwyth, Tachwedd 28-29 2019, Eluned Hâf – Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru - sy’n trafod lle Cymru a’r Gymraeg ym mlwyddyn ieithoedd brodorol UNESCO.
Mae Strategaeth Ryngwladol ddrafft Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun Brexit wedi sbarduno 'r sector diwylliannol yng Nghymru i adolygu eu strategaethau rhyngwladol. Mae hyn wrth gwrs yn ganlyniad uniongyrchol i greu Gweinidogaeth Cysylltiadau Rhyngwladol ac Iaith Gymraeg o fewn y Llywodraeth. Mae diddordeb rhyngwladol cynyddol i brofiad, gwytnwch a throsglwyddiad yr Iaith Gymraeg, ac hefyd i sut mae’r celfyddydau’n ffynnu o fewn diwylliant dwyieithog. Heb os, mae'r Gymraeg a'n cerddoriaeth yn rhoi llais a chymeriad unigryw i Gymru yn y byd, ac mae cydweithio yn rhyngwladol yn rhoi dyfnder, cyfleoedd a heriau newydd i ni.
Mae digwyddiad ‘Ein Llais yn y Byd’ yn Aberystwyth y penwythnos yma yn un amserol iawn, a braint fydd cyflwyno ein cywaith cerddorol ‘Mamiaith’ yno (criw o gerddorion rhyngwladol Georgia Ruth Williams, Jordan Price Williams, Doimnic Mac Giolla Bhríde, Lauren Ní Chasaide a Rona Wilkie), yn rhan o Flwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019. Mae nifer fawr o ddigwyddiadau rhyngwladol eleni yn trafod gwytnwch ieithyddol yn rhan o Flwyddyn UNESCO. Gyda 6,000 i 7,000 o ieithoedd y byd o dan fygythiad, does ryfedd.
Bûm yn ddigon lwcus i gymryd rhan yng nghynhadledd gyntaf cerddoriaeth frodorol WOMEX, gŵyl arddangos ryngwladol Cerddoriaeth Byd flynyddol, a oedd yn y Ffindir yn ddiweddar. Cefais fy nghyfareddu gan y gerddoriaeth, a’r trafodaethau ynglŷn â hawliau a choloneiddio cerddorol, cynaladwyedd diwylliannol, a rhagor.
Fe’m sobreiddiwyd gan ein diffyg ymwybyddiaeth o sefyllfa hawliau merched yn arbennig yn y cymunedau brodorol a sut, hyd heddiw, y targedir merched brodorol, a mamau yn arbennig, wrth i goloneiddio diwylliannol ddwysáu. Ganddyn nhw wedi’r cwbwl y cawn ni oll ein mamiaith.
‘Gwnewch le a rhowch lwyfan’ yw neges y merched cryfion yma wrth drafod ieithoedd diflanedig y byd. ‘Gwnewch le wrth y bwrdd i gynrychiolwyr ieithoedd a diwylliannau brodorol; rhowch ein cerddoriaeth a’n hieithoedd ar eich llwyfannau,’ oedd cri’r artistiaid - un ar ôl y llall.
Eleni, fe wnaeth WOMEX le wrth y bwrdd wrth benodi Dewisydd Swyddogol cyntaf o dras brodorol, y Maori Hinurewa te Hau. Ynghyd â’r gantores ShoShona Kish o Genedl yr Anishinabekwe o Ganada, cyn-enillydd gwobr Rhagoriaeth Broffesiynol WOMEX ac un o’r perfformwyr eleni, roedd yma blatfform eang nawr i ieithoedd brodorol y byd. Yn ôl ShoShona Kish: “Breuddwyd ein cyndadau ydym ni, a breuddwydiwn ninnau am ein gor-or-or wyrion”.
Mae’r canolbwyntio pwrpasol yma yn WOMEX ar ieithoedd llai yn dyst i ymdrechion rhyngwladol i roi lle mwy blaenllaw i iaith lai o fewn digwyddiadau mawr. Gallwn ninnau ymfalchïo yn hyn. Mae’r gwaith o roi lle blaenllaw i’r Gymraeg, ac ieithoedd llai eraill, yn ystod cynhadledd WOMEX pan ddaeth i Gaerdydd yn 2013, yn dwyn ffrwyth.
‘Caniatáu coloneiddio diwylliannol’?
Nid ydym am i’r Gymraeg gael ei hystyried yn iaith sy’n coloneiddio, ac mae hynny’n ddealladwy. Fodd bynnag, does ond angen clywed cyflwyniad gan un o artistiaid brodorol Awstralia, yn canu am ‘Afon Hopcyn’, i wybod nad dyna oedd enw brodorol yr afon, na chwaith o darddiad pa iaith y deuai’r enw. Ond, o gau’n clustiau i’r drafodaeth anodd honno, rydym yn caniatáu’r coloneiddio diwylliannol sy’n dal i ddigwydd o fewn y diwydiannau creadigol a thu hwnt. Mewn chwaer-wledydd annwyl i ni, megis Canada neu Awstralia, mae cerddoriaeth a diwylliannau (os nad ieithoedd) Cymraeg, Albaneg a Gwyddelig wedi ffynnu.
Oni ddylem felly gydnabod y fantais mae ein diwylliannau ni wedi eu cael, ac yn dal i’w cael, o Ganada i Batagonia, o Hong Kong i Seland Newydd? Yn ôl sawl un yn WOMEX, dylid creu ad-daliadau diwylliannol i ddiwylliannau brodorol y byd.
Gan mai Cymru yw’r wlad gyntaf i wneud diwylliant ac iaith yn rhan statudol o ddatblygu cynaladwy ynghyd â chyfrifoldeb bydol, onid oes gennym ni fel gweddill y Deyrnas Unedig, gyfrifoldeb o’r fath?
Fel Cymraes a dinesydd y byd, dw i’n falch o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ei gwerthoedd cymdeithasol a’i hamcanion pellgyrhaeddol. Daw teitl y Ddeddf, gyda llaw, o athroniaeth Cenhedloedd Cyntaf Gogledd America, sy’n ystyried effaith penderfyniadau heddiw ar bobol saith o genedlaethau i’r dyfodol wrth wneud dewisiadau dyddiol.
Wrth i ni baratoi yn ddiwylliannol i adael yr Undeb Ewropeaidd, nid yw’r angen i gydweithio’n rhyng-ddiwylliannol bylu. I’r gwrthwyneb: ni fu erioed y fath angen i ymwneud â rhwydweithiau rhyngwladol o bob math, er lles cenedlaethau’r dyfodol.
Beth fydd fy ngor-or-or-or-wyrion yn meddwl o’r penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud heddiw? Ym mha gyflwr fydd y byd? Faint o fy nisgynyddion a fydd wedi dysgu o’n camgymeriadau? A fyddan nhw’n cofio’r heniaith ac yn canu’r hen alawon?