Ym mis Ebrill 2020, wrth i’r clo mawr byd-eang ddod i rym, ffurfiodd grŵp o 42 ymchwilydd grŵp Atal Hunanladdiad COVID-19,gan danlinellu, “Mae hwn yn gyfnod digynsail. Bydd y pandemig yn achosi gofid ac yn gadael nifer o bobl yn fregus. Mae’r effeithiau ar iechyd meddyliol yn debygol o barhau am gyfnod hirach na’r pandemig ei hunan, ac yn debygol o gyrraedd penllanw wedi penllanw’r pandemig yntau.” (1)
Wrth edrych ar y data o’r UK COVID-19 Social Study a gynhaliwyd gan Goleg Prifysgol Llundain, sef astudiaeth banel o dros 90,000 o ymatebwyr yn canolbwyntio ar brofiadau seicolegol a chymdeithasol oedolion sy’n byw yn y Deyrnas Gyfunol yn ystod pandemig Covid-19, mae’n amlwg fod llawer ohonom wedi profi lefelau uwch o straen, gorbryder ac iselder mewn modd nad ydym erioed wedi ei brofi o’r blaen.
Sut ymateb sydd wedi bod i’r pandemig yng Nghymru a thu hwnt gan sefydliadau celfyddydau ac artistiaid cyfranogol sy’n gweithio yn sector iechyd a’r celfyddydau?
Ym mha ffyrdd y gall y celfyddydau gyfrannu at effaith barhaus y pandemig, yn arbennig mewn perthynas â lles meddyliol?
Mae ‘Iechyd a’r Celfyddydau’ yn faes gwaith sy’n tyfu’n fyd-eang ac mae rhwydweithiau rhanbarthol a chenedlaethol niferus ar draws y Deyrnas Gyfunol wedi ffurfio perthnasau gweithio agosach yn sgil y clo mawr.
Rhoddodd grŵp bychan o weithwyr proffesiynol o’r maes iechyd a’r celfyddydau gychwyn ar Rwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru yn 2013 gan gyda’r bwriad o greu cyfleoedd rhwydweithio, hyfforddi a rhannu.
Ar hyd y Deyrnas Gyfunol ceir chwaer rwydweithiau: Arts Culture Health + Wellbeing Scotland, Arts Care yng Ngogledd Iwerddon, a’r Culture, Health and Wellbeing Alliance yn Lloegr. Tu allan i’r Deyrnas Gyfunol, mae ein cymdogion agosaf yn Iwerddon wedi hen sefydlu rhwydwaith iechyd a’r celfyddydau a chaiff ei gynnal gan y Waterford Healing Trust ac, yn debyg i WAHWN, mae eu rhwydwaith yn cynnwys sefydliadau celfyddydol, awdurdodau lleol a thimau Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, wedi eu lleoli fel arfer mewn ysbytai, ar hyd a lled Iwerddon.
Ym mis Mai, trefnwyd y Gynhadledd Celfyddydau Gweledol mewn Iechyd, ‘Art Responders in Global Health Crisis: Covid-19’ gan Arts in Medicine (US). Aeth gweithwyr proffesiynol o 37 o wledydd i’r gynhadledd, gan gynnwys colegau yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon. Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r cyflwyniadau gan golegau yr UD, nail ai’n gweithio yn y byd academaidd, mewn proffesiynau therapyddol neu mewn sefydliadau celfyddydol cymunedol, ond fe glywsom yn ogystal gan gydweithwyr rhyngwladol yn ystod y sesiynau cwestiwn ac ateb a sgwrsio. Mae’r mathau o ymatebion sy’n dod oddi wrth y sector celfyddydau cyfranogol yn debyg ar draws y byd ac yn gyffredinol maent yn ffitio i ddau brif fath o ymatebion:
-
Prosiectau celfyddydau cyfranogol gyda’r bwriad o gefnogi iechyd a lles pobl yn uniongyrchol;
-
Mynegiant creadigol o brofiadau pobl o’r pandemig a’r clo mawr.
Tra bo unigolion a chymunedau ar draws y byd wedi creu cyngherddau, murluniau a gweithiau celf o fathau eraill yn eu cartrefi, yn eu gerddi, ar strydoedd ac mewn dinasoedd; gwelir hefyd fod symudiad sefydliadol sylweddol wedi digwydd o ran rhaglenni celfyddyd ar lein. Mae gweithgareddau a oedd yn arfer digwydd mewn ystafell gyda chyfranogwyr wedi mynd yn fyw ar Facebook, Instagram, Zoom a phlatfformau ar lein eraill. Fodd bynnag, mae cau allan digidol wedi bod yn broblem gyffredin dros y byd. Mae hon wedi bod yn broblem fwy eang mewn gwledydd yn Affrica lle mae hyd yn oed cael mynediad at drydan yn gallu bod yn anodd ar brydiau, cyn dechrau meddwl am heriau penodol cau allan digidol: nid yw pobl yn meddu ar ddyfais, neu does ganddyn nhw ddim pecynnau sy’n cefnogi ymgysylltu ar lein am gyfnod hir, neu does ganddynt ddim o’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn ymgysylltu ar lein (2). Mewn rhannau gwledig o Gymru, mae amryw o bobl yn parhau i fethu cael mynediad i signal gwe dibynadwy hyd yn oed (3). Golyga hyn fod ymgysylltu gyda’r celfyddydau, naill ai fel aelod o’r gynulleidfa neu fel cyfranogwr yn gallu bod yn broses ddethol iawn.
Mae sefydliadau celfyddydol ledled Cymru, y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon wedi arloesi drwy gyfrwng ystod o brosiectau ‘celfyddydau rhiniog y drws’ lle mae deunyddiau celf wedi cael eu cludo’n uniongyrchol at gyfranogwyr, er mwyn gwneud yn siŵr fod eu cymunedau yn parhau i fod wedi eu cysylltu, tra bo prosiectau eraill wedi cael eu cynnal dros y ffôn a thrwy wasanaeth postio. Er bod y clo mawr wedi golygu ein bod oll wedi cael ein hynysu’n gorfforol, mae’r sector cyfranogi yn y celfyddydau wedi gweithio’n galed i ofalu nad yw pobl yn gorfod ymynysu’n gymdeithasol. Mewn nifer o achosion mae hyn wedi darparu achubiaeth hanfodol er mwyn cysylltu cymunedau. Ymestynnwyd hyn i wardiau ysbytai lle mae artistiaid wedi trawsnewid gofodau a phrofiadau i gleifion. Gwyliwch y fideo sy’n dangos rhywfaint o’r gwaith gwerthfawr hwn ar dudalen vimeo WAHWN.
Wrth i ni ddechrau symud allan o’r clo mawr yn araf bach, mae nifer o sefydliadau celf cyfranogol mewn trafodaethau gyda chyrff iechyd a gofal cymdeithasol lleol er mwyn archwilio sut y gall y celfyddydau gefnogi’r cyfnod o adferiad a gwellhad yr ydym yn dod iddo yn awr. Yng Nghymru, gyda’n ffocws strategol ar les fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015), mae gan bob corff cyhoeddus ddyletswydd gyfreithiol i ystyried llesiant ein cymunedau wrth i ni ymddangos o’r cyfnod trawsnewidiol hwn. Gall y celfyddydau, a’r sector celfyddydau cyfranogol yn benodol (mewn lleoliadau cymunedol ac iechyd), helpu i ailadeiladu diwylliant bywiog; cymunedau cydlynol sy’n iachus a gwydn; ffyrdd o fyw sy’n gynaliadwy a chydwybodol mewn cyd-destun byd-eang; a chyfartaledd i bob dinesydd.
Gwybodaeth bellach:
Mae’r broses o sefydlu WAHWN wedi digwydd ochr yn ochr â’r perthnasau sy’n datblygu rhwng CCC a GIG Cymru. Cyhoeddwyd astudiaeth CCC Mapio’r Celfyddydau ac Iechyd yn 2018 ac mae’n amlygu ymrwymiad i adeiladu arfer llwyddiannus yn y maes hwn a chefnogi WAHWN i ddatblygu ei gwasanaethau a chryfhau’r sylfaen dystiolaeth. Ynghyd â hyn, cynhyrchodd CCC a Chonffederasiwn GIG Cymru Femorandwm o Gyd-Ddealltwriaeth, sydd yn ei dro wedi arwain at ofalu bod nawdd ar gael i gyflogi aelod o staff ym mhob bwrdd iechyd lleol er mwyn ymgymryd â rôl sy’n sicrhau bod mentrau iechyd yn rhan greiddiol o holl ardaloedd Cymru.
Cafodd Arts and Health Ireland ei sefydlu yn 2011, caiff y rhwydwaith gynhaliaeth gan Gyngor Celfyddydau Iwerddon ac Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Lleolir Arts in Medicine US ym mhrifysgol Florida. Cafodd y gynhadledd gynhaliaeth hefyd gan y Global Brain Health Institute, Prifysgol California.