Rhwydwaith o 8 preswyliad yn Ffrainc a’r Deyrnas Unedig yw Magnetic. Cafodd ei lansio yn 2022 o dan faner Fluxus Art Projects.

 

Gan ddatblygu ar lwyddiant y rownd gyntaf, mae Magnetic 2 yn cynnal ac yn cryfhau’r rhwydwaith o breswyliadau ar ddwy ochr y Sianel.

 

Bydd wyth o sefydliadau blaenllaw yn Ffrainc a’r Deyrnas Unedig yn bartneriaid i Magnetic 2. Eleni, i gryfhau’r cysylltiadau rhwng y sefydliadau ar ddwy ochr y Sianel, bydd y rhaglen wedi’i seilio ar bartneriaeth ddwyochrog rhwng rhanbarth yn Ffrainc ac un o genhedloedd y Deyrnas Unedig. Bydd yr artistiaid yn rhanbarthau Ffrainc yn gwneud cais am breswyliad yn un o genhedloedd y Deyrnas Unedig, tra bydd artistiaid yn y Deyrnas Unedig yn yr un modd yn gwneud cais am breswyliad yn Ffrainc. Bydd y cynlluniau dwyochrog yn creu cysylltiadau rhwng CAPC yn Bordeaux/Nouvelle-Aquitaine a Wysing Arts Centre yng Nghaergrawnt/Lloegr, rhwng Frac Bretagne yn Rennes/Llydaw a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth/Cymru, rhwng Frac Grand Large yn Dunkirk/Hauts-de-France a Flax Art Studios yn Belfast/Gogledd Iwerddon, a rhwng Villa Arson yn Nice/Provence-Alpes-Côte d’Azur a Cove Park/Yr Alban.

 

Mae cynllun Magnetic wedi’i ddylunio i feithrin datblygiad artistig drwy gyfleoedd cyfnewid, ac mae’n ceisio cryfhau cydweithrediad cynaliadwy yn y tymor hwy rhwng byd y celfyddydau gweledol yn y Deyrnas Unedig ac yn Ffrainc. Mae gan y rhaglen sawl cryfder. Bydd materion cymdeithasol ac amgylcheddol yn ganolog i’r rhaglen, a bydd disgwyl i’r wyth artist a gaiff eu dewis weithio mewn cyd-destunau penodol – daearyddol neu hanesyddol, cymdeithasol, artistig ac ati.  Lefel y gefnogaeth a roddir i’r arstiatiad yw un o gryfderau eraill Magnetic. Bydd yr artistiaid yn cael ffi misol o 2500 € / £ 2100, ynghyd â chyfleoedd mentora curadurol. Bydd pob preswyliad o ddau fis yn cael ei drefnu’n benodol drwy drafodaethau â thimau curadurol y sefydliadau, gan roi cyfleoedd i’r artist rwydweithio drwy gydol y cyfnod dan sylw. Bydd yr artistiaid yn cael llety a gofod gweithio.

 

Mae Magnetic yn bartneriaeth newydd sydd wedi’i chreu gan yr Institut français du Royaume-Uni ac Arts Council England, Arts Council Northern Ireland, Cyngor Celfyddydau Cymru a Creative Scotland, ynghyd â’r British Council, yr Institut français a Gweinyddiaeth Ddiwylliant Ffrainc. Mae’n cael ei chynhyrchu o dan faner Fluxus Arts Projects, elusen a sefydlwyd ac sy’n cael ei rhedeg gan yr Institut gyda nawdd partneriaid cyhoeddus a rhoddwyr preifat yn Ffrainc a’r Deyrnas Unedig. Dros y tair blynedd ar ddeg ddiwethaf, mae Flexus Art Projects wedi meithrin enw da dros ben ymhlith artistiaid a lleoliadau, gan gefnogi arddangosfeydd a gwaith ymchwil curadurol yn Ffrainc a’r Deyrnas Unedig ill dau.

 

"Ar ôl cefnogi dros 250 o leoliadau a 250 o artistiaid dros 12 mlynedd, mae Fluxus Art Projects yn codi pont rhwng byd y celfyddydau gweledol yn Ffrainc a Phrydain. O dan faner Fluxus, mae Magnetic, y rhaglen gyntaf rhwng Ffrainc a Phrydain o breswyliadau i artistiaid, ac a lansiwyd yn 2022, yn enghraifft wych o’r cydweithio hirdymor rhwng ein sefydliadau a’n hartistiaid gorau ar y naill ochr i’r Sianel a’r llall. Bydd rhaglen Magnetic 2, sy’n enghraifft ragorol o ariannu cynllun ar sail ddwyochrog a gwerthoedd cyffredin rhwng rhanbarthau yn Ffrainc a chenhedloedd y Deyrnas Unedig, yn agor llwybr i greu cysylltiadau mwy cadarn a ffrwythlon fyth rhwng ein dwy wlad. Hir oes i Magnetic!

Bertrand Buchwalter, Cyfarwyddwr Institut français du Royaume-Uni. 

 

Mae’r cyfnewid rhwng Llydaw a Chymru yn digwydd yn ystod Blwyddyn Cymru yn Ffrainc, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r British Council.

 

Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Bydd gan yr artistiaid llwyddiannus gyfle i roi gwedd gyfoes i gysylltiadau hynafol. Mae perthynas ac atyniad naturiol eisoes rhwng Llydaw a Chymru. Ar y môr, rydyn ni wedi bod yn bartneriaid ers canrifoedd, gan fasnachu bwydydd, diodydd, diwylliant a chrefftau. Mae gan Lydaweg a’r Gymraeg yr un tarddiad Celtaidd, ac maen nhw’n ieithoedd sy’n dal i ysbrydoli cydweithio cerddorol ac artistig. Mae effaith yr argyfwng hinsawdd bellach yn rhywbeth sy’n gyffredin i’n cymunedau arfordirol, ac mae ein hartistiaid a’n diwylliannau yn hollbwysig wrth ddehongli a rhoi sylw i’r cyd-destun hwnnw.”

Mae’r broses ymgeisio’n agor ar 14 Gorffennaf ac yn para tan 29 Awst, 2023.

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno CV ynghyd â chynnig sy’n dangos eu cymhellion a’u bwriadau ar gyfer y lleoliad dan sylw a’i gyd-destun. Rhaid cyflwyno’r holl geisiadau drwy wefan Fluxus Art Projects (https://fluxusartprojects.com/apply), lle ceir rhagor o wybodaeth am y rhaglen a’r wyth o sefydliadau.

Bydd enwau’r artistiaid a gaiff eu dewis ar gyfer Magnetic 2 yn cael eu cyhoeddi ganol mis Hydref 2023.

Bydd y cyfnodau preswyl yn dechrau yn nhymor yr hydref 2023.

 

Y cyswllt yn Nghyngor y Celfyddydau: info@wai.org.uk

 

Mae rhaglen Magnetic wedi’i chefnogi gan yr Institut français du Royaume-Uni, yr Institut français, Gweinyddiaeth Ddiwylliant Ffrainc, Gweinyddiaeth Ewrop a Materion Tramor Ffrainc, Arts Council England, Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Arts Council of Northern Ireland a’r British Council.