Rhwydwaith o 10 o gyfnodau preswyl yn Ffrainc a’r Deyrnas Unedig yw Magnetic. Cafodd ei lansio yn 2022 o dan faner Fluxus Art Projects.

 

Yn 2025, bydd Magnetic yn parhau yn un fformat â’r tri thro llwyddiannus blaenorol, gyda deuddeg o bartneriaid rhyngwladol a chyfanswm o 27 o artistiaid o’r Deyrnas Unedig a Ffrainc yn cael eu cefnogi. 

 

Mae deg o sefydliadau blaenllaw yn Ffrainc a’r Deyrnas Unedig yn bartneriaid i Magnetic 4. I gryfhau’r cysylltiadau rhwng y sefydliadau hyn ar ddwy ochr y Sianel, mae pob cyfnod preswyl wedi’i seilio ar bartneriaeth rhwng un o ranbarthau Ffrainc ac un o genhedloedd y Deyrnas Unedig. Gall artistiaid o sawl rhanbarth yn Ffrainc wneud cais am gyfnod preswyl yn un o genhedloedd y Deyrnas Unedig, ac i’r gwrthwyneb. Bydd y partneriaethau’n creu cysylltiadau rhwng Capc yn Bordeaux/Nouvelle-Aquitaine a’r Wysing Arts Centre yng Nghaergrawnt/Lloegr, rhwng Frac Bretagne yn Roazhon/Llydaw a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth/Cymru, rhwng Frac Grand Large yn Dunkirk/Hauts-de-France a Flax Art Studios yn Belfast/Gogledd Iwerddon, rhwng Villa Arson yn Nice/Provence-Alpes-Côte d’Azur a Cove Park/Yr Alban a rhwng Bétonsalon – Centre for Art and Research yn Paris/Île-de-France a Gasworks yn Llundain/Lloegr.

 

Mae cynllun Magnetic wedi’i greu i feithrin datblygiad artistig drwy gyfleoedd cyfnewid, ac mae’n ceisio cryfhau cydweithrediad cynaliadwy rhwng byd y celfyddydau gweledol yn y Deyrnas Unedig ac yn Ffrainc yn y tymor hwy. Mae gan y rhaglen nifer o gryfderau. Bydd materion cymdeithasol ac amgylcheddol yn ganolog i’r rhaglen, a bydd disgwyl i’r deg artist a ddewisir ymateb i gyd-destunau penodol – daearyddol neu hanesyddol, cymdeithasol, artistig ac ati. Lefel y tâl a roddir i’r artistiaid yw un o gryfderau eraill Magnetic. Bydd yr artistiaid yn cael ffi misol o 2500 € / £2100, ynghyd â chael eu mentora gan guraduron. Bydd pob cyfnod preswyl yn para deufis, a’r rheini wedi’u trefnu’n benodol drwy drafodaethau â thimau curadurol y sefydliadau, gan roi cyfleoedd i’r artist rwydweithio drwy gydol y cyfnod dan sylw. Bydd yr artistiaid yn cael llety a gofod gweithio.

 

Ymhlith yr artistiaid sydd wedi cael eu cefnogi hyd yma mae: Susie Green, Joshua Leon, Hugh Nicholson, Zoé Williams, Chizu Anucha, Daria Blum, Tom Cardew, Charys Wilson, Emilia Beatriz, Racheal Crowther, Mez Kerr Jones, Robin Price, Lisa Selby and Carla Adra, David Douard, Éléonore False, Azzedine Saleck, Antoine Viviani, Elise Charcosset, Francisco Rodríguez Teare, Laure Vigna, Maxime Voidy, Violaine Barrois, Camille Brée, Donovan Le Coadou, Elsa Prudent, Dorian Teti.

 

Mae Magnetic yn gynllun ar gyfer cydweithio a ddyluniwyd gan yr Institut Institut français du Royaume-Uni a’r pedair asiantaeth sy’n ariannu’r celfyddydau yn y Deyrnas Unedig, gyda chymorth y British Council, yr Institut français, Gweinyddiaeth Ddiwylliant Ffrainc, a Gweinyddiaeth Ewrop a Materion Tramor Ffrainc. Mae cynllun Magnetic yn cael ei gynhyrchu o dan faner Fluxus Arts Projects, elusen a sefydlwyd ac sy’n cael ei rhedeg gan yr Institut gyda nawdd partneriaid cyhoeddus a rhoddwyr preifat yn Ffrainc a’r Deyrnas Unedig. Dros y pymtheg mlynedd ddiwethaf, mae Flexus Art Projects wedi meithrin enw da dros ben ymhlith artistiaid a lleoliadau, gan gefnogi arddangosfeydd a gwaith ymchwil curadurol yn Ffrainc a’r Deyrnas Unedig ill dau. 

 

Bydd modd cyflwyno ceisiadau rhwng 20 Mai ac 14 Gorffennaf 2025. 

I wneud cais, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cynnig artistig sy’n dangos sut y mae’u gwaith yn berthnasol ac yn unigryw, gan sôn am eu diddordebau ymchwil yng nghyd-destun y sefydliad sy’n lletya. Dylen nhw hefyd ysgrifennu darn byr o destun yn egluro’u cymhelliad dros wneud cais am gyfnod preswyl rhyngwladol yn y cam hwn yn eu gyrfa, gan sôn am y manteision a ddaw o hynny.

Rhaid cyflwyno’r holl geisiadau drwy wefan Fluxus Art Projects, lle ceir rhagor o wybodaeth am y rhaglen a’r deg sefydliad.

Bydd enwau’r artistiaid a gaiff eu dewis ar gyfer Magnetic 4 yn cael eu cyhoeddi yn ystod Frieze yn Llundain ym mis Hydref 2025.

Bydd y cyfnodau preswyl yn dechrau yn ystod gaeaf 2025.

 

I gael rhagor o wybodaeth :fluxusartp@gmail.com  

 

Mae rhaglen Magnetic wedi’i chefnogi gan yr Institut français du Royaume-Uni, yr Institut français, Gweinyddiaeth Ddiwylliant Ffrainc, Gweinyddiaeth Ewrop a Materion Tramor Ffrainc, Arts Council England, Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Arts Council of Northern Ireland a’r British Council.

 

A group of logos with text

AI-generated content may be incorrect.