Gyda COP26 ac Wythnos Hinsawdd Cymru rownd y gornel, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn mapio taith Cymru i'r gynhadledd a thu hwnt trwy ofyn i'r sector diwylliannol am beth sy'n cael ei drefnu o gwmpas COP26 a'r argyfwng hinsawdd.
P'un ai bod eich digwyddiad, cynnwys, neu ymgyrch yn digwydd cyn, yn ystod, neu ar ol COP26, yn Yr Alban, Cymru neu ymhellach i ffwrdd, mewn person, yn ddigidol, neu'n gymysg o'r ddwy - hoffem glywed ohonoch!
Dim ond lansiad y mapio yw COP26, hoffem hefyd glywed gennych os ydych chi'n rhoi camau mewn lle ar gyfer datblygiad hir-dymor.
Gadewch inni wybod trwy'r arolwg isod. Gallwch hefyd cysylltu â ni yn uniongyrchol yma.
Mewn cydweithrediad â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, byddwn yn trafod rôl y sector diwylliannol yn yr argyfwng hinsawdd yn ein bore coffi ar-lein yn ystod COP26.
Mi fydd llond llaw o westai yn ymuno â'r digwyddiad ar 9fed o Dachwedd, 09:30-10:30am BST. Mae'r gwestai yma'n gweithredu ar y cwestiwn o effaith diwylliannol ar yr argyfwng hinsawdd trwy eu hymarfer ac yn cynnwys:
Gwenfair Hughes (Cyngor Celfyddydau Cymru / Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol 2019/20)
Jacob Ellis (Arweinydd Ysgogi Newid ar gyfer Materion Cyhoeddus a Rhyngwladol - Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru)
Marc Rees (Artist rhyngwladol amlddisgyblaethol)
Taylor Edmonds (Bardd Preswyl Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru)
Dim ond nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael i'r bore coffi. Cofrestrwch isod.