Bydd Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn cymryd rhan mewn trafodaeth ‘Dathlu Ieithoedd Brodorol’ yn BreakOut West heddiw. Mae hi hefyd yn Ddiwrnod Crysau Oren yn y wlad rydym ni’n adnabod fel Canada – moment pwysig i ni feddwl yn ddyfnach am ein cyfrifoldebau ni wrth gydnabod gwir a chymod ar gyfer cymunedau brodorol Canada.

“I ddechrau, hoffwn gydnabod fy mod yn troedio ar diriogaethau traddodiadol Cydffederasiwn Blackfoot: Siksika [sig(k)siga], Kainai [gain-uh(wah)], Piikani [began-ee], y Tsuut'ina [sue-tin-uh], Cenhedloedd Stoney Nakoda, Rhanbarth Cenedl 3 Métis [may-te], a phawb sy'n gwneud eu cartrefi yn rhanbarth Cytuniad 7.

Ar ddiwrnod Crysau Oren, sef Diwrnod Cenedlaethol Gwir a Chymodi yng Nghanada, mae bod yng Nghalgary ar gyfer gŵyl BreakOut West yn gyfle i wrando. Wrth i mi gymryd rhan yn yr ŵyl heddiw, rydw i’n meddwl am rôl cerddoriaeth a’r celfyddydau er mwyn ein helpu i wrando, iachau, a chodi ymwybyddiaeth o ieithoedd a diwylliannau brodorol Canada. Mae’r cyfle yn fraint ac yn gyfrifoldeb – un er mwyn i ni ddysgu a chyfrannu tuag at newid y naratif.

Rydym eisioes wedi clywed a gweld yr erchyllderau ynghylch ysgolion preswyl yng Nghanada. O dan ymerodraeth Prydain, cafwyd plant eu dwyn o’u teuluoedd, gan dorri traddodiadau, a lladd ieithoedd. Mae’r erchyllderau hyn wedi gadael effeithiau seicolegol a diwyllianol dwys ar hyd y cyfandir. Nid hen hanes yw hyn, ond trawma cyfoes.

Fel Cymraes freintiedig, rwy’n adnabod bod gyda ni rôl i’w chwarae yn y cymodi hwn. Ond i wneud hynny, mae angen i ninnau fod yn agored am gyfranogiad a chyfrifoldeb ein diwylliant a’n iaith Geltaidd ni. Mae’r iaith Gymraeg a’i diwylliant gyda phrofiad deuol o goloneiddio; fel iaith wedi’i gormesu ond hefyd iaith sydd wedi bod yn rhan o goloneiddio. Ar Ddiwrnod Gwirionedd a Chymodi, rhaid i ni beidio gwadu’r breintiau uniongyrchol ac anuniongyrchol sydd gennym ni yn sgíl coloneiddio. Rydym ni fel cyfranwyr i goloneiddio wedi gwneud nam dybryd ar ddiwylliannau cenhedloedd cyntaf Canada.

Mae cyfrifoldeb arnom ni felly, i ddeall a rhannu’r gwir, cyn gallwn ddisgwyl unrhyw gymodi. Fel arall, mae peryg i ni ymgymryd â phroses o ail-goloneiddio.”

#EveryChildMatters

- Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru