Dydd Gŵyl Dewi yw diwrnod cenedlaethol Cymru. Mae wedi’i enwi ar ôl ein nawddsant ac arweinir y diwrnod gan neges rymus Dewi Sant i wneud y pethau bychain. Eleni, rydym ni'n hoelio ein sylw ar un o'n meysydd gwaith allweddol: ieithoedd brodorol a'r hinsawdd. Mae neges ein nawddsant Dewi am wneud y pethau bychain er mwyn gwneud gwahaniaeth mawr yn bwrpasol iawn at fynd i’r afael  â'r argyfwng hinsawdd oherwydd bod yr argyfwng yn effeithio’n fawr iawn yn ei dro ar ein cymunedau a’u hieithoedd brodorol.

Edrych y tu hwnt i Gymru ein gwlad yw ein cyfrifoldeb byd-eang.

I nodi Dydd Gŵyl Dewi ac i ledaenu neges y Pethau Bychain, rydym yn rhannu'r fideo cerddorol  grymus yma a wnaed gan grŵp o 16 o bobl frodorol ifanc o genedl y Wampís. Enw'r gân yw Iña Nunke (‘ein tiriogaeth’). Cafodd ei chyfansoddi gan y Wampís ifanc yn ystod cyfres o weithdai a gynhaliwyd gydag arian oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae'n canolbwyntio ar bwysigrwydd edrych ar ôl yr Amazon, gan rannu eu diwylliant a'u hiaith. Gwyliwyd dangosiad cyntaf y fideo gan gynulleidfaoedd ledled y byd, wrth gan rannu'r stori am sut mae'r Wampís yn amddiffyn eu tiriogaeth a'u coedwigoedd rhag y bygythiadau y maent yn eu hwynebu yn rheolaidd, megis mwyngloddio aur anghyfreithlon a thorri coed. Mae'r gân hefyd yn anelu at feithrin cefnogaeth o fewn Cenedl y Wampís, gan eu hannog i ralio yn erbyn gweithgareddau anghyfreithlon.

 

 

Mae'r berthynas rhwng Cymru a'r Wampís wedi’i meithrin gan yr elusen Maint Cymru dros nifer o flynyddoedd. Erbyn hyn mae'r gân wedi’i chyfieithu i'r Gymraeg, yn ogystal ag i’r Sbaeneg a’r Saesneg.

Mae ieithoedd brodorol, fel Wampís a’r Gymraeg, yn perthyn yn agos i berthynas y bobl â’r wlad, ac mae gwarchod ieithoedd brodorol yn hollbwysig oherwydd ei fod yn mynd law yn llaw â deall ac amddiffyn ein byd naturiol, fel yr amlygwyd gan Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig. Mae'r cysylltiad dwfn a hynafol hwn hefyd yn amlygu taw cymunedau brodorol yw’r warcheidwaid gorau i’w tiroedd, fel y gwelir yn nhiriogaeth Wampís ei hun - mae 98% o'u coedwigoedd yn parhau i fodoli.
 

Cafodd pobl ifanc o Gymru gyfle hefyd i gydweithio â'r Wampís, pan gyfarfu Llysgenhadon Ifanc yr Hinsawdd a band uniad Ysgol Uwchradd Fitzalan â nhw ar-lein. Grŵp o bobl ifanc sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd yng Nghymru ac ar draws y byd yw Llysgenhadon Ifanc yr Hinsawdd ac rydym am rymuso eu llais yn ein hymdrechion i ddiogelu lles cenedlaethau'r dyfodol.

Wrth wylio’r fideo gan yr Wampís ifanc, meddai Shenona, Is-Gadeirydd Llysgenhadon Ifanc yr Hinsawdd: “Mae’n anhygoel! Er bod y frwydr yn anodd iawn, mae’r neges yn bwerus ac yn gadarnhaol.”

Meddai Molly, aelod o’r Llysgenhadon Ifanc yr Hinsawdd “Roedd y fideo cerddoriaeth yn anhygoel, roedd negeseuon o lais unedig yn erbyn trachwant corfforaethol a chamddefnydd o bŵer yn grymusol. Mae gwaith cenedl Wampís yn ysbrydoledig, mae negeseuon undod drwyddi draw mor bwysig.”

Mae cydweithio fel hyn yn bwysig i rymuso pobl ifanc a meithrin cyfrifoldeb byd-eang gan edrych y tu hwnt i Gymru ac ystyried y pethau bychain a wnawn sy'n effeithio'n fawr ar genhedloedd a chymunedau eraill.

Wrth rannu eu barn ar gyfrifoldeb byd-eang Cymru, meddai'r Llysgenhadon Ifanc yr Hinsawdd:

"Rwy'n meddwl bod gan Gymru rôl bwysig wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Rwy'n credu bod gan bawb gyfrifoldeb i wneud yr hyn a allant i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau planed iachach i genedlaethau’r dyfodol ei hetifeddu. Yn y pen draw, mae newid hinsawdd yn rhywbeth sy’n mynd i effeithio ar bob un ohonom, ac mae’n rhaid i Gymru weithredu mewn ffordd sy’n blaenoriaethu trosglwyddiad cyfiawn i Fyd glanach a gwyrddach.” - Ellie, Ysgrifennydd Llysgenhadon Ifanc yr Hinsawdd

"Rwy'n meddwl bod gan Gymru ran sylweddol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, fel y mae gan unrhyw wlad sydd â'r modd i wneud hynny. Yng Nghymru rydym yn freintiedig iawn i beidio â phrofi llawer o'r trychinebau hinsawdd sy'n datblygu yn gynyddol fwy cyffredin ledled y byd ac eto rydym yn dal i gyfrannu at y broblem. Mae gan Gymru gyfrifoldeb i fod yn garbon niwtral neu hyd yn oed garbon negatif cyn gynted ag y bo modd i wrthweithio ein rol mewn cynhyrchu nwyon ty gwydr, llygredd a gwastraff.

Mae cyfrifoldeb byd-eang yn bwysicach nag erioed, yn ystod cyfnod lle gall gweithredoedd bach gan genedl fel Cymru ddylanwadu ar fywydau pobl ar ochr arall y byd. Ni allwn anwybyddu’r trychineb hinsawdd a bioamrywiaeth sy’n digwydd o’n cwmpas gan nad ydym yn gweld yr effeithiau difrifol eto, rhaid i Gymru fod yn gyfrifol yn fyd-eang am ei gweithredoedd neu ni allwn fyth ddisgwyl i genhedloedd eraill newid gyda ni. Mae’n rhaid i Gymru weithredu'r newid yr ydym am weld yn y byd, nid yn unig i genedlaethau Cymreig y dyfodol ond i’r blaned." - Lili, Swyddog Cyfathrebu Llysgenhadon Ifanc yr Hinsawdd