Wrth i Lysgennad Yr Almaen ymweld â Chymru ar 18-19eg o Dachwedd, mae'n bleser gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i gyhoeddi Plant y Cymoedd (Valleys Kids) a'u partneriaid Almaeneg Emanuel Geibel School Lübeck University of Musik fel un o brosiectau llwyddiannus cronfa beilot newydd sy'n annog cydweithredu rhwng Cymru a'r Almaen.

Mae Pont Ddiwylliannol yn gronfa beilot newydd sy'n dathlu partneriaeth dwyochrog rhwng asiantaethau datblygiad celfyddydoly DU (Arts Council England, Arts Council Northern Ireland, Cyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Creative Scotland) a rhai o sefydliadau diwylliannol blaenorol Yr Almaen (British Council Germany, Goethe-InstitutFonds Soziokultur). Nod y rhaglen fel platfform o gyfnewid, yw i ganiatau ymarferwyr celfyddydol amrywiol i drafod materion cymdeithasol, tra'n cryfhau'r cyfnewid rhwng y DU a'r Almaen, a meithrin democratiaeth diwylliannol.
 

Mae'r cydweithrediad rhwng Plant y Cymoedd (Valleys Kids), The Emanuel Geibel School a Lübeck University of Musik - sef 'Mind The Gap' - yn archwilio creadigaeth rhwydwaith ymarferol o artistiaid sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd. Caiff yr artistiaid yma'r cyfle i weithio gyda grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli, a phobl ifanc, er mwyn darparu gwell mynediad i'r celfyddydau. Nod y prosiect yw gwared y rhaniadau cymdeithasol a'r rhwystrau sy'n wynebu pobl gyda llai o gyfle i ymgysylltu gyda'r celfyddydau yng Nghymru a'r Almaen. Un o nifer o gydweithrediadau sydd wedi datblygu rhwng Cymru a'r Almaen yw hwn, gyda 2021 yn Flwyddyn Cymru yn yr Almaen, a chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru tu ôl iddi.

 

Dwedodd Eluned Haf, Head of Wales Arts International am y gronfa newydd
“Rydw i wrth fy modd i weld Valleys Kids wedi’i ddewis i fod yn rhan o Bont Ddiwylliannol. Mae’n gyfle gwych i rannu a dysgu o’r cyfoeth o ymarfer maent wedi datblygu er mwyn annog pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau cymdeithasol yn eu cymunedau trwy’r celfyddydau. Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, ac i mewn i fyd sy’n newid, mae pobl ifanc a phlant yn elwa’n fawr o gydweithredu o fewn y gymuned, ac yn eiriolwyr a dysgwyr arbennig, er fudd ei hunain, a chenedlaethau’r dyfodol.”
 

Dwedodd Miranda Ballin, Cyfarwyddwr Artistig Sparc Valleys Kids
“Mae prosiect celfyddydol pobl ifanc Sparc -Valleys Kids - wrth ein boddau i dderbyn Cronfa Bont Ddiwylliannol gyda’n prosiect ‘Mind the Gap’, a hynny fel un o’r rhai cyntaf i fod yn rhan o’r rhaglen. Rydym ni hefyd wrth ein boddau i gydweithio gyda’n partneriaid Almaeneg yn ysgol Emanuel Geibel a Phrifysgol Cerddoriaeth Lubek. Roedd yna cydberthanos rhyngom ni ar unwaith. Mae gweithio gyda phobl ifanc ac artistiaid sy’n dod i’r amlwg o ardaloedd difreintiedig yn Yr Almaen a Chymru yn cynnig gobaith a chyfleoedd nad oedd yn bosib blwyddyn yn ôl!”

Prosiect celfyddydau i bobl ifanc yw Valleys Kids, gyda hanes 22 mlynedd o ragoriaeth yng ngwaith gyda phobl ifanc. Maent yn gweithio ar draws Rondda Cynon Taf, mewn rhai o’r cymunedau fwyaf difreintiedig yn Ewrop, yn galluogi pobl ifanc sydd gyda chyn lleied neu dim mynediad o gwbl i’r celfyddydau i greu gwaith ei hunain, a chael eu lleisiau wedi’i clywed. Dros y 6 mlynedd diwethaf, maent wedi bod yn benderfynol i alluogi pobl ifanc cyrraedd eu potensial, a sefydlwyd partneriaethau arbennig gyda Tate, a Chanolfan y Mileniwm. Mae eu perthnasoedd wedi’i galluogi i weithio gyda rhai o bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn Rhondda Cynon Taf, a llawer o rheini yn awr yn dod i’r amlwg fel artistiaid a phobl greadigol ei hunain.

Mae Emanuel Geibel School a Lübeck University of Musik wedi bod yn cydweithio ym maes cerddoriaeth ers blynyddoedd. Pob blwyddyn, maent yn datblygu pefformiadau theatre cerddorol, gyda myfyrwyr cerddoriaeth o’r ddwy ysgol yn cymryd rhan, ac yn adlewyrchu materion cyfredol y byd. Gyda’r ffurf yma o weithio, caiff myfyrwyr y brifysgol cyfle i ddysgu sut i gyfeilio’r broses o greu, o’r syniad cychwynnol i’r perfformiad, gan gydweithredu gyda myfyrwyr yr ysgol. Mae’r prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc o bob galluoedd a chefndiroedd ethnig a chymdeithasol, gan weithio mewn ffordd gynhwysol sy’n galluogi’r myfyrwyr i ddefnyddio’r sgiliau newydd er mwyn mynegi eu hemosiynau a phrofiadau mewn ffordd artistig.

Mewn cyfanswm, cafodd 7 prosiect ei ariannu fel rhan o flwyddyn gyntaf y gronfa beilot:

Enter
Kulturvilla Nellie (Yr Almaen) & Creative Black Country (Lloegr)

Northsea Neighbours
Das Letzte Kleinod (Yr Almaen) & Shetland Arts (Yr Alban)

Ensemble Upvention
S27 (Yr Almaen) & Govanhill Baths (Yr Alban)

Staging the Hidden Words
Sommerblut Kulturfestival & Running Water (Yr Almaen) & Writing On The Wall (Lloegr)

Mind The Gap
University of Music Lübeck & Emanuel Geibel-Schule & Academy for Weird Things (Yr Almaen) & Valleys Kids (Cymru)

Ode to Earth
Die Villa Leipzig (Yr Almaen) & Beyond Skin and DU Dance (Gogledd Iwerddon)

Bridgit – Building Better Bridges
Fine Arts Institute Leipzig (Yr Almaen) & Folkestone Fringe (Lloegr) & Alchemy Film & Arts (Yr Alban)