Fel rhan o’r bartneriaeth strategol rhwng Prifysgol Caerdydd (Cymru) a Phrifysgol Waikato (Seland Newydd), mae cerddorion yn y ddwy wlad wedi bod yn cydweithio ar brosiect newydd sy’n archwilio’r sîn cerddoriaeth pync Cymraeg a Māori, gan rannu syniadau a dysgu.

Mae Wairehu Grant yn fyfyriwr PHD ym Mhrifysgol Waikato ac yn ysgrifennu traethawd ymchwil ar ddiwylliant pync Māori DIY ar hyn o bryd. Mae Wairehu yn un o'r cyfranogwyr yn y cydweithrediad ac ymddangosodd yn ddiweddar ar raglen Recordiau Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru i drafod ei waith ymchwil. Hefyd ar y rhaglen oedd Catrin Jones o Brifysgol Caerdydd a fu’n trafod y cydweithrediad ymhellach, a Gareth Schott (Prifysgol Waikato) buodd yn rhoi hanes byr y sîn gerddoriaeth pync Cymraeg.

Ym mis Awst, cynhaliodd y cydweithredwyr ddigwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan roi cyfle i agor y sgwrs i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys Katie Hall, prif gantores y band pync Cymraeg Chroma, a’u cysylltu â chyfoedion yn Waikato.

Bydd y prosiect yn cael ei ddatblygu ymhellach a bydd mwy o weithgareddau ar gael dros y flwyddyn nesaf.