Cymru. Japan. Dwy wlad sy’n gofalu am y gorffennol. Sy’n byw’n dda yn y presennol. Ac sy’n cyfrannu at greu gwell dyfodol – i bobl ac i’r blaned. Cyfeillgarwch sydd wedi’i feithrin dros ganrifoedd, ond â’i lygad ar y dyfodol.
- Blwyddyn Cymru a Japan 2025, Llywodraeth Cymru
Mae Rhaglen Ddiwylliannol Cymru a Japan 2025 yn ddathliad o'r cysylltiadau rhwng Cymru a Japan drwy'r celfyddydau, creadigrwydd ac ieithoedd. Partneriaeth rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, y Cyngor Prydeinig, a Llywodraeth Cymru, yw hon, ac mae'n rhan greiddiol o Flwyddyn Cymru a Japan 2025 i ddathlu a chryfhau cysylltiadau rhwng ein cenhedloedd.
Mae’r rhaglen flwyddyn o hyd yn bwrw goleuni ar werthoedd a chreadigrwydd unigryw Cymru yn Japan, a rhai Japan yng Nghymru. Mae wedi arwain at 21 o brosiectau ar y cyd, gyda phwyslais penodol ar lesiant diwylliannol, cynaliadwyedd, ac ieithoedd brodorol. A honno’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – darn arloesol o ddeddfwriaeth yng Nghymru – mae’r rhaglen yn cynnwys cyweithiau creadigol sydd wedi’u seilio ar gydraddoldeb, cyfiawnder hinsawdd, cymuned ac iaith.

Arddangos celfyddydau a diwylliant yn Japan
Ym mis Hydref 2025, bydd y rhaglen yn gyfle i arddangos celfyddydau, diwylliant, creadigrwydd ac ieithoedd Cymru yn Japan, a hynny mewn digwyddiadau a lleoliadau o bwys. Yn eu plith, bydd:
Keltronika – arddangosfa gerddorol a chelfyddydol o Gymru yn Tokyo, gyda Gwenno, Cian Ciarán, Dean Lligwy a Mark James
- Mae Only Boys Aloud yn teithio i Japan and y tro cyntaf i barhau i gyfnewid cerddoriaeth gyda phobl ifanc yn Oita a Kuakyushu ac ar gyfer cyfres o gyngherddau.
- Arddangosfa Greadigol a Diwylliannol Cymru i ddiwydiannau creadigol Japan yn Llysgenhadaeth y Deyrnas Unedig, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymru Greadigol a Media Cymru
- Dawns y Ceirw – perfformiad gan Theatr Cymru, a chyfle i arddangos Sibrwd, platfform theatr a thechnoleg Cymraeg, gyda Pharc ac Amgueddfa Genedlaethol Ainu UPOPOY, Hokkaido
- S4C yn rhyddhau ffilm Pethau Bychain yn fyd-eang. Arddangosfa amlieithog o ddiwylliant llesiant Cymru, a honno wedi’i chomisiynu gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i ddathlu dengmlwyddiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Gyda Junko Mori, artist Japaneaidd sy’n byw yng Nghymru, a saith o artistiaid eraill; Iestyn Tyne sy’n cyflwyno.

Amcanion y rhaglen:
- Meithrin y berthynas ddiwylliannol a’r cysylltiadau yn yr economi greadigol rhwng Cymru a Japan, a chychwyn partneriaethau newydd. Bydd y rheini wedi’u seilio ar y nodau llesiant ac ar wreiddio cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.
- Gwella gwybodaeth leol am Gymru, ein diwylliant a’n gwerthoedd yn Japan, gan ddatblygu ar raglen 2019, a dod â phrofiadau a gwybodaeth am Japan yn ôl i Gymru

- Bwrw goleuni ar fodel llesiant diwylliannol unigryw Cymru – gyda phwyslais penodol ar amrywiaeth, y celfyddydau, iechyd a llesiant, ac iaith, gan ddangos ein hymrwymiad i gyfiawnder hinsawdd a chyfraith ysbrydoledig Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid o Japan i gynllunio ffordd newydd o weithio ym meysydd y celfyddydau, diwylliant a’r diwydiannau creadigol, gan greu cyfleoedd newydd ar gyfer cyd-fuddsoddi a nawdd.
Pethau Bychain
Byrdwn neges Dewi Sant, ein nawddsant, oedd y dylen ni oll ymrwymo i’r pethau bychain y gallwn eu gwneud sy’n arwain at newid mwy o lawer. Ym myd heddiw, mae’n golygu gweithredu yn lleol i gyflawni amcanion datblygu cynaliadwy byd-eang.
Bro a Byd
Rydyn ni’n bodoli fel rhan o’r ddynoliaeth fyd-eang, a rhaid inni ddeall ein hunain a gweithredu yn y modd hwnnw. Ond os nad ydyn ni eisoes yn gyfartal yma yng Nghymru, sut allwn ni drin pobl eraill y tu allan i Gymru yn gyfartal, heb sôn am gredu bod gan ‘genedlaethau’r dyfodol’, sydd heb eu geni eto, hawliau? Ac felly mae’r byd-eang yn ein dwyn yn ôl at y lleol; rhaid inni wneud ein gwaith gartref yn union fel y gwnawn waith ar y llwyfan rhyngwladol. Nid yw’r ddau beth ar wahân.
allan o adroddiad Watch Africa Cymru, Nid yw Moroedd Mwyn yn creu Morwyr Medrus.

Prosiectau a gefnogwyd gan Gronfa Ddiwylliannol Cymru Japan 2025
- Taith côr Only Boys Aloud o amgylch Japan: Aloud
Oita • Kitakyushu • Hiroshima • Tokyo | 08-15 Hydref 2025
- Cyfnewidfa Artistiaid Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Gelf Llywyddiaeth Oita: Amgueddfa Cymru
Oita | 16-30 Tachwedd 2025
- Gŵyl Animeiddio Caerdydd x Gŵyl Animeiddio Ryngwladol New Chitose: Gŵyl Animeiddio Caerdydd
Hokkaido • 21-25 Tachwedd 2025 | Ar-lein • 01-08 Rhagfyr 2025
- Serameg Japaneaidd cynaliadwy yng Ngŵyl Serameg Ryngwladol 2025: Yr Ŵyl Serameg Ryngwladol
Aberystwyth • 27-29 Mehefin 2025
- Chwedl y Ddwy Ddraig – Cysylltu Cymru a Japan drwy straeon i blant: Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru
Osaka • Kobe • Kyoto | 23 Hydref – 04 Tachwedd 2025
- Mari Wirth x Green Bird Himeji: Cysylltu Pobl â Byd Natur ar Ein Planed Ni: Mari Wirth
Himeji • 14-16 Tachwedd 2025
- Rhaglen Breswyl Cymru Japan Coed/Coexist: Plas Glyn y Weddw x Junko Mori a John Egan
Oishi, Fujikawaguchiko-machi • Llanbedrog | 01 Medi - 31 Hydref 2025